Taith dywysedig am ddim o Cors Caron i ddathlu Diwrnod Gwlypdiroedd y Byd

Bydd taith dywys am ddim yn cael ei gynnal o amgylch cors uchel ei bri yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron, ger Tregaron ar 2 Chwefror i ddathlu Diwrnod Gwlypdiroedd y Byd.

Mae'r daith yn cael ei threfnu gan Brosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE yw'r rhaglen adfer genedlaethol gyntaf ar gyfer cyforgorsydd ac ar gyfer unrhyw gynefin mawndir yng Nghymru. Mae cyforgorsydd yn cael eu henw oherwydd eu siâp cromen ac maent yn gartref i blanhigion ac anifeiliaid prin fel lindysyn gwrid y gors ac andromeda’r gors.

Gan mai thema Diwrnod Gwlyptiroedd y Byd eleni yw 'Gwlyptiroedd a Lles Dynol', bydd y daith yn canolbwyntio ar ymwybyddiaeth ofalgar a manteision bod ym myd natur.

Bydd y daith gerdded yn bennaf ar lwybr pren a bydd yn para tua awr a hanner. Cynghorir i bobl wisgo esgidiau addas a dillad cynnes.

Dywedodd Rebecca Thomas, Swyddog Prosiect a Monitro Prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE:

"Rydym yn cynnal y daith hon o Gors Caron i ddangos pwysigrwydd mawndir iach, a sut y gall treulio amser yn yr amgylchedd amhrisiadwy hwn fod yn dda i ni.

"Mae mawndir iach mewn cyflwr da yn amsugno carbon o'r atmosffer sy'n golygu eu bod yn bwysig yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd sy’n wynebu pob un ohonom. Ond os nad yw cyforgorsydd mewn cyflwr da maent yn rhyddhau nwyon niweidiol, gan gynnwys carbon i'r atmosffer.”

Mae Prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE yn brosiect uchelgeisiol pedair blynedd sy'n anelu at adfer 7 o'r enghreifftiau gorau o gyforgorsydd yng Nghymru. Bydd bron i 4 milltir sgwâr (dros 900 hectar) yn cael ei adfer i gyflwr gwell, mae hyn yn cynrychioli 50% o'r cynefin hwn yng Nghymru a 5% yn y DU.

Bydd y daith yn dechrau am 1pm, ac mae archebu lle yn hanfodol i ymuno â'r daith. E-bostiwch liferaisedbogs@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk i archebu lle