Cyfoeth Naturiol Cymru yn galw ar bobl i gofrestru tanciau carthion yng Nghonwy
Mae perchnogion tai yng Nghonwy yn cael eu hatgoffa o'u dyletswydd gyfreithiol i gofrestru tanciau carthion a systemau trin carthion bychain – gofyniad cyfreithiol ers mis Ebrill 2010.
Mae cofrestru systemau trin dŵr budr domestig, fel tanciau carthion ac unedau trin carthion cryno, yn helpu Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i'w monitro, helpu i atal llygredd, a diogelu ansawdd dŵr lleol ac iechyd y cyhoedd.
Er gwaethaf y gofyniad cyfreithiol ers peth amser, mae'n bosibl bod llawer o eiddo yn yr ardal yn dal heb eu cofrestru. Mae'r diffyg gwybodaeth hwn yn ei gwneud hi'n anodd asesu'r effaith amgylcheddol, ond gall systemau heb eu rheoleiddio beri risgiau difrifol. Gall carthion heb eu trin o danciau diffygiol neu heb eu rheoli halogi dŵr daear, nentydd ac afonydd – gan fygwth bywyd gwyllt ac o bosibl effeithio ar gyflenwadau dŵr yfed.
Gallwch gofrestru am ddim ac mae’n syml i’r rhan fwyaf o aelwydydd. Os nad yw eich eiddo wedi'i gysylltu â'r brif garthffos ac yn defnyddio tanc carthion neu uned trin carthion gryno, rhaid i chi ei gofrestru gyda CNC. Rhaid i systemau sy'n gollwng i'r ddaear drwy suddfan dŵr neu i ddŵr wyneb fodloni meini prawf penodol i fod yn gymwys i gael eu cofrestru am ddim.
I gofrestru, ewch i wefan NRW a chwblhewch y ffurflen ar-lein: Cofrestru eich tanc carthion. Bydd angen i chi gadarnhau manylion am leoliad eich system, y dull rhyddhau, a'i agosrwydd at ardaloedd gwarchodedig neu ffynonellau dŵr.
Dywedodd Charlotte Williams, Arweinydd Tîm Amgylcheddol ar ran CNC:
"Mae cofrestru eich systemau gwastraff budr yn gam syml ond hanfodol wrth amddiffyn amgylchedd Conwy. Mae'n ein helpu i fonitro risgiau posibl ac atal llygredd. Rydym yn gofyn i bob perchennog eiddo wirio eu systemau ac i weithredu os oes angen."
Os ydych chi'n ansicr a yw eich system wedi'i chofrestru ac yn gymwys, neu os hoffech chi gael rhywfaint o gymorth i gofrestru, cysylltwch â CNC yn uniongyrchol ar 0300 065 3000.