Atgyweirio a pharatoi: Flwyddyn ar ôl llifogydd Chwefror 2020
Rhaid rhoi gwydnwch Cymru yn erbyn newid yn yr hinsawdd a llifogydd, a’i gallu i addasu i'w heffeithiau, ar frig agenda pawb os yw'r genedl am leihau pa mor agored i ddifrod ydyw yn sgil tywydd eithafol.
Dyna'r alwad gan Brif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Clare Pillman, flwyddyn ers llifogydd Chwefror 2020 a ysgogwyd gan Stormydd Ciara, Dennis a Jorge.
Arweiniodd effeithiau cyfunol y stormydd at rai o’r lefelau glawiad a lefelau afonydd uchaf erioed, a rhai o'r llifogydd mwyaf sylweddol a dinistriol yng Nghymru ers y 1970au gyda 3,130 eiddo wedi'u heffeithio ledled y wlad.
Nid oedd cadarnhad y Swyddfa Dywydd mai Chwefror 2020 oedd y mis Chwefror gwlypaf a’r pumed mis gwlypaf ers dechrau cofnodi yn syndod i'r cymunedau a ddioddefodd effeithiau dinistriol y glaw a'r llifogydd eithriadol bryd hynny.
Mae'r mewnwelediadau a'r data a ddaeth i'r amlwg yn adolygiadau CNC o'r llifogydd wedi datgelu bygythiad cynyddol a gwirioneddol yr argyfwng hinsawdd, y rhagwelir iddo achosi gaeafau gwlypach, garwach, glawiad mwy dwys yn yr haf a chynnydd di-ball yn lefel y môr.
Yn y flwyddyn y mae'r DU yn Llywydd cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig (COP26) yn Glasgow, mae CNC yn annog llywodraethau ar bob lefel, busnesau ac unigolion i achub ar y cyfle i fod yn fwy blaengar wrth chwilio am atebion wrth i Gymru ganfod y ffordd orau ymlaen i wneud ei chymunedau'n fwy gwydn yn erbyn llifogydd.
Dywedodd Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru:
O dywydd eithafol i bandemig byd-eang, mae'r 12 mis diwethaf wedi dangos y gall natur newid popeth heb fawr o rybudd ac y gall ddod â chanlyniadau sy'n llethol ac yn para am amser maith.
Mae stormydd mis Chwefror a’r digwyddiadau llifogydd dilynol wedi gadael atgofion chwerw ar draws y wlad, ac rydym yn dal i gydymdeimlo â’r rhai sy'n parhau i deimlo'r effeithiau heddiw.
Er bod sylw'r byd wedi troi at fynd i'r afael ag argyfwng y coronafeirws, nid yw'r perygl cynyddol o lifogydd a achosir gan yr argyfwng hinsawdd wedi diflannu.
Mae angen i ni reoli disgwyliadau y gellir atal pob achos o lifogydd drwy adeiladu mwy o amddiffynfeydd gan nad oes un ateb sy'n addas i bob sefyllfa wrth frwydro'r heriau sy'n ein hwynebu.
Mae angen i ni ategu amddiffynfeydd gyda mesurau eraill, fel dal dŵr yn ôl yn uwch i fyny yn y dalgylch a gwneud lle i fwy o ddŵr yn y cymoedd. Mae angen inni hefyd wneud eiddo'n fwy gwydn yn erbyn llifogydd, buddsoddi mewn systemau rhybuddio, cymorth cymunedol a chyngor fel y gall cymunedau gymryd eu camau eu hunain i leihau effeithiau llifogydd.
Rhaid i bawb mewn cymdeithas - llywodraeth, busnesau ac unigolion – wneud popeth posibl i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol newid yn yr hinsawdd gyda'i gilydd. A gyda'r DU ar fin cynnal y sgwrs fyd-eang fwyaf ar newid yn yr hinsawdd yn ddiweddarach eleni, mae'n rhaid i Gymru bellach achub ar y cyfle hwn i ddangos gwir arweinyddiaeth yn y ffordd rydym yn lliniaru graddau'r newid yn yr hinsawdd ac yn addasu i'w ganlyniadau.
Drwy gydol y pandemig, mae CNC wedi parhau i archwilio ac atgyweirio amddiffynfeydd rhag llifogydd a ddifrodwyd yn llifogydd mis Chwefror, gan flaenoriaethu'r cymunedau hynny sydd fwyaf tebygol o ddioddef llifogydd.
Mae 2,127 o amddiffynfeydd a strwythurau llifogydd wedi'u harchwilio i sicrhau eu bod yn parhau i gynnig amddiffyniad ac archwiliwyd 170 o asedau risg uchel ar ystâd dir CNC fel pontydd, a thros 100 o domenni glo.
Mae'r holl waith i amddiffynfeydd CNC yr oedd angen rhoi sylw iddynt ar unwaith wedi'i gwblhau i sicrhau bod gan gymunedau yr un lefel o ddiogelwch yr oedd ganddynt rhag llifogydd cyn gaeaf 2019/20.
Roedd hyn yn cynnwys atgyweirio asedau llifogydd mewn lleoliadau sy’n cynnwys Abergele, Llanrwst, i fyny'r afon ac o fewn Llanfair Talhaearn, Pont-hir, tref Brynbuga ac ar Afon Elwy i fyny'r afon o Lanelwy. Nodwyd nifer o asedau hefyd sy'n gofyn am waith yn y tymor byr ac mae'r rhain wedi'u cynnwys mewn rhaglen waith ar gyfer eleni. Mae'r rhain yn cynnwys gwaith ym Machen, Rhisga, Y Clas-ar-Wy a Thywyn.
Mae'r gwelliannau a wnaed i'r gwasanaethau digidol ar wefan CNC bellach yn darparu lefel uwch fyth o wasanaeth i ardaloedd sydd mewn perygl, gan roi gwybodaeth gynhwysfawr mewn amser real am lifogydd, lefelau afonydd, glawiad a lefel y môr i gartrefi, busnesau a chymunedau. Mae CNC hefyd wedi canolbwyntio ar hyfforddi mwy o staff i wneud rolau digwyddiadau, sy'n golygu y bydd mwy o staff yn barod i gamu i ffwrdd o'u swydd bob dydd i ymuno â rotâu ymateb i ddigwyddiadau.
Dywedodd Jeremy Parr, Pennaeth Rheoli Perygl Llifogydd a Digwyddiadau Cyfoeth Naturiol Cymru:
Gwyddom sut y gall llifogydd darfu cymaint ar gartrefi a busnesau, a sut y gall y trallod a'r costau barhau ymhell wedi i’r dyfroedd gilio.
Er y bydd CNC yn parhau i fuddsoddi mewn amddiffynfeydd ac i weithio gyda phartneriaid i helpu i baratoi cymunedau ar gyfer effeithiau posibl, ni fyddwn byth yn gallu atal pob achos o lifogydd. Ac hyd yn oed os nad yw ardal wedi dioddef llifogydd yn ddiweddar nid yw hyn yn golygu na allai weld llifogydd yn y dyfodol.
Dyna pam ei bod yn hanfodol bod pobl yn deall lefel eu perygl llifogydd ac yn deall y camau y gallant eu cymryd i leihau'r effeithiau pe bai'r dyfroedd yn dechrau codi.
Mae gan ein gwefan amrywiaeth o wybodaeth am y camau y gall pobl eu cymryd, gan gynnwys darganfod eich perygl o lifogydd, camau y gallech eu cymryd i ddod yn fwy gwydn yn erbyn llifogydd, sut i ymuno â system rhybuddion llifogydd am ddim CNC a chamau y gall pobl eu cymryd i ysbrydoli trigolion, cymunedau lleol a grwpiau i gydweithio ar gynllun llifogydd cymunedol i wella sut y gallent baratoi ar gyfer y perygl o lifogydd.
Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:
Achosodd y llifogydd llynedd difrod i nifer o deuluoedd, cartrefi a busnesau dros ledled Cymru, gyda golygfeydd bythgofiadwy o lifogydd uchel yn ein trefi a chymunedau.
Yn dilyn y llifogydd, ddarparwyd Llywodraeth Cymru mwy na £5m i ganiatáu gwaith atgyweirio ar frys i amddiffynfeydd llifogydd.
Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, i barhau i amddiffyn cymunedau rhag peryg o lifogydd. Yn anffodus, fel y dangosir gan lifogydd diweddar yng ngogledd a de Cymru, mae digwyddiadau o’r fath yn dod yn fwyfwy tebyg oherwydd effaith yr argyfwng hinsawdd barhaus.
Hefyd cyhoeddom ein Strategaeth Rheoli Risg Llifogydd ac Arfordirol, gan adeiladu ar ein hymrwymiad i fuddsoddi mwy na £350 miliwn i mewn i reoli risg llifogydd ac erydiad arfordirol dros oes y llywodraeth hon, a nodi sut y byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid i reoli'r risgiau dros y degawd nesaf mewn ffordd fwy cynaliadwy.
Mae gwybodaeth am beth i'w wneud cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd hefyd ar gael ar wefan CNC. Mae'r gwasanaeth newydd ar lawiad, lefelau afonydd a’r môr hefyd ar gael ar y wefan gyda negeseuon a rhybuddion llifogydd yn cael eu diweddaru bob 15 munud ar www.naturalresources.wales/flooding