Blwyddyn Newydd a Chyfle Newydd am Gyllid Adfer Mawndir

Mae tirfeddianwyr ar hyd a lled Cymru yn cael eu hannog i gefnogi uchelgeisiau adfer mawndiroedd Cymru a gwneud cais am gyfran o gronfa gyllid gwerth £700,000 sydd â’r nod o adfer tirweddau amhrisiadwy’r genedl.

Wedi’i lansio heddiw (18 Rhagfyr 2024) mae’r Grant Adfer Mawndir yn cynnig rhwng £10,000 a £250,000 i dirfeddianwyr ddatblygu a chyflawni gwaith adfer mawndir yn 2025.

Mae’r cynllun a ariennir gan Lywodraeth Cymru i adfer mawndiroedd yn cael ei ddyrannu drwy’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd, sy’n cael ei reoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Mae’r Grant Adfer Mawndir hyblyg newydd hwn sydd wedi’i ariannu 100% yn cynnig cyfleoedd i dirfeddianwyr sy’n newydd i waith adfer mawndir yn ogystal â’r rhai sydd â chynlluniau parod i fynd. Mae’r ceisiadau ar agor tan 18 Mawrth 2025, ac mae arweiniad pellach ar gael drwy weminarau.

Eglurodd Mannon Lewis, arweinydd strategol CNC ar y Rhaglen Mawndiroedd:

“Dim ond 4% o Gymru sydd wedi’i orchuddio gan fawndir, ond mae’n storio 30% o’n carbon ar y tir ac mae’n hanfodol ar gyfer mynd i’r afael â’r argyfyngau Hinsawdd a Natur. Am fod 90% o’n mawndiroedd wedi’u difrodi, maen nhw’n rhyddhau nwyon tŷ gwydr niweidiol. I’r gwrthwyneb, mae mawndir gwlyb iach sydd wedi’i adfer wrthi’n barhaus yn creu haenau o fawn newydd sy’n dal carbon. Felly mae mawn ar ddyfnder o 30cm wedi amsugno carbon am tua 300 mlynedd, gan gynnwys y carbon o’n hoes ddiwydiannol. Mae cynnig y grant cystadleuol agored hwn ar gyfer adfer mawndir yn un ffordd y gall y Rhaglen Mawndiroedd gefnogi partneriaid ar hyd a lled Cymru i gyflawni nodau adfer cynyddol uchelgeisiol er budd cenedlaethau’r dyfodol.”

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sy'n gyfrifol am Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies:

"Yn gynharach eleni, fe wnaethon ni gyhoeddi ein bod ni eisoes wedi curo ein targedau o ran adfer mawndir - mae hyn yn golygu ein bod ni'n arbed 8,000 tunnell o garbon y flwyddyn! Diolch i'r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd, rydyn ni wedi gwneud cynnydd mawr yn barod tuag at sicrhau bod y cynefinoedd gwerthfawr hyn yn parhau i daclo newid hinsawdd trwy ddysgu goroesi ac addasu yn ein hinsawdd sy'n newid yn barhaus. Mae'r Grant Adfer Mawndir newydd hwn yn gam arall ymlaen i gyflymu'r gwaith adfer ac rwy'n annog tirfeddiannwr yng Nghymru i wneud cais."

Eglurodd Dr Rhoswen Leonard, Rheolwr Prosiect y Rhaglen Mawndiroedd:

“Ethos y Rhaglen Mawndiroedd yw gweithio mewn partneriaeth a mynd ati’n rhagweithiol i geisio adborth er mwyn datblygu’r opsiynau ar gyfer tirfeddianwyr a rheolwyr tir. Bu’r grantiau Datblygu a Chyflawni blaenorol yn llwyddiannus ac roedd mwy o alw amdanynt na chapasiti. Eto i gyd, fe welsom hefyd barodrwydd gan rai partneriaid i symud ymlaen yn uniongyrchol o’r cam datblygu i’r cam cyflawni heb oedi i geisio am grant newydd. Felly, hwn yw’r Grant Adfer Mawndir cyfunol newydd, fersiwn well o’r hyn a oedd ar gael o’r blaen. Mae’n well yn sgil cryfder ein gwaith partneriaeth i Adfer Mawndir Cymru.”

Ers 2022 mae’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd wedi dyrannu 26 o grantiau cystadleuol gwerth £1.4M. Mae gwybodaeth am y gwaith a ariennir drwy’r Rhaglen ar gael i’r cyhoedd drwy Fap Mawndiroedd Cymru, ac mae enghreifftiau o’r 100 a mwy o gamau gweithredu posibl i’w gweld yn nhermiadur gwaith mawndiroedd y Rhaglen.

Y dyddiad cau ar gyfer y Grant Adfer Mawndir yw 18 Mawrth 2025. Mae canllawiau a manylion am sut i wneud cais ar dudalen grantiau’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd. Yn ogystal, gall darpar ymgeiswyr gofrestru yma i fynychu gweminarau arweiniad am ddim yn Gymraeg a Saesneg ar 6 Chwefror 2024.