CNC yn lansio menter genedlaethol i gefnogi busnesau gyda chydymffurfiaeth amgylcheddol
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi lansio menter genedlaethol i helpu busnesau i gydymffurfio gyda deddfwriaeth amgylcheddol.
Dros y flwyddyn nesaf, bydd swyddogion CNC yn ymweld ag ystadau diwydiannol ledled Cymru i asesu cydymffurfiaeth gyda chyfreithiau perthnasol, yn enwedig Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005.
Byddant hefyd yn darparu cyngor ac arweiniad i helpu busnesau wella’r ffordd y maen nhw’n storio, rheoli a gwaredu gwastraff.
Mae o leiaf 170,000 o symudiadau gwastraff peryglus o Gymru, i Gymru neu o fewn Cymru’n cael eu cofnodi bob blwyddyn. Mae hyn gyfwerth â dros 250,000 tunnell yn cael ei gynhyrchu yng Nghymru a 300,000 tunnell yn cael ei dderbyn mewn safleoedd yng Nghymru. Fodd bynnag, nid yw hyn yn cynnwys symudiadau nad ydym yn ymwybodol ohonynt neu’r cynhyrchwyr nad ydynt wedi cofrestru.
Mae dros 7,000 o gynhyrchwyr gwastraff peryglus cofrestredig, ac mae’n bosibl bod 12,000 o gynhyrchwyr sydd wedi’u heithrio rhag cofrestru.
Eglurodd Eleanor Davies, Uwch Swyddog Rheoleiddio Gwastraff gyda CNC:
“Rydym ni wedi lansio’r fenter hon i helpu adnabod y rhai sy’n cynhyrchu gwastraff peryglus na fyddai fel arall o bosibl yn cael unrhyw gyswllt gyda swyddogion rheoleiddio.
“Rydym ni eisiau sicrhau bod busnesau cyfreithlon yn gallu gweithredu’n effeithiol, a’n bod ni’n sefydlu pwynt cyswllt i’w cynorthwyo gyda materion cydymffurfiaeth.
“Prif nod yr ymweliadau hyn yw canfod symudiadau gwastraff peryglus, i sicrhau bod y gwastraff yn cael ei ddisgrifio, ei olrhain, ei ailgylchu, ei ailddefnyddio a’i waredu’n briodol yn unol â’r Rheoliadau Gwastraff Peryglus. Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn gwirio cydymffurfiaeth gyda gofynion rheoliadau amgylcheddol eraill megis eithriadau gwastraff.
“Rydym ni hefyd yn gobeithio y gall y gwaith hwn gynorthwyo i gysylltu ffynonellau llygredd gwasgaredig posibl a nodir ledled Cymru ac atal niwed i’r amgylchedd yn y dyfodol.”
Ychwanegodd:
“Rydym ni wedi cael adborth cadarnhaol iawn gan y busnesau yr ydym wedi ymweld â nhw hyd yma. Mae cyfreithiau a rheoliadau amgylcheddol yn gallu ymddangos yn frawychus, ac mae mwyafrif y safleoedd yr ydym wedi ymweld â nhw wedi croesawu’r cyfle i ofyn cwestiynau ac i dderbyn cyngor ynglŷn â gwelliannau y bydden nhw’n gallu eu gwneud o fewn eu busnes.”
Yn ddiweddar, bu’r tîm yn ymweld ag Ystâd Ddiwydiannol Griffiths Crossing yn y Felinheli. Mae’r cynhyrchwyr bwyd Roberts of Port Dinorwic yn un o’r busnesau sydd wedi’u lleoli ar yr Ystâd.
Dywedodd y Cyfarwyddwr, Sara Roberts:
“Roedd hi’n braf iawn cyfarfod gyda’r swyddogion CNC wyneb yn wyneb ac i dderbyn cyngor uniongyrchol ganddyn nhw.
“Rydym ni’n falch bod ein holl weithgareddau’n cydymffurfio’n llawn, ac roedd hi’n braf cael sicrwydd yn ogystal ag awgrymiadau ynglŷn â sut y gallwn wella pethau ymhellach.
“Mae busnesau fel ni bob amser yn ymdrechu i weithredu mewn modd cyfrifol a chyfreithiol, ac mae’n ddefnyddiol iawn cael pwynt cyswllt o fewn y corff rheoleiddio pe byddai unrhyw broblemau neu bryderon yn codi yn y dyfodol.”
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r prosiect, cysylltwch â’r Tîm Gwastraff Peryglus ar HazWasteEnquiries@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
Am ragor o arweiniad a chyngor ynglŷn â rheoli gwastraff, ewch i’r tudalennau Rheoli Gwastraff ar ein gwefan.