Cynnig sesiynau cymorth ymarferol ar-lein ar gyfer trigolion Dinas Powys a effeithiwyd gan lifogydd mis Rhagfyr
Bydd y Fforwm Llifogydd Cenedlaethol (NFF) yn cynnal cyfres o sesiynau cymorth ar-lein ar gyfer trigolion Dinas Powys yr effeithiwyd ar eu cartrefi a'u busnesau gan lifogydd ym mis Rhagfyr.
Bydd y cymorthfeydd, a gyflwynir mewn partneriaeth â Chyngor Bro Morgannwg, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Dŵr Cymru Welsh Water (DCWW), yn rhoi cyfle i bobl geisio cyngor a chymorth ymarferol gan yr NFF ar ystod eang o bynciau gan gynnwys yswiriant a mentrau lles a gwydnwch i'w hystyried tra bod eu cartrefi'n cael eu hadfer, a sut i sicrhau y gall eu cartrefi a'u busnesau wrthsefyll llifogydd yn well.
Bydd trigolion yn gallu cofrestru eu diddordeb ymlaen llaw, i fynychu sesiwn gymorth ar-lein un-i-un. Bydd y sesiynau'n cael eu cynnal am bythefnos, o ddydd Mawrth i ddydd Iau o 16 Chwefror rhwng 10:00am a 3:30pm.
Effeithiwyd Dinas Powys gan lifogydd ychydig cyn cyfnod y Nadolig ar ôl i ardaloedd o Dde-ddwyrain Cymru weld y mis Rhagfyr gwlypaf mewn mwy na 70 mlynedd. Yn dilyn sawl diwrnod o law trwm dwys yn y cyfnod cyn y Nadolig aeth y tir yn ddirlawn, a llethwyd systemau draenio gan achosi i afon Tregatwg orlifo.
Gall preswylwyr a pherchnogion eiddo yr effeithiwyd arnynt neilltuo apwyntiad i fynychu cymhorthfa drwy ffonio 01299 403101 lle byddant yn derbyn cyfarwyddiadau ymuno a chymorth TG.
Bydd swyddogion CNC, DCWW a Chyngor Bro Morgannwg hefyd ar gael yn y sesiynau i ateb unrhyw gwestiynau ar faterion sy'n ymwneud â llifogydd.
Meddai Heather Shepherd, sy’n Arbenigwr Adfer Llifogydd gyda’r Fforwm Llifogydd Cenedlaethol:
Rwy'n dioddef llifogydd fy hun ac yn deall faint o drawma a gwewyr meddwl maen nhw’n ei achosi. Mae'r broses adfer yn llawn straen a phwysau, a dyna pam y byddwn yn annog unrhyw un sydd ag unrhyw faterion neu gwestiynau sy'n ymwneud â llifogydd i ddod i siarad â ni. Rydyn ni yma i helpu, cynnig cyngor, eich cyfeirio at y ffynonellau gorau o gymorth proffesiynol a gwrando'n astud ar eich pryderon.
Dywedodd Tim England, Rheolwr Gweithrediadau Cyfoeth Naturiol Cymru:
Gall llifogydd ddinistrio bywydau pobl ac rydym yn cydymdeimlo’n fawr â’r rhai yr effeithiwyd arnynt gan y glaw trwm cyn y Nadolig.
Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid dros y misoedd diwethaf i ymchwilio i'r hyn a ddigwyddodd yn y lleoliadau yr effeithiwyd arnynt ar draws de Cymru, ac i nodi unrhyw gamau y gellir eu cymryd i leihau'r tebygolrwydd y bydd yn digwydd eto.
Mae'r sesiynau cymorth rhithwir hyn yn darparu llwyfan ardderchog i ni ymgysylltu â thrigolion a pherchnogion busnes pan na allwn gyfarfod yn bersonol yn hawdd oherwydd pandemig y coronafeirws.
Rydym yn falch o gefnogi'r cymorthfeydd ar-lein a gynhelir gan y Fforwm Llifogydd Cenedlaethol fel y gallwn glywed barn preswylwyr yn uniongyrchol, a fydd yn helpu i lywio sut rydym yn symud ymlaen gyda'n gilydd i leihau'r perygl o lifogydd yn yr ardal hon yn y dyfodol.
Dywedodd Paul Kingdon, Pennaeth Rhwydweithiau Dŵr Gwastraff yn Dŵr Cymru Welsh Water:
Rydym yn sylweddoli'r effaith ddinistriol y gall llifogydd ei chael ar bobl fel y digwyddodd yn Ninas Powys ym mis Rhagfyr. Pryd bynnag y bydd llifogydd yn digwydd, ein nod bob amser yw cydweithio â'r holl asiantaethau i ddeall yr achos i geisio lleihau'r risg y bydd yr un peth yn digwydd eto yn y dyfodol. Rydyn ni’n falch o fod yn cefnogi'r digwyddiadau gan y Fforwm Llifogydd Cenedlaethol ac i barhau i weithio gyda'r holl asiantaethau sy’n ymwneud â’r gwaith hwn.
Meddai’r Cynghorydd Peter King, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Wasanaethau Cymdogaeth a Chludiant:
Rwy’n cydymdeimlo’n fawr iawn â phobl Dinas Powys yr effeithiodd y llifogydd ddiwedd mis Rhagfyr arnynt, a hefyd trigolion rhannau eraill o Fro Morgannwg yr effeithiwyd arnynt yn yr un modd. Mae effeithiau llifogydd yn ddinistriol tu hwnt ac rwyf wedi ymrwymo i weithio gyda chymunedau a phartneriaid i helpu i leihau effeithiau personol digwyddiadau glawiad uchel ym Mro Morgannwg yn y dyfodol. I'r perwyl hwn, mae'r Cyngor yn llwyr gydnabod ei rôl gymunedol ac, fel Awdurdod Rheoli Perygl Llifogydd Lleol Arweiniol, ei ddyletswydd gyfreithiol i ymchwilio i achosion o lifogydd sy’n effeithio ar eiddo domestig.
Yr wythnos ddiwethaf aethom ati i annog y rhai oedd wedi dioddef oherwydd llifogydd y tu mewn i’w eiddo yn eu prif fannau byw, neu bobl a gafodd eu symud o'u cartrefi, i wneud cais am gymorth ariannol sydd ar gael i ni yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru. Mae’r manylion llawn ar gael ar ein gwefan. Yn ogystal, mae ymgynghorwyr arbenigol allanol eisoes wedi'u comisiynu i ymgymryd â'r gwaith ymchwilio angenrheidiol i gyfarwyddo sut y gellir lliniaru risgiau llifogydd yn y dyfodol, a'n nod yw darparu'r adroddiadau ymchwilio hyn i’w hystyried gan Lywodraeth Cymru erbyn 31 Mawrth. Rydym yn ddiolchgar am y cyfle i weithio gyda'r Fforwm Llifogydd Cenedlaethol, y cymunedau yr effeithiwyd arnynt a'n partneriaid, ac rydym yn edrych ymlaen at ddeialog ystyrlon a fydd yn arwain at fesurau posibl i leihau'r perygl o lifogydd. Byddwn yn annog y rhai sy'n byw yn Ninas Powys i gymryd rhan yn y broses hon ac i rannu eu syniadau a'u harsylwadau yn ystod y sesiynau fforwm hyn.