Perygl llygredd yn nyfroedd ymdrochi Dinbych-y-pysgod yn dilyn digwyddiad

Traeth y De Dinbych-y-Pysgod

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ymchwilio i ddigwyddiad llygredd ar Afon Rhydeg ger Dinbych-y-pysgod a allai fod yn effeithio ar ansawdd dŵr ar draethau’r dyfroedd ymdrochi yn Ninbych-y-pysgod a Phenalun.

Dywedodd Dŵr Cymru wrth CNC am bibell ymgodol sydd wedi byrstio ger Dinbych-y-pysgod sydd wedi arwain at garthffosiaeth yn mynd i mewn i Afon Rhydeg, sy’n llifo i’r môr ar Draeth y De yn Ninbych-y-pysgod.

Mae CNC wedi datgan sefyllfa annormal, fel y’i diffinnir gan y Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi, yn y dyfroedd ymdrochi dynodedig a ganlyn:

  • Traeth y De Dinbych-y-pysgod
  • Traeth y Castell
  • Traeth y Gogledd Dinbych-y-pysgod
  • Traeth Penalun

Dywedodd Andrea Winterton, Rheolwr ar Ddyletswydd Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Mae Dŵr Cymru wedi rhoi gwybod i ni am bibell ymgodol sydd wedi byrstio ger Dinbych-y-pysgod sydd wedi arwain at garthffosiaeth yn mynd i mewn i Afon Rhydeg.
“Mae’r bibell ymgodol wedi’i hynysu felly ni ddylai fod unrhyw lygredd pellach i’r afon o’r bibell.
“Oherwydd y potensial i’r llygredd effeithio ar y dyfroedd ymdrochi i lawr yr afon, rydym wedi datgan sefyllfa annormal ac wedi hysbysu Cyngor Sir Penfro a fydd yn gosod arwyddion ar y traethau i rybuddio pobl o’r risg llygredd posib.”

Dywedodd Nathan Miles, Rheolwr Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir Penfro:

“Mae swyddogion o Dîm Rheoli Llygredd y Cyngor wedi bod yn gweithio’n agos gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ac yn cysylltu â Dŵr Cymru ar ôl cael gwybod am y digwyddiad hwn.
“Fel sy’n ofynnol yn sgil y datganiad o sefyllfa annormal, bydd y Cyngor yn gosod arwyddion ar y traethau a allai gael eu heffeithio, sef Penalun a thraethau’r Gogledd, y De a’r Castell yn Ninbych-y-pysgod fore Mawrth.
“Rydym yn deall bod y gollyngiad dan reolaeth a bydd Swyddogion yn parhau i asesu’r sefyllfa ochr yn ochr â CNC wrth i ragor o wybodaeth ddod i law.”

Gellir rhoi gwybod i CNC am achosion tybiedig o lygredd drwy ffonio’r llinell gymorth digwyddiadau 24/7 ar 03000 65 3000 neu ar-lein drwy’r dudalen Rhoi gwybod am ddigwyddiad.

Mae gwybodaeth am ble i ddod o hyd i ddyfroedd ymdrochi dynodedig, a safon y dŵr ymdrochi ar gael ar y dudalen Ansawdd Dŵr Ymdrochi.