Symffoni natur: manteision synau naturiol

Mae’n Wythnos Natur Cymru ac mae’n amser ardderchog i feddwl am effaith natur ar ein lles. Yma, mae Ruth Thomas, ein cynghorydd iechyd, yn esbonio sut y gall sŵn effeithio ar ein lles meddyliol mewn gwahanol ffyrdd.

Natur sŵn

Efallai eich bod yn ymwybodol fod sŵn yn broblem iechyd cyhoeddus bwysig - mae llawer wedi cael ei ysgrifennu am ei effeithiau negyddol ar iechyd a lles pobl. Ond a wnaethoch chi erioed ystyried fod sŵn yn gallu bod yn llesol hefyd i'n hiechyd?

Nid oes unrhyw wahaniaeth ffisegol rhwng sŵn a sain, dirgryniadau yw’r ddau ohonynt. Y gwahaniaeth yw sut rydyn ni'n ymateb i synau. Y diffiniad syml o sŵn yw sain nad ydym yn ei ddymuno ei glywed.

Mae gwrando ar synau byd natur (neu “symffoni natur”, fel yr ydw i’n hoffi cyfeirio ato) yn cynnig manteision sylweddol i’n hiechyd corfforol a meddyliol, a hefyd yn gwneud inni ymgysylltu mwy â byd natur.

Mae gan sŵn cân aderyn, siffrwd y gwynt drwy’r coed a thonnau’r môr yn chwalu dros y creigiau allu rhyfeddol i ysgogi llonyddwch a gorffwys.

Mae astudiaethau wedi dangos bod gwrando ar synau naturiol yn newid y cysylltiadau sydd yn ein hymennydd. Mae'n lleihau greddf ymladd-neu-hedfan naturiol ein corff, yn helpu i leddfu straen, lleihau pryder, a gwella ein hiechyd meddwl a'n lles.

Gall synau natur nid yn unig ein helpu i syrthio i gysgu - gallant hefyd wella ansawdd ein cwsg, gan wneud inni deimlo'n fwy egnïol ar ôl deffro.

Ychydig o gyngor cadarn

Dyma rai ffyrdd y gallwch chi ddefnyddio sŵn er budd eich lles:

  1. Diffoddwch eich technoleg ac edrychwch o’ch cwmpas. Manteisiwch ar y synau gwahanol a dieithr nad ydych chi'n eu clywed fel arfer. Mae ymchwil wedi canfod bod gweld neu glywed adar yn gysylltiedig â gwelliant mewn lles meddyliol sy’n gallu para hyd at wyth awr.

  2. Eisteddwch o dan goeden neu ar fainc ac ymgollwch yn synau natur gan anadlu’n ddwfn ac yn araf.

  3. Dilynwch afon neu nant a gwrandewch ar sŵn y dŵr yn llifo - gwyddom fod hyn yn lleihau lefelau pryder ac yn ein cynorthwyo i syrthio i gysgu.


Gallwch wrando ar symffoni natur wrth gerdded o amgylch eich cymdogaeth leol, neu beth am ddefnyddio ein gwefan Diwrnodau Allan i ddod o hyd i'ch coetir neu Warchodfa Natur Genedlaethol agosaf lle byddwch chi'n cael ymgolli mewn synau naturiol.

Os hoffech chi fwynhau byd natur o gyfforddusrwydd eich cartref, mae’n bosibl clywed synau’r goedwig ar ein gwe-gamera Gweilch y Pysgod yn Llyn Clywedog ar YouTube, neu gallwch ymlacio gyda Chill Cymru: golygfeydd byw o bob cwr o Gymru ar wefan Croeso Cymru.

Wnaethoch chi erioed feddwl tybed beth yw’r mannau tawelaf yng Nghymru, lle mae’r lefelau isaf o synau trefol? Defnyddiwch ein mapiau llonyddwch i ganfod yr ateb.

Os ydych chi wedi ffonio ein llinell gymorth cwsmeriaid yn ddiweddar, a wnaethoch chi sylwi ein bod ni wedi cyfnewid ein cerddoriaeth ddisgwyl glasurol am ganu adar?

Cyfeiriadau

Buxton. R. T; Pearson AL et al. (2021) A synthesis of health benefits of natural sounds and their distribution in national parks (pnas.org) 

Gould van Praag, CD Garfinkel, S.Net al. (2017) Mind-wandering and alterations to default mode network connectivity when listening to naturalistic versus artificial sounds | Scientific Reports (nature.com) 

Hammoud, R., Tognin, S., Burgess, L. et al. (2022) Smartphone-based ecological momentary assessment reveals mental health benefits of birdlife | Scientific Reports (nature.com) (Accessed 24.2.24)

Yeo, Kyoung-Su; Kim, Myung-Sook; Bae, Myung-Jin (2015) Acoustic Characteristics of the Forest Sounds Inducing Sleep.  International Information Institute (Tokyo). Information; Koganei Vol. 18, Iss. 10,: 4407-4412.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru