Dirwy i ddyn gafodd ei ddal gydag eog i fyny ei lawes

Mae dyn o Bort Talbot a gyfaddefodd iddo gymryd eog a gafodd ei ddal gan ddefnyddio offer anghyfreithlon wedi cael gorchymyn i dalu cyfanswm o £2580 yn Llys Ynadon Llanelli.

Ar 30 Gorffennaf 2023, bu i aelodau Gymdeithas Bysgota Llandysul, weld Stephen Samuel, o Gwmafan, Port Talbot, yn lladd yr eog ac yn mynd ag ef o’u pysgodfa ar Afon Teifi.

Adroddodd aelodau’r Gymdeithas Bysgota y digwyddiad i Heddlu Dyfed Powys, a gysylltodd â swyddog gorfodi Cyfoeth Naturiol Cymru. Aeth y swyddogion i’r afon a dal Samuel gyda chymorth aelod o’r Gymdeithas Bysgota a beili dŵr (water bailiff) gwirfoddol y Gymdeithas.

Gwelwyd Samuel gan aelod o’r Gymdeithas Bysgota yn ymddwyn mewn modd amheus wrth gerdded i ffwrdd o’r afon. Er y glaw trwm, dim ond crys-t roedd Samuel yn ei wisgo, ond roedd yn cario siaced law dros ei ysgwydd.

Wrth wynebu Samuel, gwelodd yr aelod o’r Gymdeithas Bysgota ben eog yn ymwthio allan o fraich y siaced - roedd wedi’i guddio yno!

Cyrhaeddodd swyddog CNC y lleoliad ychydig yn ddiweddarach a dywedodd wrth Samuel y byddai’n cael ei riportio.

Cafodd ei riportio am bedair trosedd – tair oedd yn mynd yn groes i Is-ddeddfau Gwialen a Lein Cymru (Eog a Siwin Brithyllod Môr) 2017, sef defnyddio bachau pigog a bachau trebl, a hynny yn erbyn rheolau gorfodol dal a rhyddhau eogiaid. Cafodd ei riportio hefyd am drosedd o dan Ddeddf Eog 1968, sef trin eog o dan amgylchiadau amheus.

Wrth gael ei rybuddio, cyfaddefodd Samuel ei fod yn gwbl ymwybodol nad oedd yn cael cadw unrhyw eog a ddelir yn afonydd Cymru a’i fod yn ymwybodol hefyd o’r gwaharddiad ar ddefnyddio bachau trebl ar abwyd troelli a’r defnydd o fachau pigog wrth bysgota am bysgod mudol fel eogiaid a siwin.

Dywedodd Samual wrth y swyddog ei fod yn meddwl mai siwin oedd yr eog, ond dywedwyd wrtho fod y pysgodyn yn dal yn gymharol ffres o foroedd agored ac, ar ôl cael ei ddal, ei fod yn cadw'r nodweddion sy'n gwahaniaethu'n glir rhwng y ddwy rywogaeth - hyd yn oed i bysgotwr dibrofiad.                                                                                                                 

Dywedodd Samuel ei fod hefyd yn gwbl ymwybodol bod yn rhaid dychwelyd pob siwin dros 60cm o hyd i'r afon - ond serch hynny, bu iddo geisio cuddio'r eog 79cm o hyd y tu mewn i'w siaced, a hynny gan wybod fod gwneud hynny yn anghyfreithlon.

Roedd Samuel yn fwriadol wedi defnyddio abwyd troelli mawr gyda bachyn trebl pigog a phan archwiliwyd y pysgodyn gan y swyddog, roedd yr atyniad yn dal i fod yn ddwfn yn ei wddf a’i dagell. Tra'n ceisio, a methu, â rhyddhau'r bachyn pigog, achosodd Samuel golled gwaed difrifol a difrod i dagell yr eog, gan arwain at farwolaeth y pysgodyn.

Cafodd Samuel ddirwy o £621, a ostyngwyd i £414 am bledio’n euog yn gynnar, a gorchmynnwyd iddo dalu costau CNC o £2,000 a Gordal Dioddefwr o £166. Yn ogystal, awdurdododd yr Ynadon orchymyn atafaelu ar gyfer ei holl offer pysgota a ddefnyddiwyd yn y drosedd.

Dywedodd Mark Thomas, Swyddog Gorfodi CNC:

“Rydym yn gobeithio y bydd cosbau fel hyn yn atal y bobl hynny sy’n peryglu cynaliadwyedd ein hafonydd yn y dyfodol ac yn diogelu mwynhad y mwyafrif helaeth o bysgotwyr sy’n pysgota’n gyfreithlon ac yn gyfrifol.
“Ni fydd swyddogion CNC yn oedi cyn cymryd camau gorfodi yn erbyn y lleiafrif bach o bysgotwyr sy’n cyflawni’r mathau hyn o droseddau.
“Hoffwn ddiolch i Heddlu Dyfed Powys am eu cymorth parhaus gyda’r achosion hyn a hefyd i aelodau a phwyllgor Cymdeithas Bysgota Llandysul am eu cymorth parhaus wrth warchod afon Teifi.
“Mae ein swyddogion yn cynnal gwiriadau trwydded gwialen ar hap fel mater o drefn, ac yn ymchilio i adroddiadau o bysgota anghyfreithlon - gofynnwn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am unrhyw bysgota anghyfreithlon gysylltu â CNC ar ein llinell gymorth 24/7 - 03000 65 3000.”

Os ydych chi'n 13 oed neu'n hŷn, bydd angen trwydded bysgota â gwialen arnoch chi i bysgota ameogiaid, brithyllod, pysgod dŵr croyw, brwyniaid neu lysywod yng Nghymru neu Loegr.

Mae consesiynau ar gael i bysgotwyr hŷn ac anabl, tra bod trwyddedau i bobl ifanc sy’n 13 i 16 oed am ddim - ond mae angen i bysgotwyr ifanc gofrestru.

Mae’r incwm a gynhyrchir gan drwyddedau gwialen yn helpu i ddiogelu a gwella pysgodfeydd a chyfleusterau i bysgotwyr. Mae pysgota heb drwydded gwialen ddilys yn anghyfreithlon a gallai arwain at euogfarn droseddol a dirwy.

Am fwy o wybodaeth am brynu trwydded pysgota â gwialen, ewch i:

Cyfoeth Naturiol Cymru / Chwilio / trwydded pysgota â gwialen

I gael rhagor o wybodaeth am bysgota yng Nghymru ewch i

Pysgota yng Nghymru | Gwefan swyddogol genweirio Cymru (fishingwales.net)

I gael rhagor o wybodaeth am is-ddeddfau pysgota a physgodfeydd ewch i

Cyfoeth Naturiol Cymru / Chwilio / pysgota