Datganiad CNC i'r cyfryngau - Storm Claudia - 12:00pm Dydd Sadwrn 15 Tachwedd 2025
Dywedodd Sally Davies, Rheolwr Tactegol ar Ddyletswydd, Cyfoeth Naturiol Cymru:
Mae Storm Claudia wedi cael effaith enfawr ar gymunedau ledled Cymru, yn enwedig yn Sir Fynwy, ac mae ein meddyliau gyda phawb sydd wedi cael eu heffeithio.
Cyrhaeddodd lefelau ar Afon Mynwy yr uchaf erioed, gan ragori ar y rhai a gofnodwyd yn ystod Storm Dennis yn 2020 a Storm Bert y llynedd.
Mae cyfaint y glaw sy'n llifo drwy'r afon wedi arwain at ddŵr yn gorlifo dros y glannau, ac wedi gadael llawer o ganol Trefynwy a rhai cymunedau cyfagos o dan ddŵr. Gyda digwyddiad mawr wedi'i ddatgan, rydym yn cynorthwyo partneriaid gydag ymdrechion adfer.
Mae tri Rhybudd Llifogydd Difrifol mewn grym ar Afon Mynwy, ac un arall ar Afon Gwy yn Nhrefynwy. Mae hyn yn golygu bod perygl i fywyd ac rydym yn annog pobl i ddilyn cyngor y gwasanaethau brys ar lawr gwlad.
Mae nifer o Rybuddion Llifogydd mewn grym ledled Cymru. Er ein bod yn disgwyl i'r niferoedd ostwng yn ystod y dydd, rydym yn disgwyl i rai aros yn eu lle am beth amser wrth i'r glaw symud i lawr y dalgylchoedd, ac i afonydd barhau i ymateb. Rydym yn annog pobl i wirio'r rhybuddion llifogydd diweddaraf ar ein gwefan lle mae'r tudalennau yn cael eu diweddaru bob 15 munud.
Er bod y glaw wedi clirio, rydym yn gofyn i'r cyhoedd gadw'n ddiogel a’n wyliadwrus. Cadwch draw o lannau afonydd a pheidiwch â gyrru na cherdded trwy ddŵr llifogydd.
Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan lifogydd, mae gan ein gwefan gyfoeth o wybodaeth a dolenni i wasanaethau a all helpu pobl i adfer.
Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am gymorth ariannol sydd ar gael, gwasanaethau cymorth iechyd meddwl a chyngor ar sut i lanhau eich eiddo yn ddiogel. Ewch i cyfoethnaturiol.cymru/llifogydd.