Galw am wirfoddolwyr i warchod safle naturiol pwysig yng Ngogledd Cymru.
Rydym yn chwilio am ddau wirfoddolwr i helpu i warchod un o’r safleoedd naturiol pwysicaf yng Nghymru ac ennill sgiliau cadwraeth gwerthfawr.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ceisio llenwi dau leoliad di-dâl newydd am 12 mis yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch ar Ynys Môn, sy’n gartref i rai o gynefinoedd mwyaf gwerthfawr Cymru ac sy’n cynnal amrywiaeth o fathau prin o fywyd gwyllt fel y wiwer goch, y fadfall ddŵr gribog a thafolen y traeth.
Mae’r lleoliad yn gyfle i ennill sgiliau a helpu i gynnal, gwella a gwarchod y safle sydd o bwys rhyngwladol o ran bioamrywiaeth.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio’n agos gyda staff CNC ac ymwelwyr i rannu gwybodaeth ac annog ymweliadau cyfrifol.
Dywedodd Justin Hanson, Arweinydd Tîm Pobl a Lleoedd Gogledd-orllewin Cymru ar ran CNC:
“Rydym yn chwilio am ddau wirfoddolwr brwdfrydig sy’n teimlo’n angerddol dros yr amgylchedd naturiol i gymryd y lleoliad hwn yn un o safleoedd naturiol pwysicaf Cymru.
“Mae Niwbwrch yn gartref i gynefinoedd amrywiol sy’n cynnwys twyni tywod, corsydd arfordirol, glannau tywodlyd a choedwigoedd, ac mae’n cynnal amrywiaeth eang o rywogaethau prin a diddorol.
“Rydym yn chwilio am bobl i’n helpu i warchod yr amgylchedd hanfodol hwn ochr yn ochr â’n staff a gwirfoddolwyr eraill ac i siarad â’r cyhoedd am y safle a sut i’w warchod pan fyddant yn ymweld.
“Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn dysgu am y safle, ei drigolion a’r gwaith cadwraeth sy’n digwydd yno.
“Byddem yn annog unrhyw un sydd â diddordeb ym myd natur ac a hoffai ddysgu mwy am waith cadwraeth a rheoli Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol i wneud cais.”
Y llynedd enwyd Ynys Llanddwyn, sy’n rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch, ar restr y 100 Cyntaf o Safleoedd Treftadaeth Ddaearegol – safleoedd daearegol allweddol o berthnasedd gwyddonol rhyngwladol ochr yn ochr â Sarn y Cedwri yng Ngogledd Iwerddon, y Grand Canyon a Sugarloaf Mountain yn Rio de Janeiro.
Credir bod creigiau ar y safle, gan gynnwys calchfaen, cornfaen a lafâu clustog, yn 500-600 miliwn o flynyddoedd oed o leiaf.
Cyhoeddwyd Niwbwrch yn Warchodfa Natur Genedlaethol arfordirol, y gyntaf o’i math yng Nghymru, yn 1955.
Mae’r ddau leoliad yn rhan o waith parhaus CNC i ddatblygu Cynllun Pobl ar gyfer y safle, gan weithio gyda’r gymuned a sefydliadau partner ar waith rheoli hirdymor Niwbwrch.
Dysgwch mwy am y lleoliadau.