Prosiect adfer mawndir yn dod i ben yn fuddugoliaethus

Ar ôl chwe blynedd a hanner, mae Prosiect Cyforgorsydd Cymru LIFE wedi dod i ddiweddglo buddugoliaethus ar ôl adfer cannoedd o hectarau o fawndir mewn chwe chyforgors ledled y wlad.

Mae cyforgorsydd yn un o gynefinoedd prinnaf a phwysicaf Cymru ac, oherwydd eu pwysigrwydd amgylcheddol, maent wedi'u dynodi'n Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA).

Mae canrifoedd o ddifrod trwy dorri mawn, rheolaeth wael, a draenio wedi arwain at ddirywiad o ran bywyd gwyllt prin ac o ran cyflwr cynefinoedd ar y mawndiroedd hyn. Mae’r mawn wedi sychu hefyd, sydd wedi arwain at ollwng carbon, yn hytrach na’i storio fel y mae cyforgorsydd iach yn ei wneud.

Bu i’r prosiect - oedd werth cyfanswm o £4.5m - adfer cyforgorsydd yng Nghors Caron ger Tregaron; Cors Fochno ger y Borth; Cors Goch ger Trawsfynydd; Rhos Goch ger Llanfair-ym-Muallt, Esgyrn Bottom & Cernydd Carmel. Fe’i hariannwyd gan raglen LIFE yr Undeb Ewropeaidd, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, a chafodd y prosiect ei reoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Ffocws y prosiect oedd adfer yr Ardaloedd Cadwraeth Arbennig hyn i statws cadwraeth ffafriol. Dechreuodd y broses gyda’r uchelgais o wrthdroi’r dirywiad drwy godi lefelau dŵr i lefelau iach a thrwy glirio cannoedd o hectarau o dyfiant ymledol ar gyforgorsydd Cymru.

Mae’r prosiect wedi cyflawni llawer, gan gynnwys:

  • Clirio gwerth 736 o gaeau Stadiwm y Principality o blanhigion ymledol. Mae hyn yn cynnwys gwellt y gweunydd, bedw, helyg a rhododendron.
  • Gosod 150 o argaeau mawn ar y corsydd i atal dŵr rhag llifo i ffwrdd.
  • Gosod gwerth 114 cilomedr o fyndiau mawn i gadw ddŵr ar gyforgorsydd - sef yr un pellter â gyrru o Gaerdydd i Gaerfyrddin!

Mae angen lefel dŵr uchel ar gyforgorsydd i weithredu fel dalfeydd carbon. Os byddant yn sychu, byddant yn rhyddhau’r carbon sydd wedi cronni yno. Mae gosod y byndiau yn codi lefel y dŵr gan ail-wlychu'r mawndir ac atal colledion carbon pellach.

Dywedodd Jake White, Rheolwr Prosiect Cyforgorsydd Cymru CNC, “Mae cyforgorsydd, a’r holl fawndiroedd, yn ecosystemau pwysig sydd – mewn cyflwr iach – yn gallu darparu cynefinoedd gwerthfawr ar gyfer bywyd gwyllt, storio a phuro dŵr, storio carbon a gwella ein lles.”

“Buom yn gweithio’n agos gyda chontractwyr arbenigol a thirfeddianwyr lleol i sicrhau y gallai’r gwaith adfer ddigwydd, ac rydym yn ddiolchgar iawn i bawb a wnaeth y gwaith yn bosibl.

“Rydym yn falch iawn o’r hyn sydd wedi’i gyflawni dros y 6 blynedd diwethaf. Nid yn unig y mae ein hymyriadau wedi gwella amodau i fywyd gwyllt prin ffynnu, ond mae hefyd wedi helpu gallu’r bywyd gwyllt i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol.”

Er gwaethaf cyfyngiadau COVID, cynhaliodd y prosiect raglen lwyddiannus o ymgysylltu â’r gymuned a rhanddeiliaid, gan gyrraedd dros 22,000 o bobl mewn 75 o ddigwyddiadau gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol a Chynhadledd Mawndiroedd yr IUCN yn 2022.

Mae cyforgorsydd yn rhan o fawndiroedd amrywiol Cymru - maent gorchuddio 4% o Gymru yn unig, ond eto’n llwyddo i gadw 30% o garbon ein tir. Mae angen gwarchod ac adfer mawndiroedd Cymru i fynd i'r afael â’r argyfyngau Natur a Hinsawdd. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu gwaith adfer drwy Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd CNC, a gwahoddir y cyhoedd i weld lleoliad mawndiroedd a gweithgarwch adfer parhaus ar Borth Data Mawndiroedd Cymru.