Targedau ffosffad llymach yn newid ein barn am gyflwr afonydd Cymru
Am y tro cyntaf ers gosod targedau llymach ar gyfer lefelau ffosffad yn afonydd Cymru, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) heddiw (19 Ionawr 2021) wedi cyhoeddi pecyn tystiolaeth yn amlinellu lefelau ffosffad ar gyfer pob Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) ar draws Cymru.
Darllenwch yr adroddiad ar gydymffurfiaeth afonydd ACA Cymru yn ymwneud â thargedau ffosffad.
Mae naw ACA afonol yng Nghymru – Cleddau, Eden, Gwyrfai, Teifi, Tywi, Glaslyn, Dyfrdwy, Wysg a Gwy. Mae'r afonydd hyn yn cefnogi rhai o rywogaethau mwyaf arbennig Cymru fel eogiaid, misglod perlog, cimychiaid afon crafanc wen a llyriad-y-dŵr arnofiol.
Argymhellodd y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur (JNCC) y dylai sefydliadau cadwraeth natur y DU fabwysiadu targedau llymach ar ôl ystyried tystiolaeth newydd am effeithiau amgylcheddol ffosffad. Yn ogystal, gallai'r tywydd cynhesach a sychach a ragwelir sy'n deillio o newid yn yr hinsawdd leihau llifoedd afonydd yn ystod yr haf, gan arwain at gynnydd mewn crynodiadau ffosffad.
Yn dilyn y mesurau newydd, mae'r adolygiad hwn o dystiolaeth yn dangos bod ymlediad ffosfforws yn gyffredin yn afonydd ACA Cymru gyda dros 60% o'r cyrff dŵr yn methu yn erbyn y targedau heriol a osodwyd.
Yr afon â'r lefel uchaf o fethiannau ffosffad oedd Afon Wysg gydag 88% o'i chyrff dŵr yn methu eu targed. Mae data a gyhoeddwyd yn flaenorol am Afon Gwy, yn ogystal â data newydd ar Afon Cleddau yn dangos bod dros 60% o adrannau afonydd wedi methu eu targedau.
Methwyd â bodloni’r safonau yn achos Afon Teifi isaf a rhannau o Afon Dyfrdwy hefyd.
Pasiodd pob corff dŵr eu targedau mewn tair afon yng ngogledd Cymru - Eden, Gwyrfai a Glaslyn – yn ogystal ag Afon Tywi.
Dywedodd Ruth Jenkins, Pennaeth Rheoli Adnoddau Naturiol CNC:
"Gall ffosffad achosi niwed ecolegol sylweddol i afonydd a gall arwain at y broses o ewtroffigedd mewn afonydd, sy'n achosi llawer o broblemau.
"Tynhawyd safonau cadwraeth fel ffordd o ddiogelu amgylchedd afonydd a mynd i'r afael ag effeithiau newid yn yr hinsawdd. Mae'r targedau newydd a osodwyd ar gyfer lefelau ffosffad yn ein hafonydd yn heriol – ond am reswm da."
Mae ffosffad yn bresennol yn naturiol, ac mae'n cael ei ryddhau'n araf, ar lefelau isel, o ffynonellau naturiol, yn sgil erydiad naturiol ar lannau afonydd, er enghraifft. Fodd bynnag, gall ffosffadau hefyd fynd i mewn i afonydd o arferion rheoli tir, carthffosiaeth a dŵr budr a all gynnwys glanedyddion a gwastraff bwyd.
Bydd angen dulliau gwahanol ar bob afon ac adran o afonydd a bydd CNC yn gweithio gyda phobl a phartneriaid yn lleol ac yn genedlaethol i greu atebion. Mae'r adroddiad yn awgrymu nifer o feysydd lle gellir canolbwyntio gwaith, ac mae'n cynnwys gweithio gydag awdurdodau cynllunio ledled Cymru i'w helpu i ddeall beth allai canfyddiadau'r ymchwiliad eu golygu ar gyfer eu prosesau cynllunio.
Ychwanegodd Ruth Jenkins:
"Drwy rannu'r wybodaeth hon, gallwn i gyd ddeall yn well sut mae lefelau maetholion megis ffosffad yn effeithio ar ein hafonydd a gallwn gydweithio â llunwyr polisi, busnesau, rheolwyr tir a thrigolion i ddiogelu'r afon a'r adnoddau naturiol y mae'n eu darparu.
"Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae i sicrhau bod afonydd Cymru yn iach ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol ac rydym am weithio gydag eraill i ddod o hyd i atebion arloesol.
"Gall newidiadau syml y gallwn ni i gyd eu gwneud yn ein bywydau bob dydd helpu i wneud cyfraniad cadarnhaol at leihau lefelau ffosffad a mathau eraill o lygredd sy'n effeithio ar ein hafonydd."
Bydd CNC yn comisiynu adroddiadau tystiolaeth pellach i ddeall sut mae afonydd Cymru yn cydymffurfio â thargedau ecolegol eraill a bydd yn rhannu'r canfyddiadau fel y gall pawb, gyda'i gilydd, gyfrannu at sicrhau bod gennym amgylcheddau afonol iach.