Atgoffa ymwelwyr yr haf i ofalu am natur

Rydym yn gofyn i rai sy’n ymweld â rhai o safleoedd naturiol mwyaf poblogaidd Gogledd Orllewin Cymru warchod a pharchu'r amgylchedd yn ystod gwyliau'r haf.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn paratoi i groesawu nifer fawr o ymwelwyr i safleoedd gan gynnwys Gwarchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch ar Ynys Môn, Parc Coedwig Coed y Brenin a Pharc Coedwig Gwydir yn ystod gwyliau’r ysgol.

Bydd y cyhoedd yn cael eu hatgoffa i ddilyn y Cod Cefn Gwlad ac i fynd â sbwriel adref, i beidio â chynnau tanau, i ofalu am eu cŵn mewn modd cyfrifol, a chofio bod y safleoedd yn gartrefi i amrywiaeth o fywyd gwyllt ac na ddylent achosi difrod nac aflonyddu ar y safleoedd hyn.

Meddai John Taylor, Arweinydd Tîm safleoedd hamdden Gogledd Orllewin Cymru:

“Mae ein safleoedd yn cynnig cyfuniad o wahanol amgylcheddau rhagorol lle gall pobl ymlacio a mwynhau’r awyr agored trwy gydol y flwyddyn.

“Maen nhw hefyd yn gartrefi i amrywiaeth o fywyd gwyllt ac yn fannau lle ceir lefelau uchel o fioamrywiaeth sydd angen eu hamddiffyn a thrwy ddilyn y Cod Cefn Gwlad gall pobl ymweld yn ddiogel â’n safleoedd ardderchog.

"Rydym yn disgwyl llawer iawn o ymwelwyr yn ystod yr wythnosau nesaf a gall hyn arwain at dagfeydd a llai o lefydd i barcio.

"Felly, rydym yn annog pobl i ofalu bod ganddynt gynllun wrth gefn rhag ofn y bydd cyrchfan yn rhy brysur neu i ystyried ymweld ag un o'n lleoliadau tawelach.

"Mae'n bwysig hefyd mynd â sbwriel adref, cadw cŵn dan reolaeth er mwyn gwarchod adar sy'n nythu a bywyd gwyllt arall a pheidio â chynnau tanau, sy'n gallu mynd allan o reolaeth yn gyflym ac achosi difrod sylweddol i'r amgylchedd.

"Rydym hefyd eisiau atgoffa ymwelwyr nad yw aros dros nos yn cael ei ganiatáu ar ein safleoedd a bod meysydd gwersylla i’w cael yn yr ardal.

"Mae mwyafrif llethol y bobl sy’n ymweld â'n safleoedd yn ymddwyn yn gyfrifol a hoffem ddiolch iddyn nhw am wneud eu rhan. Gobeithio y bydd hynny’n parhau drwy gydol yr haf.”

Bydd wardeiniaid yn patrolio safleoedd CNC yn ystod penwythnos Gŵyl y Banc i ateb unrhyw gwestiynau, rhoi cyngor a chyfarwyddyd a sicrhau bod ymwelwyr yn cael y profiad gorau.

Gallwch weld y Cod Cefn Gwlad yn Cyfoeth Naturiol Cymru / Y Cod Cefn Gwlad: cyngor i'r rhai sy'n ymweld â chefn gwlad