Cyfle i bobl lunio dyfodol dyfroedd Cymru

Afon Taf Yng Nghaerdydd

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn galw ar bobl sydd â diddordeb yn iechyd amgylchedd dŵr Cymru i gymryd rhan yn y cyntaf mewn cyfres o ymgynghoriadau am gynlluniau’r dyfodol i ddiogelu a gwella dŵr ledled Cymru.

Mae Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd yn cael eu diweddaru bob chwe blynedd, ac yn gosod y cyfeiriad ar gyfer sut y bydd CNC yn rheoli, amddiffyn a gwella afonydd, llynnoedd, camlesi, dyfroedd daear, aberoedd a dyfroedd arfordirol Cymru.

Mae'r ymgynghoriad cyntaf yn agor heddiw (29 Mai) a bydd yn rhedeg tan 20 Rhagfyr. Mae'n canolbwyntio ar greu'r broses gynllunio a nodi pobl, grwpiau a sefydliadau sy'n dymuno cymryd rhan yn natblygiad y cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd nesaf.

Bydd ail ymgynghoriad chwe mis yn agor ym mis Mehefin 2025, a fydd yn canolbwyntio ar nodi'r heriau sy'n wynebu’r maes rheoli dŵr a datblygu atebion a chamau gweithredu.

Yna bydd Cynlluniau Rheoli Basnau Afonydd drafft yn cael eu cyhoeddi ac ymgynghorir arnynt ym mis Mehefin 2026, cyn cyhoeddi’r cynlluniau terfynol ym mis Rhagfyr 2027.

Dywedodd Natalie Hall, Rheolwr Dŵr Cynaliadwy gyda CNC:
“Dŵr yw un o’n hadnoddau naturiol mwyaf gwerthfawr, sy’n creu ac yn cynnal yr ecosystemau y mae bywyd yn dibynnu arnynt.
“Ond mae ein hamgylchedd dŵr dan bwysau cynyddol. Mae poblogaeth sy'n tyfu, newid hinsawdd, dirywiad mewn bioamrywiaeth a llygredd i gyd yn fygythiadau gwirioneddol.
“Mae datblygu’r set nesaf o Gynlluniau Rheoli Basnau Afonydd yn rhoi cyfle i ni osod uchelgeisiau newydd ar gyfer rheoli ein dyfroedd yng Nghymru. Drwy’r broses byddwn yn ehangu ac yn diweddaru ein dealltwriaeth o gyflwr presennol ein hamgylchedd dŵr, y pwysau sydd arno a pha fesurau sydd eu hangen i’w wella a’i warchod.
“Rydym eisiau manteisio ar y diddordeb cynyddol mewn dŵr ac yn gobeithio gweithio gydag ystod eang o grwpiau, cymunedau a sefydliadau i ddysgu o brofiadau a gwybodaeth pawb am ein dyfroedd yng Nghymru.”

Mae CNC yn arwain ar Gynlluniau Rheoli Basnau Afonydd Gorllewin Cymru ac Afon Dyfrdwy.

Mewn dalgylchoedd trawsffiniol, mae CNC yn gweithio ar y cyd ag Asiantaeth yr Amgylchedd i ddeall a mynd i’r afael â’r bygythiadau i’r amgylchedd dŵr.

Bydd Cynllun Rheoli Basn Afon Hafren yn cael ei arwain gan Asiantaeth yr Amgylchedd, mewn partneriaeth â CNC. Cyhoeddir rhagor o fanylion am ymgynghoriadau cyhoeddus ar Afon Hafren yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Gall pobl sydd â diddordeb mewn cymryd rhan ddod o hyd i ragor o wybodaeth ac ymateb i'r ymgynghoriad ar dudalen we ymgynghori CNC.

Gall unrhyw un na allant gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar-lein gwblhau copi papur drwy e-bostio wfdwales@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu ffonio 03000 65 3000.