Mae Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu – dewch i ddarganfod coetir yn eich ardal chi
Yr wythnos hon (25 Tachwedd – 3 Rhagfyr) rydyn ni’n dathlu Wythnos Genedlaethol y Coed, wythnos o ddathlu a chodi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd coed i nodi dechrau’r tymor plannu coed (Tachwedd – Mawrth).
Mae coed yn chwarae rhan hanfodol yn ein helpu i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur, ac mae ein coedwigoedd a’n coetiroedd ar hyd a lled Cymru yn cynnig mannau hamdden gwych i ni eu mwynhau sy’n helpu i wella ein hiechyd a’n lles.
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd deuddeg arall o’n coedwigoedd a’n coetiroedd sy’n cael eu rheoli gan ein timau coedwigaeth a rheoli tir ar hyd a lled Cymru, yn ymuno â rhwydwaith Coedwig Genedlaethol Cymru.
Mae’r deuddeg safle yn cynnwys coedwig Beddgelert yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri yng ngogledd Cymru, Sirhywi a Chwm Carn yn y de a Chwm Einion yn y canolbarth.
Fe fuon ni’n siarad â Richard Owen, arweinydd y tîm Hamdden ar Ystâd CNC i ddysgu mwy:
Mae’n wych gweld bod Coedwig Genedlaethol Cymru yn tyfu. Pa goedwigoedd a choetiroedd y mae CNC yn helpu i’w rheoli sydd wedi’u cyhoeddi fel rhan o’r Goedwig Genedlaethol hyd yn hyn, ac oes unrhyw argymhellion i bobl sy’n bwriadu ymweld?
Hyd yn hyn, mae yna gyfanswm o chwech ar hugain o goetiroedd yma yn CNC a fydd yn ymuno â rhwydwaith Coedwig Genedlaethol Cymru. Maen nhw’n rhychwantu hyd a lled Cymru, ac mae pob un yn unigryw ac yn cyfrannu rhywbeth gwahanol.
Yn y gogledd, mae coedwig Beddgelert sy’n drysorfa o lwybrau cerdded a beicio ac sy’n cynnig digonedd o dirweddau dramatig os ydych chi’n ffotograffydd brwd. Mae yna olygfeydd godidog draw at yr Wyddfa, a gallwch stopio am bicnic mewn llecyn llonydd wrth Lyn Llywelyn a gwrando am sŵn trenau hen Reilffordd Eryri, sy’n rhedeg drwy’r goedwig ar y ffordd rhwng Caernarfon a Phorthmadog.
Yng Nghanolbarth Cymru, mae coedwig Hafren sy’n gartref i lawer o lwybrau cerdded a llwybrau ceffyl trwy galon y goedwig ar hyd Afon Hafren hyd at Raeadr Blaen Hafren. Ym misoedd yr haf mae’n gartref i weilch y pysgod, sy’n treulio’r haf ger cronfa ddŵr o’r enw Llyn Clywedog. Gallwch eu gwylio’n cael eu bwydo o un o nythod y gweilch yn ystod y tymor bridio (sef rhwng mis Mawrth ac Awst fel arfer).
Yna yn y de mae coedwig Cwm Carn. Mae’n cynnwys rhodfa saith milltir o hyd, sy’n cynnwys wyth llecyn i stopio yn cynnwys amrywiaeth o gyfleusterau newydd i ymwelwyr, o fannau chwarae, llwybrau troed hygyrch, twneli synhwyraidd a llwybr cerfluniau pren.
Gallwch ddod o hyd i restr lawn o’n coetiroedd sy’n rhan o’r goedwig genedlaethol yma ac yma.
Beth mae’n ei olygu i chi i weld mwy o goetiroedd o Ystad Goetir Llywodraeth Cymru yn cael eu cynnwys fel rhan o’r Goedwig Genedlaethol?
Rydym yn falch iawn o allu gweithio gyda chynlluniau Llywodraeth Cymru a helpu i’w cefnogi a chwarae ein rhan wrth helpu i greu’r Goedwig Genedlaethol yng Nghymru, yn enwedig yn wyneb yr argyfyngau Hinsawdd a Natur.
Mae ein coedwigoedd a’n coetiroedd yn fannau hamdden gwych, ac maen nhw’n cynnig manteision lluosog i’n cymunedau a’n bywyd gwyllt ledled Cymru, yn ogystal â chefnogi’r economi, a dyna pam ei bod mor bwysig ein bod yn gofalu amdanynt ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Mae’n gymeradwyaeth gadarnhaol iawn i’n timau ymroddedig sy’n gweithio’n galed i reoli’r safleoedd hyn yn unol â Safon Coedwigaeth y DU.
Sut gall pobl ddysgu mwy am y Goedwig Genedlaethol?
Gallwch ddysgu mwy am Goedwig Genedlaethol Cymru ar wefan Llywodraeth Cymru.
Os ydych chi’n rheoli neu’n berchen ar goetir yng Nghymru ac os hoffech wneud cais i fod yn rhan o’r Goedwig Genedlaethol, byddem wrth ein bodd yn clywed oddi wrthoch chi.
Mae tîm o Swyddogion Cyswllt Coedwig Genedlaethol Cymru gyda ni sydd wedi’u lleoli ar hyd a lled Cymru a gallwn gynnig cefnogaeth ac arweiniad am safleoedd posib a sut y gallech roi tystiolaeth o ganlyniadau Coedwig Genedlaethol Cymru.
Gallwch gysylltu â’r tîm drwy e-bostio: