Gwledd y Gwanwyn
Rŵan yw’r amser i fwynhau rhai o olygfeydd, synau ac arogleuon y gwanwyn gan fod y tir a’r bywyd gwyllt ar eu prysuraf a’u mwyaf cyfareddol.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dewis deg o deithiau cerdded gorau’r gwanwyn, sy’n cynnwys golygfeydd gogoneddus, coetiroedd cyfareddol eu lliwiau a dyfodiad adar a phryfetach.
- Mae 2016 wedi’i chlustnodi fel Blwyddyn Antur gan Croeso Cymru – dechreuwch eich antur gyda thaith gerdded wanwynol y gall yr holl deulu ei mwynhau
Wrth i nifer o adar ymfudol ddychwelyd o bell i ymuno â’r boblogaeth sy’n byw drwy gydol y flwyddyn yn ein coetiroedd, gwrandewch ar wledd o ganu i’ch diddanu a’ch difyrru yn ystod eich taith. Gwrandewch am alwad arbennig y Gnocell Fraith Fwyaf a’i drymio rhythmig neu gân faldorddus y telorion tlws; ac os dewiswch gerdded ger gwlyptiroedd, efallai y byddwch yn ddigon lwcus i glywed y rhegen ddŵr swil yn ystod y tymor bridio.
Mae’r DU yn gartref i hanner poblogaeth y byd o glychau’r gog, ac yn ystod sawl un o’n teithiau cerdded bydd modd ichi wledda â’ch llygaid ar “hen lesmeiriol baent” ein clychau’r gog brodorol ac arlliwiau tlws briallu a blodau’r gwynt. Ymhellach, mae coetiroedd a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn gartref i gannoedd o blanhigion gwahanol, gan gynnwys mwsoglau, cennau a rhedyn.
Wrth gwrs, mae’r gwanwyn hefyd yn amser gwych i feddwi ar arogleuon byd natur, gan gynnwys “gwyllt atgofus bersawr” clychau’r gog, arogl nodweddiadol a sawrus garlleg gwyllt a suran y coed, a phersawr ffres a sitrws y ffynidwydden fawr, y fwyaf o blith yr holl goed ffynidwydd.
Mae ein deg o deithiau cerdded gorau’n cynnwys dau lwybr pob gallu a nifer o deithiau cerdded byrrach sy’n addas i deuluoedd â phlant ifanc. Ceir cyfeirbwyntiau ar bob llwybr a byddwch yn cael eich tywys naill ai trwy goetir neu Warchodfa Natur Genedlaethol a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Dyma ddeg o deithiau cerdded gwanwynol heb eu hail:-
Llwybr 1: Llwybr Coedydd Aber, Gwarchodfa Natur Genedlaethol Aber, Parc Cenedlaethol Eryri, gogledd orllewin Cymru
Llwybr 2: Llwybr Nyth yr Eryr, Coed Wyndcliff, Coetiroedd Dyffryn Gwy, de ddwyrain Cymru
Llwybr 3: Llwybr Coedwig Nicholaston, Gwarchodfa Natur Genedlaethol Oxwich, de orllewin Cymru
Llwybr 4: Llwybr Llynnoedd y Goedwig, Parc Coedwig Gwydir, Parc Cenedlaethol Eryri, gogledd orllewin Cymru
Llwybr 5: Llwybr Cerfluniau, Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptiroedd Casnewydd, de ddwyrain Cymru
Llwybr 6: Llwybr Pedair Sgwd, Gwaun Hepste, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, de ddwyrain Cymru
Llwybr 7: Llwybr Nant y Dresglen, Coedwig Crychan (Halfway), canolbarth Cymru
Llwybr 8: Llwybr Cefndeuddwr, Canolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Coed y Brenin, Parc Cenedlaethol Eryri, gogledd orllewin Cymru
Llwybr 9: Llwybr Dŵr Torri Gwddf Hafren, Coedwig Hafren, canolbarth Cymru
Llwybr 10: Llwybr y Rhaeadr, Cwm Rhaeadr, de orllewin Cymru
I gael mwy o wybodaeth am y teithiau cerdded hyn, ewch i:-
http://www.naturalresources.wales/top-ten-spring-walks?lang=cy
Mae’r llwybrau i’w gweld hefyd ar wefannau ViewRanger a TrailZilla. Gallwch eu lawrlwytho’n rhad ac am ddim i’ch dyfais Apple neu Android yma: https://my.viewranger.com/user/details/345048 neu TrailZilla