Dyddiad wedi’i bennu ar gyfer agor Rhodfa Coedwig Cwm Carn
Y mis nesaf bydd Rhodfa Coedwig Cwm Carn yn agor ei gatiau ac yn croesawu ymwelwyr mewn ceir am y tro cyntaf ers dros chwe blynedd, yn ôl cadarnhad gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Mae'r dyddiad ar gyfer dadorchuddio’r Rhodfa ar ei newydd wedd wedi'i bennu ar gyfer 21 Mehefin, wrth i gyfyngiadau Covid-19 barhau i gael eu llacio yng Nghymru.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae'r Rhodfa wedi cael ei datblygu'n sylweddol i greu atyniad sy'n hygyrch ac yn ddymunol i bob cynulleidfa.
Crëwyd sawl llwybr pob gallu newydd ar hyd y Rhodfa, gan agor mynediad i'r goedwig i bawb, ynghyd â llawer o ardaloedd eistedd newydd ar gyfer ciniawau hamddenol.
Gall rhieni sydd eisiau difyrru eu plant edrych ymlaen at dair ardal chwarae newydd, twnelau synhwyraidd a llwybr cerfluniau coetir.
Bydd caban pren gyda golygfeydd panoramig dros y cwm yn darparu cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau dysgu a lles yn yr awyr agored, tra bydd arwyddion gwybodaeth yn caniatáu i bobl ddysgu mwy am hanes a threftadaeth y coetir.
Dywedodd Geminie Drinkwater, Rheolwr Prosiectau gyda Cyfoeth Naturiol Cymru:
"Mae wedi bod yn fraint aruthrol gallu gweithio ar y prosiect hwn a gweld syniadau a dyheadau llawer o bobl leol ac ymwelwyr yn dwyn ffrwyth.
"Mae Coedwig Cwm Carn yn ased pwysig i'r gymuned leol ac ymwelwyr fel ei gilydd, gan ddarparu mynediad gwerthfawr i fannau gwyrdd. Dros y flwyddyn ddiwethaf mae pandemig Covid-19 wedi amlygu pa mor bwysig yw hyn i'n lles corfforol a meddyliol.
"Mae'r hyn rydyn ni wedi'i greu yma yn rhywbeth a fydd yn cael ei goleddu gan lawer – hen ac ifanc – am flynyddoedd i ddod. Mae'n ategu arlwy penigamp o weithgareddau sydd eisoes ar gael ar y safle a bydd yn rhoi hwb gwerthfawr i'r economi leol."
Meddai Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, y Cynghorydd Philippa Marsden:
"Mae'n wych gweithio gyda CNC i ddod â'r atyniad poblogaidd hwn yn ôl at ddefnydd y cyhoedd. Mae gweld y cynnydd a wnaed dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn bleser. Mae gan y man gwyrdd trawiadol yma amrywiaeth o nodweddion newydd sbon, gan gynnwys y podiau glampio moethus a nifer o ardaloedd gweithgareddau. Mae rhywbeth i bawb ei fwynhau a gobeithiwn y bydd trigolion ac ymwelwyr yn gwneud y gorau o'r cyfan sydd gan Gwm Carn i'w gynnig yn ystod y misoedd nesaf."
Fis diwethaf, cytunodd aelodau'r Cabinet o Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar drefniant cydweithredol gyda CNC i reoli rhodfa’r goedwig. Mae'r Cyngor eisoes yn gyfrifol am reoli nifer o atyniadau eraill ar y safle gan gynnwys y Ganolfan Ymwelwyr, Caffi Raven a'r cabanau moethus a'r podiau glampio.
Pris mynediad fydd £8 ar gyfer ceir, £4 ar gyfer beiciau modur, £15 ar gyfer bysiau mini a £30 i fysiau.
Bydd seremoni swyddogol i nodi ailagor y rhodfa yn digwydd unwaith y bydd cyfyngiadau Covid-19 yn cael eu llacio ymhellach.