Cynllunio ymlaen llaw yw’r neges allweddol wrth i CNC gyhoeddi cynlluniau i ailagor awyr agored gogoneddus Cymru
Cynllunio ymlaen llaw fydd yr allwedd i sicrhau bod pawb yn gallu mwynhau awyr agored gogoneddus Cymru yn ddiogel, meddai Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) heddiw wrth i’r corff gadarnhau y bydd yn agor mwy o’i safleoedd awyr agored, gan gynnwys llwybrau beicio mynydd, o 6 Gorffennaf.
Mae CNC wedi cadw bron pob un gwarchodfeydd, y coetiroedd a'r coedwigoedd y mae'n eu rheoli ar agor ar gyfer hamdden lleol yn ystod y pandemig goronafirws, ond caewyd y meysydd parcio a'r atyniadau yn unol â mesurau diogelwch cenedlaethol
Ers hynny, cymerwyd camau i roi mwy o fynediad i bobl leol i gefn gwlad wrth ailagor rhai meysydd parcio ledled Cymru.
Mae disgwyl y bydd cyfyngiadau teithio yn cael eu llacio ymhellach ar 6 Gorffennaf, ac felly mae CNC wedi bod yn gweithio'n galed dros yr wythnosau diwethaf i wneud paratoadau ar gyfer ailagor mwy o safleoedd i fwy o ymwelwyr.
Gwnaed penderfyniadau ynghylch pa safleoedd i'w hagor mewn cydweithrediad â phartneriaid, gan gynnwys awdurdodau lleol a'r Heddlu, gan ystyried amgylchiadau cymunedol.
Bydd pob llwybr beicio mynydd yn ailagor ddydd Llun, ar wahân i'r rhai yng Nghoedwig Brechfa a Cwm Rhaeadr lle mae gweithrediadau coedwigaeth parhaus yn parhau.
Ni fydd canolfannau ymwelwyr, caffis a mannau chwarae ar agor am beth amser, a bydd rhai safleoedd yn parhau ar gau oherwydd gweithrediadau cynaeafu, neu lle mae amodau lleol yn awgrymu y gallai nifer uchel o ymwelwyr fod yn anodd eu rheoli.
Bydd cyfleusterau toiled dros dro ar gael mewn rhai safleoedd am gyfnod byr nes bod modd cwblhau'r holl fesurau diogelwch angenrheidiol ar y cyfleusterau parhaol.
Dywedodd Clare Pillman, Prif Swyddog Gweithredol Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu ymwelwyr yn ôl i ddarganfod golygfeydd, synau a mannau agored unigryw Cymru yr ydym i gyd wedi eu colli gymaint dros yr wythnosau a’r misoedd diwethaf.
“Ein prif flaenoriaeth fydd sicrhau y gallwn ddarparu profiad croesawgar i bobl sy'n gobeithio ymweld â'n safleoedd wrth iddynt ailagor. Mae’r coronafeirws yn parhau i fod yn fygythiad i bob un ohonom ac mae'n ddyletswydd arnom i gyd i gymryd pob rhagofal i leihau'r risg i ni'n hunain, ein cydweithwyr ac ymwelwyr eraill.
“I CNC, bydd hyn yn golygu gwneud popeth sydd angen i ni ei wneud i sicrhau bod ein cyfleusterau'n barod i bobl ddychwelyd yn ddiogel. O ran ein hymwelwyr, bydd hyn yn golygu cymryd cyfrifoldeb personol am wneud paratoadau ychwanegol cyn eich ymweliad a gwybod beth i'w ddisgwyl ymhob cyrchfan cyn i chi gyrraedd.
“Dyna pam rydyn ni'n annog ein holl ymwelwyr i gynllunio ymlaen llaw ac edrych ar ein gwefan cyn teithio am wybodaeth am gyfleusterau sydd ar gael ymhob un o'n lleoliadau.”
Mae CNC yn gofyn i ymwelwyr ystyried chwe cham wrth ddychwelyd yn ddiogel, sef camau a luniwyd i annog pobl i wirio manylion ynghylch eu cyrchfan cyn teithio, gan gydnabod y gallai mynediad at wasanaethau a chyfleusterau fod wedi’i gyfyngu.
Chwe cham wrth ddychwelyd yn ddiogel
Cynlluniwch ymlaen llaw
Byddwch yn ymwybodol nad yw’r adeiladau’r canolfannau ymwelwyr ar agor a bod cyfleusterau toiled dros dro ar gael mewn rhai safleoedd.
Cadwch eich pellter
Gwnewch bob ymdrech i gynnal y pellter cymdeithasol gofynnol ar ein llwybrau. Cymerwch amser i ddarllen y canllawiau ar gyfer pob safle ar wefan CNC a dilynwch y cyngor ar arwyddion ymhob lleoliad a fydd yn amrywio o safle i safle.
Parciwch yn gyfrifol
Parchwch y gymuned leol trwy barcio'n gyfrifol mewn meysydd parcio dynodedig. Peidiwch â pharcio ar ymylon na rhwystro llwybrau mynediad brys.
Byddwch yn amyneddgar a pharchus
Efallai y bydd rhai safleoedd yn brysurach nag eraill felly byddwch yn barod i ddychwelyd adref a dychwelyd ar amser tawelach.
Troediwch yn ofalus
Parchwch y planhigion a'r bywyd gwyllt sydd wedi ffynnu dros yr wythnosau diwethaf. Trwy feithrin a pharchu tirweddau rhagorol Cymru nawr, gallwn sicrhau y byddant yno i genedlaethau’r dyfodol eu mwynhau.
Dilynwch y Cod Cefn Gwlad
Cadwch at lwybrau, cadwch gŵn dan reolaeth, ewch â sbwriel adref, gadewch gatiau fel yr oeddynt a pheidiwch â rhwystro mynedfeydd.
Dywedodd Richard Owen, arweinydd tîm cynllunio hamdden ystadau a stiwardiaeth tir yn CNC:
“Rydyn ni eisiau i bawb fwynhau eu hymweliadau â'n safleoedd, ond mae'n anochel y bydd pethau'n edrych ychydig yn wahanol hyd y gellir rhagweld.
“Rhaid i ni sicrhau bod ein cymunedau lleol yn teimlo’n ddiogel a bod gan ymwelwyr yr hyder i ymweld â lleoliadau CNC yn y ffordd fwyaf diogel posibl.
“Rydyn ni’n gobeithio y gallwn ni i gyd weithio gyda’n gilydd yn ystod y cyfnod hwn o addasu. Un peth fydd ddim wedi newid yw cynhesrwydd y croeso a gewch yn amgylchedd naturiol Cymru. Edrychwn ymlaen at weld ymwelwyr yn mentro yn ôl i'n llwybrau, ein gwarchodfeydd ac i'n coetiroedd dros yr wythnosau nesaf."
Bydd mwy o wybodaeth am ba safleoedd a fydd ar agor a beth i’w ddisgwyl yn cael ei diweddaru’n rheolaidd ar ran o’r dudalen ‘Ar Grwydr’ ar wefan CNC.