Dirwy i ddyn am bysgota heb drwydded gwialen ger Ystrad Mynach

Dirwy i ddyn am bysgota heb drwydded gwialen ger Ystrad Mynach
Cafodd Mitchell Edwards, 28, o Benyrheol yng Nghaerffili ei weld yn pysgota gan swyddogion gorfodi Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ym Mhysgodfa Glan-yr-afon. Pan gafodd ei holi gan y swyddogion, cadarnhaodd Mr Edwards nad oedd ganddo drwydded gwialen gyfredol ac nad oedd yn meddwl bod angen un arno i bysgota yn y bysgodfa yno.
Cafwyd Mr Edwards yn euog ar 14 Mai 2025 drwy'r Ynad Unigol o ddefnyddio offeryn pysgota heb drwydded. Cafodd ddirwy o £220, gorchmynnwyd iddo dalu costau o £127, gordal dioddefwr o £88 ac iawndal o £30.
Dywedodd Ian Jones, Swyddog Pysgodfeydd CNC:
"Rydyn ni'n cymryd unrhyw weithgaredd pysgota heb drwydded o ddifrif iawn.
"Rydym yn annog pysgotwyr i fwynhau cefn gwlad syfrdanol Cymru, ond gofynnwn iddyn nhw wneud hynny'n gyfrifol a sicrhau bod ganddyn nhw drwydded wialen ddilys er mwyn osgoi'r risg o erlyn.
"Cofiwch, mae'n rhaid i chi gael trwydded gwialen ar gyfer Cymru a Lloegr os ydych chi'n pysgota am eogiaid, brithyllod, pysgod dŵr croyw, brwyniaid neu lysywod gyda gwialen a lein. Ac mae'n rhaid i chi bob amser gario eich trwydded wialen pan fyddwch chi'n pysgota neu gallech gael eich erlyn a chael dirwy o hyd at £2,500, a gellid cymryd eich offer pysgota.”
Gall unrhyw un sy'n gweld neu'n amau gweithgaredd pysgota anghyfreithlon roi gwybod amdano i CNC drwy ffonio ei linell ddigwyddiadau 24 awr ar 03000 65 3000 neu ar-lein yn cyfoethnaturiol.cymru/rhowchwybod
I brynu trwydded pysgota â gwialen, ewch i cyfoethnaturiol.cymru/trwyddedpysgota