Cyfoeth Naturiol Cymru logo

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi derbyn caniatâd cynllunio ar gyfer cynllun llifogydd ar hyd yr Afon Wysg yn Llyswyry gan Gyngor Dinas Casnewydd. 

Bydd y cynllun yn lleihau’r perygl o lifogydd i 2,000 o gartrefi a busnesau ac yn cynnwys cryfhau rhannau o’r arglawdd llifogydd 1350m presennol ar hyd glan ddwyreiniol yr afon ac adeiladu muriau llifogydd newydd, giât llifogydd a darn o briffordd newydd. 

Cafodd y cais, a gyflwynwyd ym mis Gorffennaf eleni, ei gymeradwyo ar 3 Tachwedd, ac mae’n dilyn dau ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd gan CNC ym mis Medi 2020 a mis Mawrth 2021. 

Bydd CNC nawr yn caffael contractwr i gyflawni'r cynllun, y disgwylir iddo ddechrau yn y Gwanwyn y flwyddyn nesaf. 

Jared Gethin, Project Executive Cyfoeth Naturiol Cymru:  

Rydym ni’n falch iawn bod caniatâd cynllunio wedi cael ei sicrhau ar gyfer y cynllun llifogydd newydd yn Llyswyry.  
Gall llifogydd gael effaith ddinistriol ar fywydau pobl, a gwyddwn, o ganlyniad i newid hinsawdd, ein bod ni’n debygol o brofi mwy o lifogydd o ganlyniad i fwy o lawiad a chynnydd parhaus yn lefel y môr. 
Un o’n prif nodau yw lleihau a rheoli’r risg o lifogydd o brif afonydd ar môr yn Cymru, ac mae ein hasesiad risg, sydd wedi’i gefnogi gan ein gwaith modelu llifogydd, yn nodi bod Llyswyry mewn risg uchel ar gyfer y dyfodol. 
Bydd y cynllun hwn yn helpu i leihau’r risg llifogydd yn sylweddol i dros 2,000 eiddo a busnes yng Nghasnewydd.  
Os oes gan unrhyw un bryderon ynglŷn â llifogydd wrth i’r prosiect fynd rhagddo, gallant fynd i’n gwefan i weld eu risg o lifogydd ac i weld  os mae ein Gwasanaeth rhybuddio am lifogydd ar gael ar gyfer eu hardal.

Amcangyfrifir ar hyn o bryd y bydd y cynllun yn costio £20m ac mae’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. 

Yn ogystal â gwella amddiffyniad rhag llifogydd i’r gymuned, bydd y cynllun hefyd yn cynnwys gwelliannau i fannau gwyrdd cymunedol a’r rhan gyfagos o Lwybr Arfordir eiconig Cymru. 

Mae hyn yn cynnwys llwybr troed newydd ym Mharc Coronation sy’n cysylltu â Llwybr Arfordir Cymru i greu llwybr cerdded cylchol gyda llwyfannau gwylio newydd ar draws yr Afon Wysg.  

Mae tair ‘coedwig drefol’ newydd sy’n cynnwys 1,600 o goed ifainc a newydd hefyd ar y gweill ym Mharc Coronation i gyfiawnhau torri oddeutu 650 o goed a llwyni fel rhan o’r gwaith adeiladu.  

Ceir diweddariadau pellach ar y cynllun ar dudalen ymgynghori ar-lein CNC.  

Gall pobl weld eu risg llifogydd yn ôl cod post arwefan CNC