Gwaith monitro rheolaidd yn digwydd ar safle allweddol i’r pathew yng Ngogledd Cymru
Roedd gwirfoddolwyr a gynhaliodd waith monitro dros y gwanwyn mewn coetir allweddol yng Ngogledd Cymru wrth eu boddau ar ôl dod o hyd i sawl pathew wrth iddynt ddeffro o’u gaeafgwsg.
Mae ein swyddogion, a oedd yn gweithio ochr yn ochr ag Enfys Ecology a gwirfoddolwyr ymroddedig, wedi cwblhau eu harolwg monitro pathewod diweddaraf yng Nghoed y Fron Wyllt ger Bontuchel, Rhuthun.
Archwiliodd y tîm fwy na 200 o flychau nythu ar draws y safle fel rhan o raglen arolygu a gynhelir ers tro, a hynny bedair gwaith y flwyddyn ym mis Mai, Mehefin, Medi a Hydref. Yn ystod yr ymweliad diweddaraf, cofnodwyd chwe phathew llawn dwf. Ar yr adeg hon o'r flwyddyn, mae adar bach i’w cael fel arfer yn llawer o'r bocsys, felly mae unrhyw bathew a welir yn arbennig o galonogol.
Mae poblogaethau pathewod wedi cael eu monitro yng Nghoed y Fron Wyllt ers dros 20 mlynedd, a chydnabyddir y safle’n eang fel un o’r prif leoliadau ar gyfer gwarchod pathewod yng Nghymru. Mae'r gwaith yn rhan o ymdrechion parhaus i ddeall a diogelu'r rhywogaeth brin a bregus hon yn well, gan adeiladu ar waith partneriaeth diweddar a amlygwyd gan CNC i ddiogelu pathewod ledled Gogledd Cymru.
Mae'r gwaith monitro hirdymor hwn yn hanfodol i ddeall sefyllfa'r poblogaethau hyn, ac mae hefyd yn rhoi profiad ymarferol gwerthfawr i'n staff a'n gwirfoddolwyr. Mae'n enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth sy’n arwain at wneud gwahaniaeth gwirioneddol i un o'n mamaliaid brodorol sy’n wynebu’r bygythiad mwyaf.
Dros y gaeaf, tynnwyd mwy na 30 o hen flychau nythu a gosodwyd rhai newydd yn eu lle yn ystod diwrnod cynnal a chadw blynyddol. Gwelwyd bod pathewod eisoes yn defnyddio rhai o'r blychau newydd hyn yn ystod yr arolwg diweddaraf.
Mae pathewod coed cyll mewn perygl difrifol yn y DU, gyda niferoedd wedi gostwng 70% rhwng 2000 a 2022, yn ôl adroddiad State of Britain’s Dormice. Maent yn rhywogaeth warchodedig o dan gyfraith Ewropeaidd, sy’n gwneud gwaith cadwraeth yn hanfodol ar gyfer eu goroesiad.