Y diweddaraf am y risg o lygredd yn nyfroedd ymdrochi Dinbych-y-pysgod

Traeth y De Dinbych-y-Pysgod

Mae rhybudd llygredd mewn pedwar o ddyfroedd ymdrochi dynodedig yn Ninbych-y-pysgod wedi cael ei dynnu.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cael gwybod gan Dŵr Cymru fod y bibell ymgodol a oedd wedi byrstio ger Dinbych-y-pysgod, a achosodd i garthffosiaeth fynd i mewn i Afon Rhydeg ar 1 Gorffennaf, wedi cael ei hatgyweirio.

Mae canlyniadau samplau dŵr a gymerwyd ar 3 Gorffennaf yn dangos mai dim ond ychydig o effaith sydd i lawr yr afon bellach.

Mae CNC bellach yn cael gwared ar y Sefyllfa Annormal, a ddatganwyd yn unol â’r Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi. 

Dechreuodd yr ymchwiliad ar 1 Gorffennaf, pan hysbyswyd CNC gan Dŵr Cymru fod pibell ymgodol wedi byrstio ger Dinbych-y-pysgod, gan achosi i garthffosiaeth fynd i mewn i Afon Rhydeg.

Roedd gan CNC bryderon ynghylch yr effaith ar ansawdd dŵr mewn dyfroedd ymdrochi dynodedig yn yr ardal. Gosododd Cyngor Sir Penfro arwyddion i rybuddio aelodau'r cyhoedd o'r effaith bosibl o ran llygredd ar Draeth y De Dinbych-y-pysgod, Traeth y Castell, Traeth y Gogledd Dinbych-y-pysgod a Thraeth Penalun.

Bydd Cyngor Sir Penfro yn cael gwared ar yr arwyddion y maen nhw wedi'u gosod yn rhybuddio'r cyhoedd am y perygl o lygredd.