
Mae corsydd iach yn dod â manteision ardderchog i fywyd gwyllt a phobl. Maent yn helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd drwy storio symiau enfawr o garbon, maent yn gynefin i blanhigion ac anifeiliaid prin, ac yn lleoedd rhagorol y gall pobl ymweld â hwy i fwynhau’r awyr agored.
Diben y prosiect pedair blynedd hwn yw gwella cyflwr saith o gyforgorsydd pwysicaf Cymru, gan adfer tua 690ha o fawndir.
Bydd ein gwaith yn cynnwys, gwella systemau draenio, lleihau rhywogaethau goresgynnol, cael gwared o dir prysg a chyflwyno pori ysgafn - a hyn oll mewn partneriaeth â chymunedau lleol, perchnogion tir a chontractwyr.
Y saith cyforgors
Y ddau safle mwyaf yn y prosiect yw:
Bydd gwaith adfer hefyd yn digwydd ar safleoedd ger:
- Trawsfynydd ym Mharc Cenedlaethol Eryri
- Rhosgoch, Powys
- Craig y Ciliau, Powys
- Carmel, Sir Gaerfyrddin
- Esgyrn Bottom, Sir Benfro
Cyllido’r prosiect
Mae’r prosiect £4 miliwn hwn wedi cael ei ariannu gan grant rhaglen LIFE yr UE, gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Cyfryngau Cymdeithasol a chysylltu
Mae’n bosibl ichi gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect drwy ddilyn ein tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol
Twitter: @WelshRaisedBog
Os bydd arnoch angen rhagor o wybdoaeth am y prosiect, cysylltwch â carol.fielding@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk