Ailgyflwyno planhigyn arfordirol mewn perygl i ardal gadwraeth yn Ne Cymru
Mae prosiect cydweithredol dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi ailgyflwyno dwsinau o blanhigion Tafol y Traeth prin yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Arfordir Southerndown ar hyd Arfordir Treftadaeth Morgannwg.
Mae Tafol y Traeth yn blanhigyn sydd dan fygythiad yn fyd-eang ac wedi diflannu’n ddiweddar o Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Bae Dwnrhefn, o fewn SoDdGA ehangach Arfordir Southerndown.
Yng Nghymru, fe’i ceir yn unig mewn ardaloedd arfordirol ar Ynys Môn ac yn Sir Benfro ar hyn o bryd, er bod poblogaeth Tafol y Traeth Sir Benfro wedi lleihau yn dilyn stormydd yn 2013 a 2014. Yng ngweddill y DU, fe'i ceir yn bennaf yn Nyfnaint a Chernyw.
Darganfuwyd Tafol y Traeth ym Mae Dwnrhefn ym 1934 a pharhaodd i gael ei gofnodi yno tan 1958. Cafodd ei ailddarganfod ym 1996 a chafodd ACA Bae Dwnrhefn ei dynodi gyda Thafol y Traeth fel rhywogaeth allweddol yn 2004.
Ers hynny, mae Tafol y Traeth wedi diflannu o ACA Bae Dwnrhefn o ganlyniad i erydiad a chwympiadau creigiau sydd wedi gwaethygu yn ystod y blynyddoedd diwethaf oherwydd stormydd amlach a mwy eithafol yn gysylltiedig â newid hinsawdd, ac a welwyd ddiwethaf gan swyddogion CNC yn 2018.
Er bod trafodaeth wedi bod ar gryfhau’r boblogaeth yn y gorffennol, dechreuodd y prosiect hwn edrych ar ymarferoldeb ailgyflwyno Tafol y Traeth yn 2021.
Dewiswyd safleoedd addas, a thyfwyd 60 o eginblanhigion gan Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru o hadau a gasglwyd o blanhigion Dwnrhefn ychydig flynyddoedd yn ôl.
Ar 3 Ebrill, ymunodd Dr Kevin McGinn, Curadur y Banc Hadau a’r Llysieufa ac Ellyn Baker o Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Louise Bebb o Arfordir Treftadaeth Morgannwg â’r arbenigwyr cadwraeth, Julian Woodman, Ryan Paddock, Alexis Alders a Libby Brooks o CNC a dechrau cerdded ar hyd llwybr yr arfordir i'r safleoedd dethol a phlannu'r eginblanhigion yn ofalus.
Meddai Ryan Paddock, Swyddog Cadwraeth CNC ac arweinydd y prosiect:
“Yr ardaloedd cadwraeth gwarchodedig hyn yw’r safleoedd pwysicaf i dreftadaeth naturiol Cymru ac maent yn chwarae rhan bwysig yn ein gwaith i sicrhau adferiad byd natur.
“Mae gennym gyfrifoldeb i warchod statws ffafriol y cynefinoedd a’r rhywogaethau dynodedig hyn. Mae monitro ac ailgyflwyno rhywogaethau, lle bo'n briodol, yn hanfodol er mwyn cyflawni hyn.
“Yn ffodus, cafodd yr hadau o blanhigion Tafol y Traeth Bae Dwnrhefn eu casglu a’u cadw yn y banc cyn i’r rhywogaeth ddiflannu. Cafodd y rhain eu defnyddio wedyn gan Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru i dyfu planhigion newydd ac i atgyfnerthu’r hadau oedd wedi eu storio.
“Bydd poblogaeth Bae Dwnrhefn yn ffynhonnell hadau bwysig ar gyfer ail-gytrefu twyni a childraethau Môr Hafren.
“Rydym wedi cofnodi union leoliadau pob planhigyn gan ddefnyddio dyfeisiau GPS er mwyn gallu eu monitro.
“Rydym yn gobeithio gweld y planhigion hyn yn tyfu ac yn sefydlu o fewn y safleoedd hyn dros y blynyddoedd nesaf ac yn lledaenu i ardaloedd eraill o fewn yr ardal gadwraeth heb ragor o ymyrraeth.”
Mae ailgyflwyno i ardaloedd gwarchodedig yn gofyn am gynllunio gofalus cyn plannu.
Arweiniwyd yr astudiaeth ddichonoldeb i benderfynu a fyddai ailgyflwyno yn bosibl gan Dr Phil Wilson, arbenigwr ar gadwraeth rhywogaethau yn y DU.
Aeth ef ati i archwilio SoDdGA Arfordir Southerndown ar ei hyd am leoliadau addas a chanfod 11 safle a oedd â rhai o'r meini prawf cywir, megis dŵr treigl, tir sefydlog, llystyfiant na fyddai'n mynd yn drech na Dafol y Traeth, a mynediad i'r safle.
O'r 11 safle hynny, roedd dau yn bodloni'r holl ofynion ac fe'u dewiswyd ar gyfer y broses o ailgyflwyno.
Ariannwyd y gwaith gan gronfa Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru - rhaglen dair blynedd sy'n anelu at fynd i'r afael â'r argyfwng natur yng Nghymru trwy gynyddu bioamrywiaeth, gwella cyflwr safleoedd gwarchodedig a gwella gwytnwch a chysylltedd cynefinoedd a rhywogaethau.