Cynghori'r cyhoedd i beidio nofio ar draeth Llangrannog oherwydd digwyddiad llygredd

Yn dilyn digwyddiad llygredd, mae'r cyhoedd yn cael eu cynghori i osgoi nofio ar draethau Llangrannog a Chilborth, yng Ngheredigion gydag arwyddion bellach wedi eu gosod ar y traethau yn rhybuddio pobl am y digwyddiad.

Am 8am ddydd Gwener 12 Gorffennaf, derbyniodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) adroddiad o ddŵr afliwiedig yn llifo o Afon Hawen i Draeth Llangrannog. Yn fuan wedyn, adroddodd ffermwr yn uwch i fyny'r dalgylchfod bod slyri o'u lagŵn slyri wedi gollwng i fewn i afon. Cafodd swyddog amgylchedd CNC ei dargyfeirio a'i hanfon i ymchwilio.

Ar ôl cyrraedd y fferm, canfu'r swyddog fod y ffermwr eisoes wedi cymryd camau i atal y llygredd yn y ffynhonnell.

Yn dilyn effaith y digwyddiad, mae CNC wedi datgan 'sefyllfa annormal' yn nyfroedd ymdrochi Llangrannog a Chilborth. Mae hyn wedi arwain at arwyddion yn cael eu gosod gan Gyngor Sir Ceredigion i roi gwybod i bobl am y gostyngiad posib yn ansawdd dŵr oherwydd y llygredd.

Dywedodd Dr Carol Fielding, Arweinydd Tîm Amgylchedd CNC yng Ngheredigion: "Rydym wedi gweithredu'n gyflym i ymchwilio a sicrhau bod camau'n cael eu cymryd i atal y llygredd yn ei ffynhonnell. Mewn ymateb i'r effaith amgylcheddol ac ystyried dylanwad llanw, mae sefyllfa annormal wedi cael ei ddatgan ar gyfer Traeth Llangrannog a Thraeth Cilborth.
"Byddwn yn ystyried yr ymateb gorfodi priodol i'r digwyddiad hwn ar ôl i'r ymchwiliad ddod i ben."
Dywedodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet Ceredigion sy'n gyfrifol am Ddiogelu'r Cyhoedd: “Mae gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid rheoleiddio i sicrhau bod y risg o ran iechyd y cyhoedd o'r digwyddiad llygredd hwn yn cael ei reoli. Cynghorir y cyhoedd i beidio â mynd at y traeth a/neu nofio yn y dŵr er eu diogelwch eu hunain nes bod yr arwyddion wedi'u tynnu lawr i ddangos bod y digwyddiad wedi pasio.
“Gall aelodau o'r cyhoedd barhau i nofio ar draethau Tresaith ac Aberporth gerllaw sy'n cael eu patrolio yn ddyddiol gan achubwyr bywyd RNLI rhwng 10:00 a.m. a 6:00 y.h. tan ddydd Sul 1 Medi 2024."

Mae CNC yn parhau â'i ymchwiliad a bydd yn sicrhau bod llif y llygredd i Afon Hawen yn cael ei atal yn llawn. Bydd y sefyllfa annormal yn parhau mewn grym tan ddydd Llun ar y cynharaf. Bydd y statws sefyllfa annormal yn cael ei godi unwaith y bydd y llygredd wedi clirio o'r traeth a'r afon.