Gweithio er budd yr afon: uchafbwyntiau gan Swyddogion Rheoli Tir Prosiect LIFE Afon Dyfrdwy
Ar ôl gweithio ar brosiect LIFE Afon Dyfrdwy fel swyddogion rheoli tir am bedair blynedd, gofynnwyd i Ifor a Tom grynhoi rhai o’u huchafbwyntiau yn ystod y prosiect, a rhannu cipolwg ar eu rolau o ddydd i ddydd yn helpu i wella ansawdd dŵr, cefnogi defnydd tir cynaliadwy, a chryfhau cynefinoedd ar draws y dalgylch.
Yn y blog hwn, maent yn myfyrio ar yr amrywiol gynlluniau a gyflawnwyd ar lawr gwlad, boed yn welliannau i seilwaith ffermydd a gwelliannau coedwigaeth, neu’n adfer glannau afonydd ac ymgysylltu’n ehangach â ffermwyr a thirfeddianwyr. Mae’r hyn sydd ganddynt i’w rannu yn dangos sut y mae camau gweithredu ymarferol, cydweithredol yn helpu i greu afon Dyfrdwy fwy cydnerth, ac yn pwysleisio pwysigrwydd ymyriadau pwrpasol sy’n cynorthwyo canlyniadau amgylcheddol yn ogystal ag anghenion busnesau amaethyddol.
Dyma Ifor yn dweud wrthym am y gwaith amaethyddol a choedwigaeth y bu’n rhan ohono …
Drwy weithio fel swyddog rheoli tir ar brosiect LIFE Afon Dyfrdwy, cefais gyfle i dreulio llawer o amser allan ar lawr gwlad, yn gweithio’n uniongyrchol gyda ffermwyr, coedwigwyr a sefydliadau partner ar draws dalgylch afon Dyfrdwy. Roedd y rôl yn amrywiol ac yn ymarferol, gyda chyfuniad o ymweliadau safleoedd, datrys problemau, a threfnu contractwyr i gyflawni’r gwaith ar y safle.
Treuliais lawer o amser yn nodi lle gallai newidiadau bach, pwrpasol wneud gwahaniaeth gwirioneddol, boed hynny’n gwella seilwaith ffermydd, lleihau dŵr ffo i afonydd, neu wella llwybrau coedwigaeth i reoli dŵr yn well yn ystod glaw trwm. Roedd yn rôl a oedd yn gofyn am hyblygrwydd, cyfathrebu da, a dealltwriaeth o sut mae nodau amgylcheddol yn rhan o reoli tir o ddydd i ddydd.
Gwelliannau i’r buarth
Dros ddau aeaf, bûm yn rheoli nifer o fentrau amaethyddol, gan ddefnyddio £150,000 o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i gynnal gwelliannau i fuarthau gyda’r nod o leihau’r slyri a dŵr ffo diangen a gynhyrchir. Roedd fy rôl yn cynnwys nodi’r gwelliannau mwyaf effeithiol, cynnal asesiadau safle, a chydweithio’n agos â ffermwyr i ddatblygu atebion a fyddai’n gweithio i’r amgylchedd a’r busnes fferm.
Drwy drafodaethau ac asesiadau ar y safle, medrais nodi meysydd allweddol lle’r oedd dŵr glaw glân yn mynd i mewn i systemau slyri yn ddiangen. Cafodd mesurau fel gosod cafnau a chasglu dŵr glaw eu blaenoriaethu, gyda phob ateb wedi’i deilwra i gynlluniau ac anghenion ffermydd unigol. Byddwn yn gweithio’n uniongyrchol gyda thirfeddianwyr i gytuno ar gynlluniau, a chyflawni gwelliannau a oedd yn ymarferol, yn fforddiadwy, ac yn cael eu cefnogi ar lawr gwlad.

At ei gilydd, gosodwyd gwerth tua 1,500 metr o gafnau, gan helpu i ddargyfeirio dŵr glân i ffwrdd o storfeydd slyri. Bu’r gwelliannau hyn yn fodd o leihau maint y slyri, lleihawyd y risg o ddigwyddiadau llygredd, ac yn gyffredinol cawsant groeso da gan y ffermwyr. Roedd y gwaith hefyd yn gymorth uniongyrchol i gydymffurfio â Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021, yn enwedig o ran capasiti storio slyri a gwahanu dŵr glân a dŵr budr.
Ar rai safleoedd, gosodwyd tanciau casglu dŵr glaw hefyd, gan ganiatáu i ddŵr glaw gael ei gasglu a’i ailddefnyddio o amgylch y fferm. Cyflawnwyd y gwaith ar draws amrywiaeth o wahanol fathau o ffermydd, o’r ffermydd cig eidion yn y dalgylch uchaf i’r unedau llaeth mwy dwys i lawr yr afon.
Ymweliadau fferm, cynghori ac ymgysylltu â thirfeddianwyr
Un rhan allweddol o fy rôl fyddai ymweld â ffermydd ar draws dalgylch afon Dyfrdwy, gyda phob ymweliad wedi’i deilwra i bob ffermwr unigol, a’r problemau penodol ar eu tir. Roedd yr ymweliadau hyn yn cynnwys nodi cyfleoedd posibl ar gyfer coridorau ar lan yr afon a lleiniau clustogi, rhoi cyngor a chyfarwyddyd ar grantiau, a chynnig cymorth clir ac ymarferol ynghylch atal llygredd a rheoliadau amaethyddol. Gwnaethom dargedu ac ymweld â thros 110 o ffermydd yn llwyddiannus yn ystod ein hamser ar y prosiect.
Yn ystod yr ymweliadau, byddwn yn asesu cynlluniau ffermydd, seilwaith ac arferion rheoli tir i nodi ble y gallai’r gwelliannau gael yr effaith fwyaf. Roedd hyn yn cynnwys cynghori ar y risgiau o gael slyri a dŵr ffo ar y buarth, gwahanu dŵr glân a dŵr budr, a chyfleoedd i leihau llygredd gwasgaredig sy’n mynd i mewn i gyrsiau dŵr. Gwnes hefyd helpu ffermwyr i ddeall rheoliadau perthnasol yn well, a sut y gallai newidiadau syml i seilwaith eu helpu i barhau i gydymffurfio.

Roedd cymorth grant yn rhan bwysig o’r ymgysylltiad hwn. Byddwn yn gweithio gyda ffermwyr i nodi cyfleoedd ariannu addas, egluro cymhwysedd, a thrafod sut y gellid dylunio gwaith arfaethedig i fodloni gofynion y cynllun tra’n parhau i weithredu yn unol â realiti’r fferm. Helpodd hyn i droi sgyrsiau yn welliannau ymarferol, wedi’u hariannu, ar lawr gwlad.
Er bod ffocws y gwaith hwn bob amser ar ymgysylltu’n uniongyrchol â ffermwyr, byddem hefyd yn gweithio mewn cydweithrediad â sefydliadau eraill o fewn dalgylch afon Dyfrdwy. Helpodd hyn i sicrhau dull cyson a chyfannol, ac osgoi dyblygu, gan gadw anghenion ffermwyr ac atebion penodol i’r safle wrth wraidd yr hyn yr oeddem yn ceisio ei gyflawni.
Gwelliannau i lwybr coedwigaeth a chwlfertau
Fel rhan o’n gwaith rheoli tir ehangach o dan y prosiect, buom hefyd yn cydweithio’n agos â thimau coedwigaeth Cyfoeth Naturiol Cymru i wneud gwelliannau i 11 o gwlfertau ar hyd pum milltir o lwybr coedwigaeth o fewn blociau coedwigaeth Aberhirnant a Llangower. Roedd y gwaith hwn yn cynnwys ailosod wyth cwlfert nad oeddent yn gweithio’n iawn a gosod tair cwlfert newydd, gan fynd i’r afael â phroblemau hirhoedlog gyda dŵr ffo gwaddod a draeniad gwael ar y trac.

Gwnaeth y gwelliannau i’r seilwaith cwlfertau leihau’r gwaddod a halogion eraill sy’n cyrraedd cyrsiau dŵr cyfagos yn sylweddol, yn enwedig yn ystod cyfnodau o fflachlifoedd. Drwy wella symudiad dŵr a sefydlogi systemau draenio’r trac, nid yn unig y darparodd y gwaith fuddion amgylcheddol clir, ond gwnaeth hefyd ganiatáu i weithrediadau gwaith coed parhaus barhau mewn ffordd fwy cynaliadwy ac effeithlon.
Fel rhan o’r gwaith hwn, gosodwyd trapiau gwaddodion ar hyd y rhwydwaith cwlfertau. Mae’r rhain yn darparu ffordd syml ond effeithiol o gasglu gwaddod trwy gloddio basnau bas naill ai uwchlaw neu islaw’r cwlfertau. Mae hyn yn torri ar draws llif y dŵr ddigon i ganiatáu i ronynnau trymach setlo allan, gan ddal i ganiatáu i ddŵr basio trwy’r system.
Creodd y newidiadau i’r systemau draenio hefyd sgydau dŵr a sympiau i reoli dŵr gormodol yn fwy naturiol. Bydd yr ardaloedd hyn yn cael eu cynnwys mewn cynlluniau adnoddau coedwig yn y dyfodol, a byddwn yn cael gwared ar rywogaethau conwydd, sy’n llai addas ar gyfer amodau gwlypach. Yn eu lle, bydd rhywogaethau brodorol fel helyg a gwern yn cael eu hannog i ymsefydlu, gan wella bioamrywiaeth a chydnerthedd hirdymor.
Dyma Tom yn rhannu rhai enghreifftiau o’i gynlluniau adfer cynefinoedd a gosod croesfan goedwigaeth newydd…
Roedd un o’r cynlluniau adfer cynefinoedd y bûm yn gweithio arno yn ystod y prosiect yn cynnwys adfer glan yr afon gan ddefnyddio technegau naturiol, megis waliau cynnal helyg, ynghyd â gosod ffensys a phlannu coed i greu coridor glan yr afon i helpu i sefydlogi’r erydu, a gwella ansawdd y dŵr. Roedd glan yr afon wedi bod yn chwalu oherwydd bod da byw yn ei defnyddio, ac oherwydd llifau uchel, gan gyfrannu at fewnbwn gwaddod a maethynnau, a oedd yn effeithio ar y cwrs dŵr.

Gwnaethon ni osod waliau cynnal helyg byw ar hyd troed y lan, gan blethu toriadau ffres rhwng stanciau i greu strwythur naturiol sy’n gwrthsefyll erydu, ac a fydd yn magu gwreiddiau dros amser. Mae’r dull hwn yn gydnaws â’r dirwedd ac yn cryfhau wrth i’r helyg dyfu. Er mwyn gwarchod y lan wedi’i hadfer, ychwanegwyd ffensys atal stoc i gadw da byw allan, lleihau sathru, ac atal maethynnau rhag cyrraedd y cwrs dŵr yn uniongyrchol, gan ganiatáu i lystyfiant ymadfer yn naturiol.

Roedd plannu coed ar hyd y lan uchaf yn ychwanegu sefydlogrwydd dyfnach, hirdymor. Bydd y rhywogaethau coed brodorol a blannwyd gennym yn helpu i arafu’r dŵr ffo, yn darparu cysgod, ac yn creu cynefin sy’n cynnal bioamrywiaeth. Mae’r arwyddion cynnar yn gadarnhaol; mae’r helyg yn magu gwreiddiau, mae llystyfiant yn dychwelyd y tu ôl i’r ffens, ac mae llai o waddod yn cyrraedd yr afon.
Mae’r cynllun penodol hwn yn enghraifft wych o sut y gall dulliau syml, sy’n seiliedig ar natur, wella sefydlogrwydd glannau afonydd yn gyflym, a chynnal cyrsiau dŵr glanach ac iachach.
Cadw stoc allan o gyrsiau dŵr, croesfannau gwartheg, a phlannu coed
Cyflwynais brosiect adfer tirwedd ar hen fferm cig eidion a oedd yn newid i gynhyrchu llaeth. Canolbwyntiodd y gwaith hwn ar warchod ansawdd dŵr, gwella cynefinoedd, a pharatoi’r daliad ar gyfer y pwysau cynyddol sy’n gysylltiedig â buches odro sy’n fwy o faint. Gyda disgwyl i ryw 150 o wartheg symud drwy’r system bob dydd, y nod oedd rhoi mesurau ataliol cryf ar waith cyn cynyddu cynhyrchiant.
Un o’r ymyriadau mwyaf arwyddocaol oedd gosod gwerth dau gilometr o ffens i atal gwartheg rhag mynd i mewn i’r cyrsiau dŵr sy’n rhedeg trwy’r fferm. Cyn hynny, roedd y da byw wedi bod yn rhydd i grwydro’r glannau, gan arwain at sathru, erydu, a mewnbwn maethynnau uniongyrchol. Drwy greu llain glustogi ar ffurf ffens barhaus, mae’r cyrsiau dŵr bellach wedi’u gwarchod rhag sathru a halogi, gan ganiatáu i lystyfiant ymadfer yn naturiol a chreu coridor glanach a mwy cydnerth ar lan yr afon.

Er mwyn cynnal bioamrywiaeth ehangach ac ychwanegu sefydlogrwydd strwythurol hirdymor, gwnaethom blannu 2,000 o goed brodorol ar hyd yr ymylon lle gosodwyd y ffensys. Dros amser bydd y coed ifanc hyn yn datblygu’n goetir amrywiol ar lan yr afon, gan gynnig cysgod, lloches, cynefin a chysylltedd gwell i fywyd gwyllt. Bydd eu gwreiddiau yn helpu i gryfhau’r glannau ac yn arafu’r dŵr ffo o’r arwyneb, gan leihau symudiad gwaddod i’r dŵr, a chyfrannu at sianeli iachach a mwy sefydlog.
Rhan allweddol arall o’r prosiect oedd gosod croesfan i wartheg wedi’i hadeiladu’n bwrpasol. Hebddi, byddai tua 150 o wartheg yn croesi drwy’r cwrs dŵr bob dydd, gan gynyddu’r llwyth maethynnau yn sylweddol, a tharfu ar wely’r afon. Mae’r groesfan newydd yn darparu llwybr caled, rheoledig, sy’n cadw da byw allan o’r dŵr yn gyfan gwbl. Bydd yr ymyrraeth syml hon yn cael effaith uniongyrchol a pharhaol ar leihau halogi ysgarthol, ac yn gwarchod y cwrs dŵr rhag difrod corfforol.
Gyda’i gilydd, mae’r mesurau hyn yn creu sylfaen gadarn ar gyfer trawsnewid y fferm i gynhyrchu llaeth wrth ddiogelu’r amgylchedd cyfagos. Mae’r cyfuniad o osod ffensys, plannu coed, a seilwaith da byw gwell yn sicrhau y gall y busnes fferm a’r ecosystem leol ffynnu ochr yn ochr am flynyddoedd i ddod.
Adeiladu croesfan goedwigaeth newydd i wella ansawdd dŵr
Fel rhan o’n gwaith i wella ansawdd dŵr o fewn y goedwigaeth, gwnaethom gynnal prosiect seilwaith pwysig o fewn dalgylch uchaf bloc coedwigaeth Penaran, drwy adeiladu pont newydd wedi’i chynllunio’n benodol ar gyfer peiriannau coedwigaeth a chludo pren. Cyn y prosiect hwn, yr unig ffordd i groesi’r afon oedd gyrru’n uniongyrchol drwy’r rhyd a oedd yn bodoli eisoes. Er ei fod yn ymarferol yn y gorffennol, roedd y dull hwn yn peri risgiau amgylcheddol parhaus, yn enwedig wrth i weithgarwch coedwigaeth yn yr ardal gynyddu.

Gyda’r bont newydd yn ei lle, nid oes angen i beiriannau trwm a lorïau coed fynd i mewn i’r cwrs dŵr mwyach. Mae’r newid hwn yn arwyddocaol: yn ystod y cynaeafu a’r echdynnu, fel arall, amcangyfrifir y byddai lorïau cymalog 44 tunnell yn teithio 2,000 o weithiau drwy’r afon. Dros y pum mlynedd nesaf, disgwylir i ryw 25,000 tunnell o bren gael ei gludo ar draws y llwybr hwn, sy’n golygu y bydd miloedd o symudiadau cerbydau bellach yn digwydd heb amharu ar wely’r afon. Bydd cael gwared ar y pwysau hwn yn lleihau dipyn ar symudiad gwaddod, mewnbwn maethynnau, a’r traul yn gyffredinol ar wely’r afon.
Mae gwarchod y dalgylch uchaf yn hanfodol ar gyfer system ehangach afon Dyfrdwy. Gall mewnbwn gwaddod a maethynnau o weithrediadau coedwigaeth gael effeithiau cronnol i lawr yr afon, gan effeithio ar ansawdd y dŵr, cynefinoedd o fewn llif yr afon, a’r rhywogaethau sy’n dibynnu arnynt. Mae’r bont yn gweithredu fel mesur ataliol, gan leihau effeithiau cronig, megis gwaddod mân a deunydd organig yn cyrraedd yr afon, a’r risg o ddigwyddiadau halogi acíwt sy’n gysylltiedig â pheiriannau.
Mae canfyddiadau gwyddonol diweddar wedi codi pryderon ychwanegol ynghylch halogion a ryddheir o draul teiars. Mae ymchwil wedi dangos y gall rhai cyfansoddion cemegol sy’n gysylltiedig â gronynnau teiars gael effeithiau angheuol ar rywogaethau fel yr eog arian. Er bod Prosiect LIFE Afon Dyfrdwy yn canolbwyntio ar eog Iwerydd, mae ansicrwydd o hyd ynghylch pa mor eang y gallai’r effeithiau hyn fod ar draws gwahanol rywogaethau eogiaid ac organebau dyfrol eraill. Drwy ddileu’r angen i gerbydau trwm basio’n uniongyrchol drwy’r afon, mae’r bont yn helpu i gael gwared ar y risg bosibl hon yn llwyr, gan gynnig haen ychwanegol o warchodaeth i rywogaethau sy’n fregus.
At ei gilydd, mae’r bont newydd yn cynrychioli dull rhagweithiol a blaengar o reoli dalgylchoedd. Mae’n cefnogi gweithrediadau coedwigaeth cynaliadwy, yn gwarchod ansawdd dŵr, ac yn cyfrannu at system afon iachach a mwy cydnerth. Bydd y darn cymharol fach hwn o seilwaith yn darparu manteision amgylcheddol hirdymor, gan sicrhau y gall y bloc coedwigaeth weithredu’n effeithlon ac yn gyfrifol am flynyddoedd i ddod.
Mae prosiect LIFE Afon Dyfrdwy wedi’i ariannu gan raglen LIFE yr Undeb Ewropeaidd, Llywodraeth Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd, Dŵr Cymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a’r Ganolfan Adfer Afonydd.
I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith, gallwch ein dilyn ar Facebook ac Instagram, neu danysgrifio i’n cylchlythyr yma.