CNC yn cadarnhau ei ymrwymiad i gymuned Ynys-y-bwl yn dilyn adolygiad o’r cynllun llifogydd

Nant Clydach gyda eiddo ar Teras Clydach ar y dde

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cadarnhau ei ymrwymiad i drigolion Ynys-y-bwl ar ôl cwblhau Achos Busnes Amlinellol a ystyriodd yr opsiynau ar gyfer lleihau perygl llifogydd i gartrefi ar hyd Teras Clydach.

Effeithiwyd yn wael ar Ynys-y-bwl yn ystod Storm Dennis yn 2020. Torrodd y llifddwr o Nant Clydach dros y wal briffordd gan beri llifogydd yn nifer o’r tai ar Deras Clydach.

Mae topograffeg yr ardal mewn perthynas â’r afon yn peri risg heriol. Yn ystod glaw eithafol, gall llifogydd ddigwydd yn gyflym a bod yn arbennig o ddwfn.

Ystyriodd yr Achos Busnes Amlinellol amrywiaeth o ddatrysiadau posibl ar gyfer rheoli perygl llifogydd, gan gynnwys codi wal amddiffyn uwch a phrynu’r eiddo sy’n wynebu’r perygl mwyaf.

Fodd bynnag, canfu’r asesiad nad yw’r naill opsiwn na’r llall yn agos at fod yn economaidd hyfyw o dan reolau cyllido Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru at ddibenion rheoli perygl llifogydd, rheolau y mae’n rhaid i CNC eu dilyn.

Byddai angen i’r wal amddiffyn arfaethedig amrywio ar ei hyd rhwng 3.5 metr a 4.5 metr uwchlaw lefel y ffordd er mwyn cynnig lefel dda o amddiffyniad, a fyddai’n costio llawer uwch na’r manteision economaidd amcangyfrifedig, hyd yn oed ar ôl ystyried y ffactorau o ansicrwydd.

Canfuwyd hefyd nad oedd prynu’r eiddo sy’n wynebu’r perygl mwyaf yn gost-effeithiol i fod yn gymwys i dderbyn cyllid Cymorth Grant Amddiffyn rhag Llifogydd gan Lywodraeth Cymru.

Er bod y casgliad hwn yn siomedig, ni fydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn troi eu cefn ar y gymuned a bydd yn parhau i weithio gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf a Llywodraeth Cymru i benderfynu ar y ffordd fwyaf realistig a chynaliadwy ymlaen.

Meddai David Letellier, Pennaeth Gweithrediadau, Canol De Cymru ar gyfer CNC:

“Rydym yn gwybod bod perygl llifogydd yn effeithio’n fawr iawn ar fywydau a lles pobl, ac rydym yn deall y bydd hyn yn newyddion siomedig i’r trigolion.
“Roedd hwn yn asesiad trylwyr o’r hyn sy’n bosibl yn Ynys-y-bwl, ac er na allwn fwrw ymlaen â chynllun sylweddol ar hyn o bryd, dydyn ni ddim yn troi ein cefnau ar Ynys-y-bwl.
“Rydym wedi ymroi o hyd i weithio gyda’r gymuned ac awdurdodau lleol i archwilio beth arall y gellir ei wneud i reoli’r perygl a chefnogi trigolion.”

I gael rhagor o wybodaeth ewch i: Rheoli perygl llifogydd yn Ynys-y-bwl

I gael gwybodaeth am beth i'w wneud cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd, ewch i wefan CNC.