Dirwy i ddyn o Wynedd am bysgota’n anghyfreithlon ar afon Tryweryn

Mae dyn o Wynedd wedi cael dirwy o £716 ar ôl cael ei ddal yn pysgota yn anghyfreithlon ar afon Tryweryn.
Ar brynhawn 10 Mai 2023, roedd Swyddogion Gorfodi Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cynnal patrolau arfaethedig o Lyn Trawsfynydd a Llyn Tegid i sicrhau bod pysgotwyr yn dilyn y gyfraith.
Wrth batrolio, daeth swyddogion o hyd i David Evans, 50, o Cysgod y Coleg, Y Bala, yn pysgota ar afon Tryweryn heb drwydded bysgota ddilys. Pan gafodd ei holi, cyfaddefodd ei fod yn pysgota yn anghyfreithlon.
Cafodd yr achos ei glywed yn Llys Ynadon Caerdydd ar 24 Gorffennaf 2025. Ni chynigiwyd ple gan y dyn ac fe’i cafwyd yn euog yn ei absenoldeb. Cafodd ddirwy o £440, a gorchymyn i dalu £100 mewn costau i CNC, a gordal dioddefwr o £176 – cyfanswm o £716.
Mae pysgota heb drwydded ddilys yn drosedd. Mae trwydded pysgota â gwialen yn helpu i ariannu gwaith hanfodol i ddiogelu a gwella stociau pysgod a chynefinoedd ledled Cymru.
Dywedodd Euros Jones, Rheolwr Gweithrediadau CNC ar gyfer Gogledd Orllewin Cymru:
"Mae pysgota heb drwydded yn annheg i'r nifer o bysgotwyr sy'n dilyn y rheolau ac yn talu i bysgota yn gyfreithlon. Mae ffioedd trwyddedau yn cael eu hail-fuddsoddi er mwyn gwarchod stociau pysgod, gwella cynefinoedd, a sicrhau afonydd iach y gall pawb eu mwynhau.
"Mae ein patrolau gorfodi yn helpu i atal pysgota anghyfreithlon a diogelu ein hadnoddau naturiol. Mae'r achos hwn yn atgoffa bod unrhyw un sy'n pysgota heb y drwydded gywir mewn perygl o dderbyn dirwy sylweddol."
Gall unrhyw un sy'n gweld neu sy’n amau gweithgaredd pysgota anghyfreithlon roi gwybod i CNC drwy ffonio ei linell ddigwyddiadau 24 awr ar 03000 65 3000 neu ar-lein yn cyfoethnaturiol.cymru/reportit
Er mwyn prynu trwydded gwialen, ewch i cyfoethnaturiol.cymru/rodlicense