Rhwydweithiau Natur - gwybodaeth ar brosiectau morol
Mae Rhwydweithiau Natur yn rhaglen dair blynedd a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n ceisio mynd i'r afael â'r argyfwng natur yng Nghymru drwy gynyddu bioamrywiaeth, gwella cyflwr safleoedd gwarchodedig a gwella gwytnwch a chysylltedd ein cynefinoedd a'n rhywogaethau.
Mae'r rhaglen yn rhedeg rhwng 2022 a 2025 ac mae'n cynnwys cynefinoedd daearol, dŵr croyw a morol. Mae CNC yn gweithio gyda pherchnogion tir, partneriaid a rhanddeiliaid eraill i weithredu mesurau rheoli sy'n mynd i'r afael â'n hamcanion ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i amgylchedd Cymru.
Cyllideb y rhaglen dros dair blynedd yw oddeutu £45 miliwn, ac mae'n ariannu cyfran y mae CNC yn cyflwyno cais amdani bob blwyddyn yn ogystal â rhaglen grantiau Rhwydwaith Natur Llywodraeth Cymru sy'n cael ei gweinyddu gan Gronfa Dreftadaeth Genedlaethol y Loteri.
Er bod rhywfaint o'r gyllideb wedi'i dyrannu i roi hwb i'n rheolaeth gadwraeth bresennol o safleoedd gwarchodedig, mae prosiectau wedi'u targedu hefyd wedi'u creu i ganolbwyntio sylw ar rywogaethau a chynefinoedd bregus.
Isod mae'r prosiectau morol - darllenwch am y prosiectau natur ar y tir.
Prosiectau morol
Casgliad abwyd
Gweithgareddau casglu abwyd sydd yn ein poeni fwyaf yw cloddio am fwydod, troi clogfeini a theilio crancod. Bydd y prosiect yn nodi tystiolaeth ar effeithiau’r gweithgareddau hyn ar Ardaloedd Gwarchodedig Morol ac yn gweithredu mesurau rheoli lle bo angen. Mewn un ardal, lle mae gennym dystiolaeth fod casglu abwyd yn niweidiol, sef y Gann, yn Sir Benfro, byddwn yn anelu i sicrhau bod y gweithgaredd hwn yn gynaldwy.
Arolwg Mamaliaid Morol Acwstig Cymru
Mae mamaliaid morol, fel y llamhidydd a’r dolffin trwyn potel, yn defnyddio sain i gyfathrebu a lleoli eu hunain. Rydym am wella ein dealltwriaeth o sut y gall lefelau sŵn cefndirol effeithio ar y mamaliaid hyn gan ddefnyddio offer recordio acwstig arbenigol. Bydd y prosiect yn dechrau yn Ardal Cadwraeth Arbennig Morol Gogledd Ynys Môn, cyn symud ymlaen i Ardaloedd eraill sydd wedi eu dynodi ar gyfer y llamhidydd.
Sbwriel morol ac atal llongau adfeiliedig
Mae sbwriel morol yn broblem mewn llawer o Ardaloedd Morol Gwarchodedig. Un o’r ardaloedd gwaith fydd mynd i'r afael â chychod adfeiliedig sy'n gallu arwain at golled cynefinoedd ynghyd â phroblemau oherwydd microblastigau a llygredd gan baent, olew a disel. I ddechrau, bydd y prosiect yn mapio lleoliad cychod adfeiliedig, ac yna'n gweithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid eraill i greu proses ar gyfer tynnu’r llongau o ardaloedd penodol.
Ymchwiliadau i ddirywiad rhywogaethau a chynefinoedd
O fewn ein Ardaloedd Morol Gwarchodedig, mae rhai cynefinoedd a rhywogaethau yn dirywio. Bydd ein prosiectau'n edrych ar feysydd allweddol, gyda'r nod o helpu'r cynefinoedd a'r rhywogaethau hyn i adennill.
- Maerl yn Aberdaugleddau, Ardal Cadwraeth Forol Arbennig Penfro.
- Sbyngau yn Ardal Cadwraeth Arbennig y Fenai a Bae Conwy.
- Gwelyau Cregyn gleision yn Ardal Cadwraeth Arbennig Pen Llyn a'r Sarnau.
- Amrywiaethau yn y banciau tywod ar draws y Rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig
- Penwaig yn Aberdaugleddau, Ardal Cadwraeth Forol Arbennig Penfro.
Cynllunio Bioddiogelwch yn erbyn Rhywogaethau Anfrodorol Ymledol
Gan adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi'i wneud ar gyfer cynllunio bioddiogelwch yn Ardal Cadwraeth Arbenig Pen Llyn a'r Sarnau, bydd y prosiect hwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol i greu a gweithredu 6 cynllun bioddiogelwch ar gyfer yr Ardaloedd Morol Gwarchodedig canlynol: Aber Dyfrdwy, y Fenai a Bae Conwy, Ardal Morol Sir Benfro, Bae Caerfyrddin ac Aber Afon Hafren.
Polderau Glanfa Fawr Tredelerch
Mae'r prosiect hwn yn ceisio adfer morfa heli ar hyd Glanfa Fawr Tredelerch trwy ailosod ac ymestyn y polderau gwaddodion. Mae polderau yn cynnwys gosod ffensys mewn patrwm petryal, i ail-greu symudiad dŵr, a fydd yn galluogi morfa heli ffurfio dros amser.
Cywasgu Arfordirol
Rhagwelir y bydd lefelau'r môr yn codi ar gyfraddau cynyddol oherwydd effeithiau newid hinsawdd. Yn anochel bydd hyn yn cael effaith ar y cynefinoedd hynny a geir agosaf at y môr, a fyddai fel arfer yn addasu'n naturiol. Fodd bynnag, weithiau mae amddiffynfeydd morol, rheilffyrdd, a ffyrdd yn atal y cynefin rhag ymddwyn yn naturiol, a bydd dirywiad a cholled yn digwydd - proses sy'n cael ei enwi’n Gywasgu Arfordirol. Nod y prosiect hwn yw deall sut mae Cywasgu Arfordirol yn debygol o gael effaith ar yr Ardaloedd Morol Gwarchodedig, a bydd yr hyn a ddysgwn yn llywio'r gwaith o reoli ein harfordiroedd a'n cynefinoedd yn y dyfodol.
Gwella Cyngor ar Gadwraeth Forol
Cyngor cyfreithiol yw cyngor cadwraeth morol sy'n dylanwadu ar y ffordd yr ydym yn rheoli ein hardaloedd morol gwarchodedig. Mae amcanion cadwraeth o fewn y cyngor yn esbonio'r hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni ar gyfer pob nodwedd mewn safle, a bydd y prosiect hwn yn ein helpu i wella ein gwybodaeth am gyflwr ein nodweddion a sicrhau ein bod yn gosod amcanion cadwraeth cywir ar gyfer rheoli safleoedd yn gynaliadwy.