Barbeciws wedi’u gwahardd yng Ngwarchodfa Natur a Choedwig Niwbwrch

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cefnogi cais gan y gymuned leol drwy gyflwyno gwaharddiad llwyr ar farbeciws a thanau yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch.

Mae’r cam hwn yn dilyn 15 digwyddiad cysylltiedig â thân, gan gynnwys defnyddio barbeciws, y bu swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymdrin â nhw y penwythnos diwethaf. Nod y gwaharddiad yw lleihau perygl tanau gwyllt, ac mae’n berthnasol i bob rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch – gan gynnwys meysydd parcio a’r holl dir sy’n cael ei reoli gan CNC.

Bydd yr ardal ddynodedig ar gyfer barbeciws yn y maes parcio yn cael ei thynnu dros yr wythnosau nesaf a’i throi’n lle picnic yn unig. Mae tanau agored a gwersylla dros nos yn parhau i fod wedi’u gwahardd yn llwyr.

Rydym am i bobl fwynhau’r safle yn ddiogel ac anogwn ymwelwyr i ddod am y diwrnod a dod â phicnic gyda nhw.

Caiff llawer o danau gwyllt yng Nghymru eu cychwyn yn ddamweiniol gan bobl sy’n mwynhau cefn gwlad. Gall sigaréts wedi’u taflu, poteli gwydr a barbeciws diawdurdod bob un sbarduno tanau sy’n peryglu cymunedau lleol, ac maent yn achosi niwed parhaol i gynefinoedd a bywyd gwyllt.

Dywedodd Justin Hanson, Arweinydd Tîm Pobl a Lleoedd y Gogledd-orllewin i Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch yn safle poblogaidd sydd o bwys ecolegol. Rydym yn gwrando ar bryderon lleol ac yn gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau risg.
“Gyda thywydd cynnes a sych yn cynyddu perygl tanau gwyllt, rydym yn gofyn i bawb barchu’r rheolau a helpu i amddiffyn yr hyn sy’n gwneud y lle hwn mor arbennig.
 “Atgoffir ymwelwyr i fynd â’u sbwriel adref gyda nhw, gadael dim ar eu hôl, dod â phicnic a pheidio byth â chynnau tân neu farbeciw – yn enwedig mewn cyfnodau sych. Dylid dilyn arwyddion lleol a rhybuddion tân bob amser.”