Cynyddu patrolau mewn coedwigoedd er mwyn atal gyrru anghyfreithlon oddi ar y ffordd yn ne-ddwyrain Cymru
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cynyddu patrolau mewn coedwigoedd yn ne-ddwyrain Cymru er mwyn atal pobl sy’n gyrru oddi ar y ffordd yn anghyfreithlon rhag difrodi coedwigoedd a pheryglu bywydau pobl.
Bu cynnydd yn nifer yr adroddiadau o feiciau modur a cherbydau 4x4 sy’n mynd i mewn i goedwigoedd Cwm Afan a Brechfa heb ganiatâd yn ystod yr wythnosau diwethaf, er gwaethaf cyfyngiadau’r coronafeirws.
Mae hyn, ynghyd â phroblem gynyddol tanau coedwig ledled Cymru, wedi arwain at fwy o batrolio gan swyddogion CNC a'r heddlu er mwyn canfod arwyddion o ddifrod neu losgi bwriadol ac i atal y rhai sy’n defnyddio beiciau modur yn anghyfreithlon rhag mynd i mewn i'r coedwigoedd.
Dywedodd Huwel Manley, Rheolwr Tir ac Asedau’r De-ddwyrain yn CNC:
“Mae gyrru anghyfreithlon oddi ar y ffordd yn beryglus dros ben i bobl sy’n ymweld â’n coedwigoedd i ymarfer corff yn ddyddiol yn ystod cyfyngiadau’r coronafeirws.
“Gall hefyd gael effeithiau pellgyrhaeddol o ran yr amgylchedd, difrodi gwreiddiau coed a tharfu ar gynefinoedd sensitif ein bywyd gwyllt.
"Cafwyd hefyd nifer o danau gwyllt dros y dyddiau diwethaf oherwydd y cyfnod hir o dywydd sych, a'r effeithiau dinistriol y gall gwreichionen ar dir sych eu creu.
“Gofynnaf yn daer i unrhyw un sy’n byw yn y cyffiniau sy’n gweld pobl yn gyrru’n anghyfreithlon ar ein safleoedd i roi gwybod amdanynt i’r heddlu drwy ffonio 101.”
Yn ogystal â difetha’r amgylchedd, gall gyrrwyr oddi ar y ffordd hefyd achosi poen i gymunedau lleol a pheryglu eu diogelwch.
Mae’r heddlu’n gofyn i unrhyw un sy’n gweld gyrrwyr oddi ar y ffordd yn gyrru’n fyrbwyll i roi gwybod ar unwaith.
Dywedodd y Prif Arolygydd Helen Coulthard, Uned Cymorth Gweithredol, Heddlu De Cymru:
“Yn ogystal â bod yn groes i reoliadau traffig ffyrdd, mae defnyddio beiciau oddi ar y ffordd mewn modd gwrthgymdeithasol hefyd yn beryglus tu hwnt.
“Rydyn ni’n pryderu y gallai rhywun gael ei frifo gan y beiciau hyn, sy’n cael eu gyrru’n gyflym dros ben. Mae’r sŵn hefyd yn niweidio ansawdd bywyd preswylwyr lleol.
“Rydyn ni hefyd yn gofyn yn daer i rieni fod yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau o ran defnydd eu plant o feiciau oddi ar y ffordd.
“Does neb eisiau i ni gael ein galw i safle gwrthdrawiad lle mae rhywun wedi cael ei frifo neu waeth. Gwarchod diogelwch pawb yw ein blaenoriaeth gyntaf a dyna pam rydyn ni’n benderfynol o roi terfyn ar yr arfer hwn.”
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Robyn Mason, Heddlu Dyfed-Powys:
“Mae gyrru oddi ar y ffordd mewn modd gwrthgymdeithasol yn achosi poen i’n cymunedau, poen i fywyd gwyllt, difrod i lwybrau troed, llwybrau ceffylau a thraciau, a lonydd gwyrdd mewn ardaloedd coedwigaeth a thir comin.
“Wrth ystyried y canllawiau presennol ar deithio hanfodol yng Nghymru, mae’n hollol annerbyniol – gan fod y gwasanaethau brys, yn enwedig y GIG, eisoes dan gymaint o bwysau – ac rydyn ni’n gweithio gyda’n cydweithwyr yn Cyfoeth Naturiol Cymru, awdurdodau lleol ac asiantaethau eraill i fynd i’r afael â’r broblem hon.”
I roi gwybod am achos o yrru anghyfreithlon oddi ar y ffordd, ffoniwch 101.