Wedi clywed y mêêêwyddion? Mae cŵn sydd oddi ar y tennyn yn rhoi defaid mewn perygl

- Anogir cerddwyr cŵn i gadw cŵn ar dennyn o amgylch defaid er mwyn lleihau ymosodiadau.
- Er Er bod y mwyafrif o bobl sy'n mynd â'u cŵn am dro yn gwneud hynny mewn ffordd gyfrifol, mae un ymosodiad yn dal yn ormod.
- Gall dilyn y Cod Cefn Gwlad a chadw cŵn ar dennyn o amgylch da byw helpu pawb i fwynhau amser ym myd natur yn ddiogel.
Bydd y gwanwyn wedi cyrraedd cyn bo hir, gyda’i ddyddiau cynhesach a bywyd yn blaguro unwaith eto; fydd hi ddim yn hir cyn i ni weld ŵyn y gwanwyn yn prancio ar draws y caeau.
Er bod ffyniant bywyd newydd a gadael dyddiau llwm y gaeaf yn rhyddhad i lawer, gall hefyd fod yn gyfnod o bryder mawr i ffermwyr a thirfeddianwyr wrth i’r tymor wyna ddechrau.
Mae digwyddiadau parhaus yn ymwneud â chŵn rhydd yn rhoi anifeiliaid mewn perygl. Mae adroddiadau am ymosodiadau ar ddefaid wedi cael eu cofnodi ar draws y wlad, gyda llawer o achosion yn arwain at ddefaid yn marw. Bob blwyddyn, mae defaid a mathau eraill o dda byw yn dioddef straen, anafiadau, a hyd yn oed farwolaeth oherwydd cŵn nad ydynt dan reolaeth. Gall defaid cyfoen gamesgor pan gânt eu herlid, a gall ŵyn gael eu gwahanu oddi wrth eu mamau.
Mae gan hyd yn oed gŵn sydd wedi’u hyfforddi’n dda reddf naturiol i redeg ar ôl anifeiliaid, sy’n ei gwneud hi’n hanfodol i berchnogion gymryd rhagofalon wrth fynd allan i gefn gwlad.
Gall rhedeg ar ôl defaid gynyddu’r risg o gwympo dros glogwyni, a dyna pam y dylid ceisio cadw at lwybrau wedi’u marcio bob amser, oni bai bod mynediad ehangach ar gael. Mae gan ffermwyr yr hawl i gymryd camau ar eu tir eu hunain os ydyn nhw'n teimlo dan fygythiad neu fod eu da byw mewn perygl. Pan fetho popeth arall, gall ffermwr saethu ci sy'n ymosod ar dda byw neu'n erlid da byw. Mae bod yn gyfrifol wrth fynd â’ch ci am dro yn allweddol i sicrhau cytgord rhwng y rhai sy’n caru anifeiliaid anwes a’r rhai sy’n gweithio ar y tir.
Dyna pam rydym yn annog perchnogion cŵn i ymddwyn yn gyfrifol a chadw eu hanifeiliaid anwes ar dennyn o amgylch defaid. Bydd eu cadw ar dennyn ar dir anghyfarwydd yn sicrhau bod pawb yn cael amser da ym myd natur.
Beth all perchnogion cŵn ei wneud?
- Cadwch gŵn ar dennyn bob amser ger defaid a da byw - oni bai eich bod yn teimlo dan fygythiad, yn enwedig o amgylch gwartheg. Peidiwch â mentro cael eich brifo yn amddiffyn eich ci. Bydd rhyddhau'ch ci yn ei gwneud hi'n haws i chi'ch dau gyrraedd man diogel.
- Dilynwch yr arwyddion lleol – maen nhw yno i warchod bywyd gwyllt, cŵn, eu perchnogion a defnyddwyr eraill yr awyr agored.
- Byddwch yn ymwybodol o’r gyfraith – mae gan ffermwyr yr hawl i gymryd camau i amddiffyn eu hanifeiliaid a gallant saethu ci sy’n ymosod ar dda byw neu’n erlid da byw pan fetho popeth arall.
- Sicrhewch fod cŵn yn aros yn eich eiddo ac na allant ddianc - daw rhai ymosodiadau gan anifeiliaid anwes sydd wedi dianc.
- Lledaenwch ymwybyddiaeth - anogwch gerddwyr cŵn eraill i ymddwyn yn gyfrifol I fynd â’ch ci am daith gerdded braf ac iach, dewch o hyd i adnoddau lleol sy'n rhestru safleoedd lle gellir gadael cŵn oddi ar y tennyn. Pan fyddwch yn yr awyr agored dilynwch y Cod Cefn Gwlad bob amser.
Dywedodd Alison Roberts, Cynghorydd Hamdden Cyfrifol yn Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Mae gan berchnogion cŵn gyfrifoldeb i gadw eu ci dan reolaeth effeithiol a sicrhau ei fod yn cadw draw oddi wrth anifeiliaid eraill. Gall dilyn y canllawiau yn y Cod Cefn Gwlad i ddefnyddio tennyn o amgylch defaid helpu pawb i fwynhau'r awyr agored wrth gadw da byw ac anifeiliaid anwes yn ddiogel rhag niwed."
Dywedodd Stephen Jenkinson, Cynghorydd Mynediad a Chefn Gwlad i’r Kennel Club:
“Cadw cŵn ar dennyn o amgylch defaid bob amser yw’r ffordd orau o sicrhau nad yw taith gerdded hapus ac iach yn yr awyr agored yn troi’n drychineb i berchnogion cŵn a ffermwyr fel ei gilydd. Mae caniatáu i gŵn ddianc o gartrefi hefyd yn peryglu bywydau cŵn, ac felly rydym yn annog y mwyafrif cyfrifol o berchnogion cŵn i roi gwybod i’w cyngor lleol bob amser am gŵn rhydd.”
Dywedodd Rhian Pierce, ffermwr defaid yng ngogledd Cymru:
“Mae defaid cyfoen ac ŵyn ifanc yn agored iawn i niwed yr adeg hon o’r flwyddyn. Gall cŵn achosi gofid hyd yn oed os nad ydynt yn ymosod oherwydd gall yr ofn a'r blinder o gael eu herlid achosi i ddefaid cyfoen gamesgor. Mae modd atal y gofid mae hyn yn ei achosi i anifeiliaid a ffermwyr, yn ogystal â’r niwed i fywoliaeth pobl, trwy gadw cŵn ar dennyn ger defaid."
Mae’r Cod Cefn Gwlad yn bodoli i sicrhau bod pawb yn gallu mwynhau amser yn yr awyr agored yn gyfrifol tra’n gwarchod yr anifeiliaid a’r bywyd gwyllt sy’n byw yno. Gydag ychydig o ofal ychwanegol, gall perchnogion cŵn helpu i warchod cefn gwlad a bywoliaeth y rhai sy’n gweithio yno, gan sicrhau bod ŵyn, defaid a mathau eraill o dda byw yn gallu ffynnu’r gwanwyn hwn, a chael amser dymunol ym myd natur gyda’u hanifeiliaid anwes hefyd.