Partneriaeth yn darparu deunydd ysgrifennu rhad ac am ddim i deuluoedd ac yn lleihau gwastraff
Mae mwy na 100 o becynnau o ddeunyddiau ysgrifennu rhad ac am ddim, sy’n cynnwys beiros, pensiliau, prennau mesur, marcwyr a chyfrifianellau, wedi cael eu dosbarthu i deuluoedd yng Nghaerdydd sy'n cael trafferth yn yr argyfwng costau byw presennol yn barod ar gyfer y flwyddyn ysgol newydd.
Cafodd y pecynnau eu darparu gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i Ymddiriedolaeth Trussell, sy'n cefnogi rhwydwaith o fanciau bwyd ledled y DU, a chawsant eu dosbarthu mewn sawl banc bwyd ar hyd a lled Caerdydd yn ystod gwyliau'r haf.
Ar hyn o bryd mae CNC yn y broses o symud ei staff o Gaerdydd o'u swyddfeydd presennol i adeiladau Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays.
Mae'r bartneriaeth hon rhwng y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yn golygu y gellir rhoi offer a dodrefn o'r swyddfeydd hyn nad oes eu hangen bellach i bobl sydd eu hangen, ac mae hefyd yn lleihau gwastraff ac yn cyfrannu at yr economi gylchol.
Meddai David Letellier, Pennaeth Gweithrediadau, Canolbarth De Cymru, CNC:
“Mae ein staff wedi bod yn brysur dros yr haf yn helpu i baratoi ein swyddfeydd ar gyfer y symud yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
“Wrth i bobl wagio droriau eu desgiau a'u cypyrddau, daethant ar draws deunydd ysgrifennu nad oeddent ei angen bellach. Roedd rhain yn cynnwys beiros, pensiliau, prennau mesur, marcwyr a hyd yn oed cyfrifianellau, a phob dim yn dal i weithio’n iawn ac angen cartref da!
“Ein tîm Cyfleusterau feddyliodd am y syniad o greu Pecynnau Cychwyn yn yr Ysgol a chysylltu ag Ymddiriedolaeth Trussell i weld a allent eu rhoi i deuluoedd mewn angen i ddarparu offer hanfodol i'w plant wrth iddynt ddechrau neu ailddechrau eu haddysg yn yr ysgol."
Meddai Mark Tugwell, Rheolwr Gweithrediadau Banc Bwyd Caerdydd, sy'n rhan o rwydwaith banc bwyd Ymddiriedolaeth Trussell:
"Yng Nghymru, dosbarthodd yr ymddiriedolaeth fwy na 185,000 o barseli bwyd brys rhwng Ebrill 2022 a Mawrth 2023, gan gynnwys tua 70,000 o barseli i blant — cynnydd o 41 y cant o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Yng Nghaerdydd yn unig, fe wnaethon ni ddosbarthu dros 19,000 o barseli bwyd brys, sef cynnydd o 51 y cant o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
“Roeddem yn falch iawn o dderbyn y pecynnau hyn o ddeunyddiau ysgrifennu gan CNC i'w cynnig i deuluoedd mewn banciau bwyd ar hyd a lled Caerdydd.
“Gall partneriaethau rhwng y sector cyhoeddus a'r trydydd sector chwarae rhan bwysig wrth helpu ein cymunedau yn ystod cyfnodau anodd.
"Yn ddiweddar roeddem yn falch o gael arwain David o CNC a'r Cynghorydd Huw Thomas, arweinydd Cyngor Caerdydd, o gwmpas ein warws yn Sblot. Rydym i gyd wedi ymrwymo i barhau â'r bartneriaeth bwysig hon.”
Meddai David:
“Wrth i’r gwaith o glirio ein swyddfeydd barhau, rydym yn bwriadu sicrhau bod mwy o offer a dodrefn ar gael i sefydliadau ledled Cymru lle bydd yn cael ei ddefnyddio, gan leihau gwastraff a rhoi hwb i'r economi gylchol.
“Gyda'n gilydd fe allwn ni wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl yn y cyfnod anodd hwn.”
Llun (chwith i'r dde): Y Cynghorydd Huw Thomas - arweinydd Cyngor Caerdydd, Mark Tugwell - Banc Bwyd Caerdydd, Emma Revie - Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Trussell, David Letellier, CNC.