Grant cyflawni adfer mawndiroedd 2025
Er mwyn gwrthdroi colli cynefinoedd a gwella cyflwr mawndiroedd Cymru, mae gennym grantiau adfer mawndiroedd rhwng £10,000 a £250,000 ar gael.
Bydd y grant datblygu yn galluogi unigolion a sefydliadau i gyflawni prosiectau adfer mawndiroedd yn ystod Mai 2025 – Mawrth 2026.
Blaenoriaethau’r prosiect
Bydd angen i bob prosiect fynd i’r afael ag un neu fwy o flaenoriaethau’r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd:
- Erydiad ar fawndiroedd
- Draeniad mewn mawndiroedd
- Rheoli gorgorsydd mawn yn gynaliadwy
- Rheoli mawndiroedd yr iseldir yn gynaliadwy
- Adfer mawndiroedd a goedwigwyd
- Gwaith adfer graddol ar y mawndiroedd sy’n rhyddhau’r mwyaf o garbon
Rhaid i'r mawndir hefyd fod yng Nghymru - ar gyfer unrhyw gynigion trawsffiniol, byddwn yn ystyried y rhan sydd yng Nghymru yn unig.
Yn y pen draw, bydd prosiectau a ariennir gan grant yn cyfrannu at y targed presennol o 1800ha o weithgarwch adfer yng Nghymru bob blwyddyn.
Pwy all wneud cais
- Unigolion
- Sefydliadau’r sector cyhoeddus
- Elusennau cofrestredig
- Prifysgolion, sefydliadau addysg uwch eraill a sefydliadau ymchwil
- Sefydliadau’r trydydd sector
- Sefydliadau’r sector preifat
Rhaid i’r prif ymgeiswyr:
- ddangos tystiolaeth eu bod wedi cyflawni o leiaf un prosiect adfer mawndir yn ystod y degawd diwethaf, neu
- ddarparu cadarnhad o gymorth technegol gan bartner sydd â phrofiad o adfer mawndiroedd ar lawr gwlad - ac sy'n gallu darparu cymorth technegol
Faint y gallwch wneud cais amdano
Gallwch wneud cais am rhwng £10,000 a £250,000 o gyllid. Dylid gwario o leiaf 30% o’r grant erbyn 20 Mawrth 2024.
Gallwch ofyn am hyd at 100% o gostau eich prosiect.
Byddwn yn ystyried gwerth am arian pan fyddwn yn gwneud penderfyniadau ynghylch defnyddio arian cyhoeddus i gyflawni ein polisi.
Byddwn ein hystyriaeth o arian cyfatebol yn ffafriol. Gall arian cyfatebol gynnwys:
- cyfraniad arian parod
- amser gwirfoddolwyr
- amser staff
Gwario a hawlio
Rhaid i ymgeiswyr wario a hawlio 100% o werth y grant erbyn 31 Mawrth 2026. Ni chewch gario arian heb ei wario ymlaen i’r flwyddyn ariannol nesaf.
Y dyddiad olaf ar gyfer hawlio fydd 31 Mawrth 2026.
Pryd y gallwch wneud cais
Rydym yn derbyn ceisiadau o 18 Rhagfyr 2024.
Rhaid i chi wneud cais cyn hanner nos ar 18 Mawrth 2025.
Ein nod yw rhoi penderfyniad i chi ar eich cais erbyn mis Mai 2025.
Sut i wneud cais
Bydd arnoch angen cyfeirnod i'w ychwanegu at eich cais am grant.
Ar beth gewch chi wario’r grant
Cewch wario ein grant cyflawni gwaith adfer mawndir ar y canlynol:
- costau swyddi prosiect uniongyrchol, offer, contractwyr ac ymgynghorwyr, ffioedd proffesiynol untro sy'n uniongyrchol gysylltiedig â chostau prosiect
- costau staff yn ymwneud â chyflawni gwaith adfer cyfalaf
- costau rhwydweithio i gysylltu â rhanddeiliaid perthnasol, er enghraifft llogi lleoliad neu deithio
- gorbenion - rydym yn defnyddio cyfradd unffurf o 15% o gostau staff prosiect uniongyrchol ar gyfer y rhan fwyaf o brosiectau - ond byddwn hefyd yn derbyn Adennill Costau Llawn cyhyd ag y dangosir hynny gyda thystiolaeth lawn. Costau staff y prosiect, hynny yw staff y mae’r ymgeisydd yn eu cyflogi - nid staff y mae contractwyr yn eu cyflogi
Mae taliadau iawndal y gymwys o dan y cyllid y grant hwn
Mae CNC yn darparu canllawiau ar gyfer y cyd-destun canlynol:
- Yr arwynebedd sy’n gymwys ar gyfer taliadau iawndal yw 5m y naill ochr i ffos wedi’i blocio ar orgors yr ucheldir sy’n cael ei rheoli ar hyn o bryd ar gyfer amaethyddiaeth ac sydd wedi’i dynodi’n SoDdGA a/neu ACA.
- Taliad untro o £660/ha yw hwn a dylid ei wneud yn yr un flwyddyn ag y gwneir y gwaith adfer. Mae’r cyfradd yma yn amodol ar adolygiad.
- Os ceisir taliadau iawndal ar gyfer gwahanol gyd-destunau, dylid rhoi cyfiawnhad i CNC adolygu fel rhan o’r broses ymgeisio am grant. Fe’ch cynghorir i drafod gyda CNC cyn y broses ymgeisio ffurfiol.
- Dim ond ar gyfer gwariant a dynnir drwy gytundeb ffurfiol rhwng dau barti y gellir gwneud taliadau.
h.y. lle bu’n rhaid i chi dalu iawndal i eraill.
Gweithgareddau y gallwch eu cynnwys yn eich cais
Gall eich cais gynnwys y gweithgareddau canlynol:
- gweithgareddau adfer sy’n mynd i’r afael ag un neu fwy o themâu blaenoriaeth y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd
- gwelliannau mynediad er mwyn galluogi peiriannau i gyrraedd y safle, hyd at uchafswm gwerth o 15% o gyfanswm cost y prosiect
- gwaith arolygu a mapio’r safle er mwyn dylunio ymyriadau (yn hytrach na monitro cyffredinol ac arolygon o gynefinoedd)
- ymgysylltu â rheolwyr neu neu berchnogion tir
- cwmpasu a chael caniatâd
- gwaith dylunio technegol
- costio dyluniad y gwaith adfer
- datblygu manyleb sy’n barod i fynd i dendr
Yr hyn na allwch chi wario’r grant arno
Ni allwch wario grant Cyfoeth Naturiol Cymru ar y canlynol:
- Costau refeniw (hynny yw, nad ydynt yn ymwneud â chyflawni cyfalaf)
- Adfer cyfalaf nad yw'n cyflawni blaenoriaethau adfer y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd
- Gwaith arolygu neu fonitro nad yw’n gysylltiedig â’r gwaith adfer cyfalaf a gynigiwyd
- Clirio coed neu brysgwydd lle nad oes unrhyw gamau rheoli cynaliadwy eraill megis newidiadau i hydroleg neu bori hefyd yn cael eu gweithredu
- Prynu offer megis coleri System Leoli Fyd-eang (GPS), ffensys neu seilwaith pori heb fod yn ffyddiog y cânt eu defnyddio wedyn, er enghraifft drwy gytundeb pori.
- Llwybrau pren
- Paneli gwybodaeth mewn safleoedd ymwelwyr
- Ariannu gweithgareddau craidd eich sefydliad
- Gwaith rheoli neu gynnal a chadw parhaus
- Gwaith y tu allan i Gymru
- Ariannu gweithgareddau masnachol neu sy’n creu elw
- Costau cynnal a chadw ar Hawliau Tramwy Cyhoeddus
- Cynlluniau lle mae gwaith wedi’i gwblhau neu ar y gweill
- Astudio personol neu er mwyn ennill cymwysterau academaidd neu broffesiynol fel unigolyn
- Gwaith sydd o fewn cylch gwaith statudol CNC
- Er mwyn ariannu rhaglenni grant
- TAW: dylai’r costau eithrio unrhyw Dreth ar Werth y gellir ei adennill
- Gweithgarwch y mae gennych neu y bydd gennych ddyletswydd i’w gyflawni drwy amodau cynllunio
- Ni ellir defnyddio cyllid ar gyfer unrhyw brosiect lliniaru/iawndal oherwydd difrod i fawndiroedd mewn mannau eraill
Ni chewch dderbyn y cyllid hwn ar y cyd ag unrhyw gynlluniau eraill a ariennir gan Lywodraeth Cymru i gyflawni’r un canlyniadau, er enghraifft Cynllun Ffermio Cynaliadwy Cynefin Cymru Glastir.
Yr hyn y bydd angen i dderbynwyr y grant ei ddarparu
Ar gyfer prosiectau dichonoldeb, byddwn yn disgwyl i ymgeiswyr am grant:
- fod yn hyderus bod ardal eu prosiect arfaethedig ar fawn. Dylai map Mawndir Cymru eich helpu gyda hyn. Os nad yw ardal eich prosiect wedi’i nodi fel mawndir ar y map hwn ar hyn o bryd, rhowch fanylion yn eich cais am yr ardal a pham eich bod o’r farn ei fod yn fawndir y mae angen ei adfer.
- nifer yr hectarau o waith adfer a ddisgwylir h.y. ar y ffordd i fod wedi’u hadfer
Ar gyfer prosiectau cyflawni, dylai derbynwyr grant allu mesur a darparu:
- nifer yr hectarau o waith adfer a ddisgwylir h.y. ar y ffordd i fod wedi’u hadfer
- cofnodion GIS o unrhyw ddata ar ddyfnder mawn
- cofnod System Gwybodaeth Ddaearyddol o'r holl ymyriadau (yn unol â phrotocolau adrodd y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd)
Gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi'r hectarau a ddisgwylir eu hadfer fel rhan o'ch cais (yn yr adran 'disgrifiad o'r prosiect' ar y ffurflen gais).
Caniatâd neu gydsyniad arall
Os oes angen trwydded, cydsyniad neu unrhyw fath arall o ganiatâd oddi wrthon ni, bydd angen i chi gwblhau hyn yn ogystal â’r cais hwn am gyllid. Sicrhewch eich bod yn rhoi digon o amser ar gyfer hyn yn eich cynllun prosiect ar gyfer grant.
Dylech fod wedi cael, neu wneud cais am ganiatadau neu gydsyniadau perthnasol cyn i chi wneud cais. Os nad oes gennych gydsyniadau ar yr adeg y byddwch yn gwneud cais, bydd angen cynllun arnoch i sicrhau eich bod yn eu cael o fewn yr amserlenni gofynnol.
Sut ydym yn sgorio ceisiadau
Sut ydym yn sgorio ceisiadau am grantiau cystadleuol i ddatblygu mawndiroedd.
Opsiynau eraill am gyllid
Os oes gennych ddiddordeb mewn adfer mawndir ond nad yw’r grant hwn yn diwallu eich anghenion, cysylltwch â ni yn npap@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk