Ymgysylltu dros y ffôn ar gyfer ymgynghoriad Bryn Posteg ar ôl i coronafeirws ganslo sesiwn galw heibio
Mae sesiynau ymgysylltu dros y ffôn yn cael eu trefnu ar ôl i'r argyfwng coronafeirws orfodi Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i ganslo sesiwn galw heibio ar gyfer ymgynghoriad Bryn Posteg.
Mae CNC yn ymgynghori ar newidiadau arfaethedig i drwydded amgylcheddol safle tirlenwi Bryn Posteg, ger Llanidloes.
Mae'r sesiynau ymgysylltu dros y ffôn wedi'u trefnu i alluogi pobl i adolygu'r caniatâd drafft a gofyn cwestiynau amdano heb adael eu cartrefi.
Dywedodd Holly Noble, Arweinydd Tîm Trwyddedu Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer Gosodiadau a Rheoliadau Sylweddau Ymbelydrol:
“Roedd cyngor iechyd cyhoeddus yn amlwg yn golygu na allem gael sesiwn galw heibio wyneb yn wyneb fel y byddem yn ei wneud fel arfer.
“Rydym yn dal yn ymrwymedig i ymgynghori â phobl mewn modd ystyrlon er gwaethaf yr heriau ac mae'r dewis hwn yn dal i ganiatáu i bobl drafod materion yn uniongyrchol gyda swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru.”
Cynhelir y sesiynau ar 31 Mawrth ac 8 Ebrill rhwng 2 a 8pm.
Gall pobl sydd eisiau cymryd rhan mewn sesiynau archebu slot ar gyfer y naill neu'r llall o'r ddau ddiwrnod ymgysylltu drwy ffonio 03000 654 385.
Dylai galwadau i archebu slot gael eu gwneud cyn diwedd y diwrnod gwaith cyn y naill neu'r llall o'r diwrnodau ymgysylltu.
Roedd yr ymgynghoriad fod dod i ben ar 24 Ebrill, ac mae bellach wedi'i ymestyn i 8 Mai oherwydd yr argyfwng presennol.
O’r blaen, roedd 333,302 metr ciwbig o wastraff wedi'i waredu uwchlaw'r swm a ganiateir.
Byddai’r newid i’r drwydded yn caniatáu i'r gwastraff hwnnw aros ar y safle, ac i 116,657 o fetrau ciwbig o wastraff ychwanegol gael ei waredu.
Mae gwybodaeth am sut i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar gael ar wefan CNC. Mae copi caled ar gael drwy wneud cais drwy’r cyfeiriad e-bost.
Mae angen derbyn pob sylw yn ysgrifenedig erbyn 8 Mai 2020 i permittingconsultations@naturalresourceswales.gov.uk.