Diwrnod Natura 2000 - rhwydwaith gwerthfawr o safleoedd pwysig ac arbennig

Eleni mae #DiwrnodNatura2000 yn disgyn ar 21 Mai ac i ddathlu mae’r blog hwn yn edrych ar brosiect a gefnogir gan Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n adfer dau safle Natura 2000, a chynefin prinnaf Cymru, cyforgrosydd yr iseldir.

Mae gan Gymru 20 o Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig ar gyfer adar sy'n agored i niwed a 92 o Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ar gyfer rhywogaethau prin eraill a chynefinoedd naturiol sydd dan fygythiad.

Gyda'i gilydd fe'u gelwir yn Natura 2000, ac ynghyd ag ardaloedd ledled Ewrop, maent yn ffurfio rhwydwaith digyffelyb o bwysigrwydd rhyngwladol ar gyfer cadwraeth natur.

Mae rhwydwaith Natura 2000 Cymru yn cwmpasu mwy na 700,000 hectar (8.5% o arwynebedd tir Cymru a 35% o ddyfroedd tiriogaethol).

Gwerth rhwydwaith Natura 2000

Mae safleoedd Natura 2000 yn darparu noddfa hanfodol ar gyfer rhywogaethau a chynefinoedd sydd dan fygythiad rhyngwladol, maent yn cyfrannu'n sylweddol at economi Cymru trwy dwristiaeth, hamdden, ffermio, pysgota a choedwigaeth.

Mae'r safleoedd hyn hefyd yn darparu gwasanaethau cynnal bywyd hanfodol i bob un ohonom, megis puro ein dŵr yfed a storio carbon, ac arddangos ein hamgylchedd naturiol ar ei orau, gan roi mwynhad i filiynau o ymwelwyr bob blwyddyn.

Mae cynefinoedd gwarchodedig yn amrywio o goetiroedd derw hynafol, rhostir yr ucheldir, mawndiroedd, twyni tywod, afonydd a llynnoedd cynefinoedd morol aberoedd, arfordir creigiog a môr agored.

Er mwyn gwella a diogelu'r safleoedd hyn, mae'n hanfodol cymryd camau cydgysylltiedig.

Amddiffyn safleoedd Natura 2000 yng Nghymru

Un o'r prosiectau adfer mawndir cenedlaethol cyntaf yw prosiect Cyforgorsydd Cymru LIFE, ariennir y prosiect arloesol gan grant rhaglen LIFE yr UE, Llywodraeth Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Yn y DU rydym wedi colli 94% o gyforgorsydd yr iseldir, nod y prosiect yw adfer saith o'r enghreifftiau gorau yng Nghymru.

Mae'r safleoedd yn gartref i blanhigion pwysig a phrin fel migwyn (mwsoglau cors) a bywyd gwyllt prin fel gwrid y gors ac andromeda’r gors.

Dau o'r prif safleoedd y mae'r prosiect yn canolbwyntio eu gwaith adfer arnynt yw safleoedd Natura 2000, Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron (GNG) a Cors Fochno, rhan o GNG Dyfi, y ddau yng Ngheredigion.

Mae mawndiroedd yr ucheldir a'r iseldir yn ymestyn dros amcangyfrif o 4% o dirwedd Cymru sy'n cynnal llawer o gynefinoedd a rhywogaethau pwysig.

Maent yn adnodd naturiol pwysig ar gyfer storio a dal carbon, rheoleiddio allyriadau nwyon tŷ gwydr, bioamrywiaeth a rheoleiddio dŵr.

Bydd adfer mawndiroedd Cymru yn cychwyn ar y broses o wyrdroi'r dirywiad yn ein hamgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol ac ar yr un pryd yn storio carbon dan glo yn y ddaear.

Adfer ein mawndiroedd

Mae cyforgorsydd yr iseldir yn cael eu henwau oherwydd eu bod yn ardaloedd siâp cromennog o fawn - wedi'u cronni dros filoedd o flynyddoedd.

Mae cyforgorsydd yn cynnwys mawn sy'n storio carbon ac er mai dim ond 3% o arwyneb y byd y mae mawndiroedd yn ei orchuddio, maent yn storio 30% o garbon y pridd ac felly maent yn rhan hanfodol o'r frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd.

Dechreuodd prosiect Cyforgorsydd Cymru LIFE waith adfer y llynedd, ac mae'r prosiect bellach yn dechrau gweld canlyniadau cadarnhaol.

Hyd yn hyn mae'r prosiect wedi creu dros 18,000 metr (12 milltir) o fynds mawn (cloddiau mawn 25cm o uchder sydd yn dilyn cyfuchliniau naturiol y gors) ar Cors Caron a Cors Fochno.

Nod y gwaith yw adfer lefelau dŵr mwy naturiol ac arafu colli dŵr yn haen uchaf y gromen fawn, gan ddal dŵr ar y gors am gyfnod hirach.

Mae byndiau mawn yn sefydlogi lefelau'r dŵr o fewn 10cm i wyneb y gors am 95% o'r flwyddyn.

Trwy greu'r byndiau hyn, amcangyfrifir y bydd bron i 85 hectar (210 erw) o gynefin cors yn elwa ac yn cael ei ddychwelyd i gyflwr da gan helpu i greu mawn newydd a chloi mwy o garbon.

Bydd adfer lefelau dŵr naturiol ar gyforgorsydd yn sicrhau eu bod yn aros yn wlypach am gyfnod hirach, gan helpu i greu ardaloedd lle gall migwyn (mwsogl y gors) bwysig sefydlu a ffynnu.

Ychydig fisoedd ar ôl dechrau'r gwaith, mae arwyddion calonogol eisoes bod lefel dŵr mwy naturiol yn dechrau ffurfio.

Ymladd yn erbyn newid yn yr hinsawdd

Migwyn yw peiriannydd cynefin cyforgorsydd gyda'i gallu anhygoel i ddal dŵr a gwrthsefyll pydredd. Unwaith y bydd yn pydru'n rhannol mae'n ffurfio pridd mawn brown tywyll.

Mae amrywiaeth o fathau o figwyn yn arwydd o gors iach, ac mae'r mawn y mae'n ei greu yn amsugno ac yn storio tunnell o garbon o'r atmosffer yn naturiol, gan helpu yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd.

Erbyn diwedd y prosiect bydd dros 900 hectar o gors uchel wedi'i adfer yng Nghymru, bydd hyn yn gweld gostyngiad mewn allyriadau CO2 o tua 400 kt y flwyddyn - sy'n hafal i oddeutu 7% o'r holl allyriadau sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth yng Nghymru, a 76% o gyfanswm allyriadau CO2 Ceredigion.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith adfer, ewch i'n tudalen Facebook @CyforgorsyddCymruWelshRaisedBogs neu'r dudalen Twitter @Welshraisedbog

Beth ydych chi'n gallu gwneud?

Bydd gwella cynefinoedd ar raddfa fawr fel cyforgorsydd yn gwneud gwahaniaeth yn y tymor hir, ond gallwn hefyd wneud gwahaniaeth ar lefel unigol.

Mae #DiwrnodNatura2000 yn ffordd dda o ddysgu mwy am ein hamgylchedd, fel ein bod yn ailgysylltu ac yn gofalu am y bywyd gwyllt a'r planhigion o'n cwmpas gan ein helpu i wneud penderfyniadau ymddygiadol cadarnhaol.

I ddarganfod mwy, ewch i wefan Diwrnod Ewropeaidd Natura 2000.

I ddarganfod mwy am y prosiect Corsydd Codi Cymreig LIFE ewch i https://naturalresources.wales/liferaisedbogs

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru