Gwaith yn digwydd yn Niwbwrch yr haf hwn
Mae gwaith adfer yn cael ei wneud yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch, Ynys Môn yr haf hwn.
Bydd prosiect Twyni Byw, sydd dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gwneud gwaith i helpu i warchod cynefinoedd ar y safle sy’n gartref i rai o’r rhywogaethau mwyaf prin yn Ewrop.
Tua diwedd Awst a thrwy gydol yr hydref, bydd gwaith adfer yn digwydd yn llawer o byllau’r twyni a llaciau gweddillol y twyni sy’n cael eu galw yn lleol yn Hendai, Ffrydiau, Pant Mawr, Pant Bodowen a Phant Gwylanod.
Bydd crafu llystyfiant trwchus ac ailbroffilio rhywfaint o arwyneb y ddaear yn helpu i adfywio pyllau ble mae gordyfiant, creu cynefinoedd llaith newydd mewn llaciau, dinoethi tywod a chreu pwll newydd.
Bydd y gwaith cadwraeth hanfodol hwn yn helpu poblogaethau dan fygythiad a phrin o dafolen y traeth, sy’n un o nifer o blanhigion arbenigol yn Niwbwrch sy’n dibynnu ar amodau cynefin agored. Bydd hefyd yn gwella’r amodau i’r fadfall ddŵr gribog ar y safle, sy’n rhywogaeth warchodedig yn Ewrop.
Bydd prysgoed goresgynnol hefyd yn cael eu tynnu o lennyrch yn y goedwig o’r enw Pant Mawr, Ffrydiau a Cherrig Duon.
Mae’r prysgoed yn gymysgedd o rywogaethau estron, er enghraifft cotoneaster a choeden lawrgeirios, ar y cyd â rhywogaethau brodorol fel helyg, bedw a mieri, sy’n gallu goresgyn ardaloedd agored yn gyflym ac achosi i ddolydd blodau gwyllt, nentydd rhyddlifol, a chefnau craig cyn-Gambriaidd ddiflannu.
Bydd y gwaith a fydd yn cychwyn tua dechrau mis Awst yn cynnwys torri glaswelltir y twyni, arfer sy’n hanfodol er mwyn cadw cynefinoedd yn iach ac annog cwningod i bori yn ogystal â hybu blodau gwyllt y safle.
Ym mis Awst a Medi, bydd cyfanswm o 4km o ffensys newydd yn cael eu codi ar draws ochr flaen a dwyreiniol Cwningar Niwbwrch er mwyn caniatáu i’r safle gefnogi pori cynaliadwy yn llawn a sicrhau bod y da byw yn cael eu cadw’n ddiogel.
Fel rhan o’r gwaith hwn, bydd hofrennydd yn cludo deunydd ffensio i fannau diarffordd y cwningar, gan sicrhau na chaiff cynefin y twyni ei ddifrodi gan gerbydau.
Meddai Jake Burton, Swyddog Prosiect Twyni Byw: “Mae Niwbwrch yn gartref i rai o gynefinoedd mwyaf gwerthfawr Cymru ac yn cynnal amrywiaeth o fywyd gwyllt prin, gan gynnwys tegeirianau, amffibiaid, infertebratau, mwsoglau, cennau a llawer mwy.
“Mae’r gwaith adfer hwn yn hanfodol ac yn helpu i warchod a gwella gwerth Niwbwrch o ran cadwraeth natur. Mae sicrhau bod safleoedd fel y rhain yn iach yn ein helpu i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur.
“Efallai y bydd rhywfaint o darfu ar y safle, gyda gwyriadau i lwybrau mewn lle. Fodd bynnag, caiff y gwaith ei gynnal i amharu cyn lleied â phosib.
“Hoffem ddiolch i’r cyhoedd am eu dealltwriaeth yn ystod y cyfnod hwn, a byddwn yn parhau i weithio’n ofalus gydag aelodau’r gymuned a rhanddeiliaid wrth reoli’r safle pwysig hwn sy’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol.”
Mae Twyni Byw yn brosiect wedi’i ariannu gan yr UE dan arweiniad CNC sy’n adfer dros 2,400 hectar o dwyni tywod ar draws pedair Ardal Cadwraeth Arbennig, ar 10 o safleoedd gwahanol yng Nghymru.
Bydd diweddariadau rheolaidd yn cael eu postio ar y cyfryngau cymdeithasol drwy @TwyniByw ar Twitter, Instagram, a Facebook, neu chwiliwch am Twyni Byw / Sands of LIFE.