Agoriad swyddogol ar ôl gwaith diogelwch Llyn Tegid
Mae prosiect gwerth £7 miliwn i gryfhau argloddiau llyn naturiol mwyaf Cymru, er mwyn atal llifogydd, wedi’i gwblhau.
Ymgymerodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) â’r gwaith ar argloddiau Llyn Tegid yn y Bala i’w galluogi i wrthsefyll tywydd eithafol a lleihau’r perygl o lifogydd i fwy nag 800 o gartrefi, adeiladau ac eiddo.
Roedd y gwaith, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru ac a’i cyflawnwyd gan gwmnïau William Hughes Civil Engineering, Binnies, Arcadis a Ground Control, yn cynnwys cryfhau argloddiau’r llyn gyda mwy na 13,000 tunnell o gerrig, yn ogystal â darparu ar gyfer y posibilrwydd o ehangu Rheilffordd Llyn Tegid yn y dyfodol.
Mae CNC wedi plannu mwy na 900 o goed fel rhan o’r cynllun – tair gwaith y nifer a dynnwyd oddi yno er mwyn peidio gwanhau’r argloddiau.
Mae gwelliannau amgylcheddol a gwelliannau o ran hamddena hefyd, gyda'r gymuned ac ymwelwyr ar fin elwa ar lwybrau troed gwell i bobl o bob gallu, mannau eistedd newydd, ac aildirlunio'r ardal o amgylch Canolfan Hamdden Penllyn a Chaffi Woody's.
Creodd CNC hefyd bum hectar o gynefinoedd naturiol wedi’u hadfer a dolydd newydd â blodau gwyllt, yn ogystal â gwelliannau i’r maes parcio ar lan y llyn.
Roedd angen gwneud y gwaith i sicrhau bod Llyn Tegid yn parhau i fodloni gofynion Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 ac yn parhau’n ddiogel yn y tymor hir.
Dywedodd Clare Pillman, Prif Weithredwr CNC:
“Gall effeithiau llifogydd fod yn ddinistriol a pharhaol. Wrth i’r newid yn yr hinsawdd ddod â thywydd eithafol yn amlach yn ei sgil, bydd y gwaith i gryfhau argloddiau’r llyn yn helpu i leihau’r perygl o lifogydd i dref y Bala.
“Mae pobl leol wedi chwarae rhan allweddol wrth lunio’r prosiect ac mae eu mewnbwn, yn enwedig o ran y cyfleoedd amgylcheddol a hamdden, wedi’i weithredu ochr yn ochr â’r gwaith.
“Hoffem ddiolch i bawb a fu’n ymwneud â chyflawni’r prosiect pwysig hwn, yn enwedig aelodau’r gymuned sydd wedi bod yn amyneddgar iawn yn ystod cwblhau’r prosiect hwn.”
Bu i CNC atal allyriadau carbon hyd yr eithaf drwy gydol y gwaith, gan ailddefnyddio deunyddiau o’r safle ar gyfer nodweddion tirweddu, malu clogfeini llechi o’r arglawdd blaenorol i roi wyneb newydd ar faes parcio’r blaendraeth, ac ailddefnyddio cerrig gwenithfaen ar gyfer borderi.
Cynhaliwyd agoriad swyddogol a dadorchuddiwyd plac ddydd Gwener 31 Mawrth, gydag aelodau o’r gymuned leol yn bresennol, ynghyd â staff a chynrychiolwyr o CNC.