Dirwy i ddyn o Crosskeys am bysgota heb drwydded gwialen
Mae dyn o Crosskeys wedi cael gorchymyn i dalu cyfanswm o £435.30 ar ôl cael ei ddal yn pysgota ar ddarn preifat o Afon Ebwy yn Crosskeys, heb ganiatâd na thrwydded ddilys ar gyfer pysgota â gwialen.
Cafodd Stephen Chard, o Risca Road, Cross Keys ei ddal yn pysgota gan swyddogion gorfodi Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar ddarn o Afon Ebwy, ger Parc Waunfawr ar 5 Mehefin yn gynharach eleni yn ystod patrôl.
Pan gafodd ei holi gan swyddogion, cadarnhaodd Mr Chard nad oedd ganddo Trwydded Gwialen gyfredol ac nad oedd yn aelod o'r clwb pysgota ac nad oedd ganddo ganiatâd i bysgota yno.
Ar 3 Medi, cafwyd Mr Chard yn euog drwy'r Weithdrefn Ynad Unigol o ddefnyddio offeryn pysgota heb drwydded ac yn euog o Atodlen 1 a 2 o Ddeddf Dwyn 1968, a chafodd ddirwy o £220, gorchymyn iddo dalu cost o £127.30 a gordal dioddefwr o £88.
Dywedodd Chris Burge, Swyddog Rheoleiddio Gwastraff CNC:
Rydym yn cymryd unrhyw weithgaredd sy'n bygwth stociau pysgod Cymru o ddifrif ac mae hyn yn arbennig o wir am bysgota anghyfreithlon.
Rydym yn annog pysgotwyr i wneud defnydd o'n cefn gwlad hardd yng Nghymru, ond i wneud hynny'n gyfrifol ac i sicrhau bod ganddynt drwyddedau i bysgota, er mwyn osgoi cael eu herlyn.
Hoffwn ddiolch i aelodau a phwyllgor Genweirwyr Islwyn a’r Cylch am eu cymorth parhaus i ddiogelu Afon Ebwy.
Cofiwch fod rhaid i chi feddu ar drwydded ddilys ar gyfer pysgota â gwialen pan fyddwch yn pysgota mewn unrhyw ddyfroedd a reolir yng Nghymru a Lloegr. Gallech gael dirwy o hyd at £2,500 a gellid cymryd eich offer pysgota os ydych yn pysgota ac yn methu â dangos trwydded ddilys ar gyfer pysgota â gwialen
Gall unrhyw un sy’n gweld neu’n amau gweithgaredd pysgota anghyfreithlon ei riportio i linell gymorth digwyddiadau 24 awr CNC ar 0300 065 3000 neu ar wefan CNC: Cyfoeth Naturiol Cymru / Rhoi gwybod am ddigwyddiad
Gellir prynu trwyddedau gwialen ar-lein yn:
https://cyfoethnaturiol.cymru/permits-and-permissions/buy-a-fishing-rod-licence/?lang=cy