Gweilch Llyn Clywedog yn deor o flaen camera byw am y tro cyntaf
Mae tri o gywion gweilch y pysgod wedi deor o flaen camera ffrydio byw am y tro cyntaf mewn nyth ger Llyn Clywedog, Llanidloes.
Mae gweilch y pysgod wedi bod yn magu cywion yn y nyth ers 2014, ond cywion eleni yw'r rhai cyntaf i ddeor yn y nyth a chael eu ffilmio gan gamera byw a osodwyd yno gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Dywedodd Rhys Jenkins, Uwch Swyddog Rheoli Tir CNC:
"Mae’r ffrydio byw o nyth y gweilch wedi rhoi cyfle i bobl gadw mewn cysylltiad â natur anhygoel Canolbarth Cymru er gwaetha’r cyfyngiadau coronafeirws.
"Mae gan weilch Llyn Clywedog ddilyniant cynyddol a brwdfrydig, ac mae wedi bod yn galonogol gweld y croeso cynnes a gafodd y newyddion hwn am y newydd ddyfodiaid i'r teulu.
"Mae gennym iâr breswyl newydd ar y nyth eleni ac mae'n galonogol gweld ei pherthynas yn datblygu â’r ceiliog preswyl a gweld eu gofal ardderchog am y cywion.
"Does dim sicrwydd mewn natur wrth gwrs, ond rydym yn gobeithio gweld y cywion yn tyfu a datblygu, yn magu plu ac yn gadael y nyth yn y misoedd nesaf."
Gellir gweld y ffrydio byw ar-lein drwy chwilio am 'Clywedog Ospreys' ar YouTube, neu drwy ddefnyddio'r ddolen: https://bit.ly/GweilchClywedogOspreys.
Archwilio mwy
Yn yr adran hon hefyd
Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.