CNC yn cyflwyno cynllun uchelgeisiol i fynd i’r afael â’r bygythiad triphlyg i’r blaned dros y degawd tyngedfennol hwn
Diwrnod Amgylchedd y Byd: “Allwn ni ddim gwylio o’r ymylon wrth i’r argyfyngau natur, hinsawdd a llygredd eu hamlygu eu hunain”
Nid oes cyfaddawdu mwyach os oes gobaith i ni wrthdroi dirywiad bioamrywiaeth, osgoi trychineb gyda’r hinsawdd a throi’r llanw ar lygredd.
Dyma’r alwad gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar Ddiwrnod Amgylchedd y Byd (5 Mehefin) wrth i’r corff amgylcheddol baratoi i lansio ei gynllun yn amlinellu sut bydd yn mynd i’r afael â’r argyfyngau natur, hinsawdd a llygredd dros y degawd tyngedfennol hwn.
Mewn araith yn y Senedd ym Mae Caerdydd yr wythnos hon (6 Mehefin), bydd Prif Weithredwr CNC, Clare Pillman, yn cyflwyno sut bydd cynllun corfforaethol CNC hyd at 2030: Byd Natur a Phobl yn Ffynnu Gyda’n Gilydd yn canolbwyntio ar dri amcan llesiant a fydd yn llywio ei ymateb i’r bygythiadau triphlyg i’r blaned: Erbyn 2030 yng Nghymru, bydd byd natur wrthi’n gwella; cymunedau yn gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd; a llygredd yn cael ei atal hyd yr eithaf.
Wedi’i enwi ar ôl y weledigaeth a fydd yn ysbrydoli’r gwaith o’i gyflawni, mae’r cynllun yn amlinellu sut bydd CNC yn blaenoriaethu camau gweithredu er mwyn sicrhau y bydd natur wrthi’n gwella erbyn 2030, drwy rannu ei wybodaeth a’i arbenigedd ei hun a manteisio ar brofiadau ei bartneriaid i atal a gwrthdroi dirywiad bioamrywiaeth.
Mae’n cyflwyno sut bydd yn cefnogi camau i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ac yn cyflymu camau i liniaru ac addasu yn wyneb y risgiau y mae planed sy’n cynhesu yn eu peri i gymunedau a bywyd gwyllt, a sut bydd yn cyfrannu at uchelgais Llywodraeth Cymru am Gymru sero net erbyn 2050.
Ac wrth i ddiddordeb y cyhoedd yng nghyflwr ein dyfroedd ddwysau, mae’n dangos sut bydd CNC yn blaenoriaethu ei weithredoedd i sicrhau bod natur a phobl yn cael eu hamddiffyn rhag effeithiau llygredd drwy weithio gyda phartneriaid i lanhau ein hafonydd a’n moroedd, gan reoleiddio busnes yn gadarn a lleihau gwastraff.
Mae’n cydnabod ble mai CNC sydd yn y sefyllfa orau i arwain y ffordd i gyrraedd targedau 2030 ar gyfer natur a’r hinsawdd gyda’r offer a’r pwerau unigryw sydd ganddo.
Ac eto yn wyneb anghydraddoldebau cynyddol ac argyfwng costau byw, mae hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd rhannu adnoddau a chydweithio â phartneriaid, gan hoelio’n sylw fwyfwy ar gyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol i sicrhau na chaiff unrhyw ran o gymdeithas ei gadael ar ôl.
Wrth siarad yn nigwyddiad y Senedd, mae disgwyl i Clare Pillman ddweud:
Rydym wedi cyflwyno cynllun corfforaethol sy’n ddigyfaddawd o uchelgeisiol dros fyd natur, yr hinsawdd, a lleihau llygredd. Bydd mesur ein llwyddiant yn ein ffordd o gyflawni nid yn unig yn dibynnu ar sut bydd CNC yn arwain y ffordd, ond ar ba mor dda y byddwn ni, a phobl Cymru, yn cydweithio ar ein cyd-uchelgeisiau ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector mewn dull ‘Tîm Cymru’ go iawn.
Nid dyma’r amser i wylio o’r ymylon. Rydyn ni'n gwybod beth mae angen i ni ei wneud ac mae gennym i gyd, gyda’n gilydd, yr offer a'r wybodaeth i ddod o hyd i'r atebion. Yn syml, mae’n rhaid i ni roi ein troed ar y sbardun, gweithio gyda’n gilydd, gwrando ar amrywiaeth o leisiau, a defnyddio ein holl dystiolaeth a gwybodaeth i wneud y penderfyniadau gorau dros ein planed.
Mae cynllun CNC wedi’i lywio gan asesiadau allweddol a wnaed yn yr Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol (SoNaRR2020), yr Adroddiad ar Gyflwr Natur Cymru, 2019 a’r sgyrsiau cenedlaethol a gynhaliwyd drwy fenter Natur a Ni yn 2022 sydd wedi arwain at weledigaeth ar gyfer 2050, wedi’i chreu a’i hysbrydoli gan bobl Cymru.
Yn ei haraith, bydd Clare hefyd yn tynnu sylw at sut bydd CNC yn gweithio i ysgogi cynnydd gwirioneddol ar y newidiadau polisi y mae eu hangen i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur. Pan fydd y cynnydd ar gyflawni’r tri amcan llesiant yn cael ei arafu neu ei lesteirio gan amgylchiadau y tu hwnt i’w reolaeth, bydd yn defnyddio ei lais i alw am newid.
Y mae’n gynllun sydd eisoes yn ennyn brwdfrydedd gan amrywiaeth o leisiau ar hyd a lled Cymru.
Wrth groesawu uchelgais y cynllun, dywedodd Poppy Stowell-Evans, Cadeirydd Llysgenhadon Hinsawdd Ieuenctid Cymru:
Yn wyneb yr argyfwng hinsawdd, mae’n hawdd iawn teimlo'n bryderus ac yn anobeithiol ond, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnig cynllun cynhwysfawr ac ysbrydoledig sy'n rhoi gobaith ichi ac yn eich grymuso yn hytrach na gwneud ichi deimlo allan o reolaeth. Mae eu cenhadaeth yn un o undod, o gydweithio ac o ddiogelu'r cysylltiad pwysig a hanfodol sydd gan Gymru â natur yn ei gorffennol, ei phresennol a'i dyfodol.
Yn y pen draw, nid yw newid hinsawdd yn fater y gall un person ddelio ag ef ar ei ben ei hun. Mae'n rhywbeth y mae'n rhaid i wlad unedig fynd i’r afael ag ef - gwlad sy'n gofalu am ei phobl a'r byd o'u cwmpas - ac mae'r cynllun hwn yn cynnig camau pendant fel y gall hyn ddigwydd, gan bwysleisio'r pŵer sydd gan Gymru pan fyddwn ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i amddiffyn ein gilydd a'r wlad a'r byd yr ydym yn ei garu gymaint.
Meddai’r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Llefarydd ar Newid Hinsawdd:
Mae gan gynghorau berthynas hanfodol bwysig gyda CNC ac maent yn rhannu eu hymrwymiad i helpu natur i adfer, i wneud ein cymunedau'n fwy gwydn yn erbyn newid yn yr hinsawdd ac i leihau llygredd.
Bydd gweithio ar y cyd yn hollbwysig wrth gyflawni'r amcanion hyn. Rwy'n croesawu'r ffocws yn y Strategaeth Gorfforaethol newydd ar y tri amcan hyn a hefyd y pwyslais ar gyflawni.
Meddai Karen Whitfield, Cyd-gyfarwyddwr Cyswllt Amgylchedd Cymru:
Gwych gweld natur, hinsawdd a gweithredu ar lygredd yn ganolbwynt i Gynllun Corfforaethol newydd CNC. Rydym yn edrych ymlaen at weld yr effaith y bydd hyn yn ei chael ar helpu natur i ffynnu a chyflawni nodau Cymru ar gyfer 2030.
Bydd cynrychiolwyr o amrywiaeth o bartneriaid yn ymuno â Clare Pillman, Cadeirydd CNC Syr David Henshaw, y Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James AS a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Derek Walker yn lansiad swyddogol cynllun corfforaethol CNC hyd at 2030: Byd Natur a Phobl yn Ffynnu Gyda'n Gilydd yn y Senedd ar 6 Mehefin.