Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025: “Nid rhybudd at y dyfodol yn unig yw hyn – ond rheidrwydd, yn yr awr hon.”
Cadeirydd newydd CNC yn galw am newid mawr i systemau i achub byd natur wrth lansio adroddiad pwysig
Rhaid i Gymru ailystyried yn sylfaenol sut mae’n cynhesu cartrefi, yn tyfu bwyd, yn teithio ac yn defnyddio tir os yw am osgoi gwaethygu’r argyfwng hinsawdd ac argyfwng byd natur.
Dyma’r alwad frys am weithredu a gyhoeddwyd heddiw gan Neil Sachdev, Cadeirydd newydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wrth iddo baratoi i groesawu’r penderfynwyr yng Nghymru i achlysur lansio adroddiad newydd pwysig ar sefyllfa amgylchedd naturiol y genedl.
Wedi’i gyhoeddi o dan Ddeddf yr Amgylchedd i lywio trafodaethau yn y cyfnod cyn etholiadau’r Senedd, mae Adroddiad CNC ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol (SoNaRR) 2025 yn datgelu’r pwysau y mae Cymru’n ei roi ar y byd naturiol. Mae’r adroddiad yn asesiad o ba mor gynaliadwy y mae Cymru’n rheoli’r adnoddau naturiol a ddefnyddiwn, gan olrhain iechyd ein dyfroedd, yr aer yr ydym yn ei anadlu, ein tir a’n moroedd, ein trefi a’n mannau gwyrdd, a’r planhigion a’r bywyd gwyllt sy’n dal ein hecosystemau at ei gilydd.
Er bod rhywfaint o gynnydd wedi’i wneud ers yr adroddiad diwethaf yn 2020, mae ein trydydd asesiad yn dangos yn ddiamwys fod amgylchedd naturiol Cymru yn parhau i fod ar bwynt tyngedfennol.
Mae’r dystiolaeth o SoNaRR 2025 yn dangos bod byd natur ledled y wlad dan bwysau parhaus sy’n dwysáu, a bod ecosystemau’n cael trafferth ymdopi ag effeithiau cyfunol newid hinsawdd, llygredd, colli cynefinoedd a defnyddio tir mewn ffordd anghynaliadwy. Mae bron i un o bob pump rhywogaeth bellach mewn perygl o ddiflannu, dim ond 40% o gyrff dŵr sydd â statws da, ac mae gwydnwch ecosystemau yn parhau i fod yn isel ar draws rhannau helaeth o’r wlad. Mae Cymru hefyd yn defnyddio mwy na’i chyfran deg o adnoddau naturiol byd-eang ar hyn o bryd.
Mae gwaith adfer mawndiroedd, deddfwriaeth ansawdd aer, y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a Rhaglen Mwyngloddiau Metel Cymru yn enghreifftiau o ymyriadau wedi’u targedu sy’n dechrau mynd i’r afael â heriau amgylcheddol hirsefydlog.
Ac eto mae Cymru yn dal i ddefnyddio a threulio adnoddau naturiol yn gyflymach nag y gallant ymadfer. Mae’r adroddiad yn tanlinellu bod y pwysau’n systemig, wedi’u hymgorffori yn y ffordd rydym yn cynhesu ein cartrefi, yn teithio, yn tyfu ac yn bwyta ein bwyd, ac yn y ffordd rydym yn adeiladu ac yn buddsoddi.
Mewn digwyddiad lansio yng Nghaerdydd, mae CNC a Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol wedi dod ynghyd i annog llunwyr polisi i ddefnyddio tystiolaeth SoNaRR i ailystyried sut mae systemau bwyd, ynni, trafnidiaeth a thir Cymru yn gweithio, a datblygu polisïau beiddgar, trawsnewidiol a all adfer byd natur, cryfhau gwydnwch ac adeiladu economi deg ac adfywiol.
Mae’r bennod Pontydd i’r Dyfodol a gynhyrchwyd ar y cyd yn darparu map trywydd ar gyfer y newid systemig sydd ei angen ar Gymru ar draws sectorau bwyd, ynni, teithio a’r amgylchedd adeiledig. Wedi’i hamlinellu yn erbyn fframwaith ’Pum Pont’, mae’n cynnig ffyrdd ymarferol o droi tystiolaeth yn gamau gweithredu, cau’r bwlch rhwng polisi a bywyd bob dydd, alinio blaenoriaethau cenedlaethol â chyflawni’n lleol, ac yn gwahodd pob sector i gymryd rhan.
Dyma’r Pum Pont sydd eu hangen er mwyn trawsnewid.
1. Ailgynllunio systemau bob dydd
2. Adfer byd natur fel seilwaith hanfodol
3. Adeiladu economi adfywiol
4. Ailalinio llywodraethu ar gyfer y tymor hir
5. Cyflawni trawsnewidiad teg
Yn siarad yn yr achlysur lansio, bydd Cadeirydd CNC, Neil Sachdev, yn dweud:
Mae adroddiad SoNaRR wedi dangos i ni nad yw’r pwysau mwyaf niweidiol ar fyd natur wedi’u cyfyngu i bolisi amgylcheddol. Maent wedi’u cynnwys yn y ffyrdd rydym yn cynhesu ein cartrefi, yn teithio, yn tyfu ac yn bwyta bwyd, yn defnyddio tir, ac yn y ffyrdd rydym yn buddsoddi mewn lleoedd.
Os yw Cymru am barhau i fod yn wlad lle mae pobl a byd natur yn ffynnu, rhaid inni newid y systemau eu hunain – nid rheoli eu heffeithiau yn unig.
SoNaRR yw’r diagnosis, ond Pontydd i’r Dyfodol yw ein hymateb a rennir. Ar yr adeg hollbwysig hon, a chyn etholiadau’r Senedd, rydym yn gofyn i arweinwyr ar draws pob sector gamu ymlaen, rhannu cyfrifoldeb a gweithio mewn partneriaeth â ni i gyflawni graddfa’r newid sydd ei angen ar Gymru.
Yn yr achlysur lansio yng nghampws arloesi sbarc|spark ym Mhrifysgol Caerdydd, bydd Neil yn amlinellu’r alwad i newid systemau mewn sesiwn banel ochr yn ochr â Dirprwy Brif Weinidog Cymru, Huw Irranca-Davies AS, Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, ac Elspeth Jones, Gwarcheidwad Byd Natur ar gyfer Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru.
Meddai Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru:
Mae byd natur yn un o'n cynghreiriaid mwyaf pwerus yn yr ymgais i greu bywydau gwell i bob un ohonom – atal llifogydd, lleihau llygredd a diogelu ein hiechyd.
Heb gamau brys, cydlynol ar draws y sector cyhoeddus i atal a gwrth-droi'r dirywiad peryglus fel y'i nodir yn Adroddiad CNC ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025, rydym yn llythrennol yn peryglu bywydau'n ddiangen.
Mae atebion ar sail natur o'n cwmpas ym mhobman – fel y gwelir ledled Cymru o doeau gwyrdd Abertawe i adfer morwellt ledled y wlad, ac mae angen i bawb ym mhob gwasanaeth cyhoeddus chwarae rhan i ddatgloi pŵer natur – wrth gynllunio cyllidebau a rheoli tir a gofalu am ein hadeiladau hefyd.
Byddai’r canlyniadau o fyw mewn gwlad lle mae byd natur yn rhy wan i'n cynnal yn effeithio fwyaf ar y bobl fwyaf difreintiedig, a byddai’n creu baich anferth ar genedlaethau'r dyfodol.
Ni allwn barhau i anwybyddu’r cysylltiadau profedig rhwng byd natur, iechyd pobl a sefydlogrwydd economaidd. Mae’r dulliau cryfaf ar gyfer sicrhau newid i’w cael yn y penderfyniadau a wnawn ar draws polisi cyhoeddus, buddsoddi a chyflenwi, nid yn unig o fewn y sector amgylcheddol.
Mae’r systemau hyn yn llunio allyriadau, y defnydd o adnoddau a phwysau amgylcheddol, ond maent hefyd yn llunio iechyd, fforddiadwyedd a thegwch. Os cânt eu hailgynllunio’n dda, gyda’r momentwm y mae ein dyfodol yn ei haeddu, gallant ddiwallu anghenion Cymru fel y gall ein pobl ffynnu. Mae adfer byd natur yn fater o fywyd a marwolaeth yn llythrennol, ac mae gan bawb ran ynddo.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies, sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd:
Hoffwn ddiolch i Cyfoeth Naturiol Cymru am yr adroddiad hwn sy'n rhoi asesiad trylwyr i ni o'r heriau sy'n wynebu ein hamgylchedd naturiol. Bydd canfyddiadau’r adroddiad yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o ddatblygu ein polisi adnoddau naturiol yng Nghymru at y dyfodol.
Mae diogelu a gwella natur yn hanfodol i bobl heddiw, ac i genedlaethau'r dyfodol. Mae pobl Cymru wedi gwneud cynnydd gwirioneddol yn hyn o beth – ond mae angen i ni fynd ymhellach eto.
Mae'r adroddiad hwn yn nodi sut y gallwn weithio gyda'n gilydd i ymateb, gan gryfhau camau i adfer natur, mynd i'r afael â llygredd a meithrin y gallu i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd. Bydd Llywodraeth Cymru yn arwain y gwaith hwn ochr yn ochr â phartneriaid ar draws y sector cyhoeddus, busnes a chymunedau i droi tystiolaeth yn gamau gweithredu gwirioneddol ac ystyrlon.
Ychwanegodd Neil Sachdev:
Mae ein hadroddiad yn dangos bod adfer byd natur yn her i’r gymdeithas gyfan. Mae’n mynnu perchnogaeth ar y cyd – ar draws cyrff cyhoeddus, busnesau, cymunedau a dinasyddion. I’r sawl sy’n dadlau fel arall—mae ond angen edrych ar yr effeithiau ar yr amgylchedd a’r effeithiau ar yr hinsawdd yr ydym wedi’u gweld yn ein cymunedau, ar ein tir ac yn ein afonydd dros y degawd diwethaf.
Nid rhybudd am ein dyfodol yn unig yw hwn; mae’n ymwneud â mynd i’r afael â’r hyn sy’n digwydd heddiw hefyd. Os gweithredwn nawr, gyda brys a pherchnogaeth ar y cyd, gall Cymru arwain - nid yn unig o ran uchelgais - ond drwy gyflawni’r raddfa o drawsnewidiad sydd ei hangen ar y genedl. Os na wnawn ni hynny, bydd yr adroddiad SoNaRR nesaf yn dogfennu colled ddyfnach, costau uwch a dewisiadau culach.
Mae Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol (SoNaRR) 2025 ar gael yma. Bydd papur briffio Pontydd i’r Dyfodol ar gyfer llunwyr polisi a phenderfynwyr ar gael yma ar 29 Ionawr 2026.