Hwb i boblogaethau pysgod prin yng Ngogledd Orllewin Cymru
Mae gwaith cadwraeth a monitro yn mynd rhagddo i helpu i ddiogelu poblogaethau o bysgod prin yn Eryri.
Wrth i arweinwyr byd ymgynnull i drafod camau gweithredu brys ar gyfer adfer natur yn #COP15, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn tynnu sylw at ei waith rhwydo yn Llyn Padarn i fonitro nifer torgochiaid yr Arctig yn y llyn a chasglu nifer fach o wyau ar gyfer gwaith bridio i ychwanegu at is-boblogaeth yn Llyn Crafnant ger Trefriw.
Mae torgoch yr Arctig yn fath prin o bysgodyn sy'n dyddio'n ôl cyn belled ag Oes yr Iâ ac mae i'w gael mewn dim ond ychydig o lynnoedd dŵr croyw dwfn yng Nghymru.
Mae'r gwaith hwn yn rhan o bartneriaeth sy'n cynnwys Cyngor Gwynedd, Dŵr Cymru, Cwmni First Hydro, Caru Ein Llyn, Ymddiriedolaeth Afonydd Gogledd Cymru, Prifysgol Bangor a Chymdeithas Bysgota Seiont Gwyrfai a Llyfni ac fe’i hariennir trwy Gronfa Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru.
Mae'r Gronfa Rhwydweithiau Natur yn fenter a gyflwynir mewn partneriaeth rhwng Lywodraeth Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a CNC i gryfhau gwydnwch rhwydwaith Cymru o safleoedd gwarchodedig ar y tir a’r môr, gan gefnogi adferiad natur a mynd ati i ennyn diddordeb ymhlith y gymuned.
Dywedodd Huw Jones, Arweinydd Tîm Amgylchedd CNC ar gyfer Gogledd Orllewin Cymru:
"Mae torgoch yr Arctig yn rhywogaeth eiconig o Gymru sy'n unigryw yn enetig ac rydym yn ymgymryd â'r gwaith hwn i fonitro a chynyddu'r niferoedd yma yng Ngogledd Orllewin Cymru.
"Byddwn ni'n mesur hyd y pysgod a chyfran y pysgod gwyllt o gymharu â physgod o stoc yn y llyn er mwyn sefydlu iechyd y boblogaeth. Hefyd, bydd cyflwyno is-boblogaeth yn Llyn Crafnant yn sicrhau dyfodol y boblogaeth yn erbyn bygythiadau fel newid hinsawdd.
"Byddwn yn parhau i adeiladu ar y gwaith hwn fel bod bywyd gwyllt yn parhau i ffynnu yn Llyn Padarn ac o'i amgylch, fel rhan o'n gwaith ehangach yng Nghymru i ddefnyddio atebion sy'n seiliedig ar natur ar gyfer addasu i newid yn yr hinsawdd a’i liniaru, a sicrhau bod ardaloedd gwarchodedig yn effeithiol ar gyfer bywyd gwyllt.
"Nid yn unig y mae amgylchedd naturiol bywiog ac iach yn newyddion gwych i'r byd naturiol - mae'n hwb i'r gymuned leol ac ymwelwyr i'r ardal. Mae hyn, yn ei dro, o fudd i'r economi leol."
Bydd Cynhadledd Bioamrywiaeth y Cenhedloedd Unedig (COP15) yn cael ei gynnal rhwng 7 a 19 Rhagfyr ym Montreal, Canada.
Bydd COP 15 yn dod â llywodraethau o bob cwr o’r byd ynghyd i gytuno ar gyfres newydd o nodau ar gyfer natur dros y ddegawd nesaf ac yn gosod cynllun uchelgeisiol i weithredu’n eang i drawsnewid perthynas cymdeithas gyda bioamrywiaeth ac i sicrhau y bydd y weledigaeth a rennir o fyw mewn harmoni â natur yn cael ei chyflawni erbyn 2050.