Ymgyrch lanhau ym Mhrestatyn yn parhau
Mae swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn parhau â’r ymgyrch lanhau yn dilyn achos tybiedig o lygredd mewn cwrs dŵr ym Mhrestatyn.
Cafodd CNC adroddiadau yn ddiweddar am lewyrch olewog mewn cwrs dŵr a adwaenir yn lleol yn ‘gwter Prestatyn’, ac ymatebodd swyddogion yn gyflym gan osod rhwystrau pwrpasol a deunyddiau amsugnol er mwyn lleihau maint ac effaith y llygredd.
Credir mai diesel coch yw’r llygredd olew, ond mae’n anoddach ymchwilio iddo gan fod y diesel yn dod i mewn i’r dŵr o hen system fwynglawdd.
Mae’r arsylwadau hyd yma’n awgrymu mai bach iawn yw’r effeithiau amgylcheddol, ac mae’r effaith weledol wedi’i lleihau’n fawr ar ôl defnyddio’r offer arbennig. Cadarnhawyd erbyn hyn yn ogystal fod y gollyngiad o’r mwynglawdd yn rhydd rhag halogiad olew.
Mae contractwyr arbenigol wedi’u penodi i dynnu’r olew o’r cwrs dŵr (yn benodol yr olew sy’n cael ei ddal yn ôl gan y rhwystrau) ac mae CNC yn disgwyl y bydd y gwaith yn cael ei wneud yr wythnos hon.
Dywedodd Rhys Ellis, Arweinydd Tîm Amgylchedd i Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Mae amddiffyn amgylchedd a bywyd gwyllt Cymru yn rhan enfawr o’r gwaith yr ydym yn ei wneud, a dyna pam gellir cysylltu â ni drwy’r dydd, bob dydd, rhag ofn y ceir digwyddiad y mae angen inni fynd ato.
“Mae ein swyddogion yn monitro’r sefyllfa ym Mhrestatyn yn rheolaidd ac rydym yn gweithio'n galed i ymchwilio i’r ffynhonnell ymhellach. Byddwn yn gweithio gyda’r contractwyr yn awr er mwyn lleihau unrhyw effeithiau pellach yn yr ardal.”
Mae’r ymchwiliadau i ganfod sut y bu i’r llygrydd fynd i mewn i’r system fwynglawdd yn parhau ac rydym yn annog aelodau’r cyhoedd i gysylltu â llinell ffôn ddigwyddiadau 24/7 CNC, 0300 065 3000, os oes gennych unrhyw wybodaeth a all gynorthwyo ein hymchwiliad.