Blog o’r gors – Rhannu gwersi LIFE
Fel rhan o Brosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE, mae’n bwysig iawn i ni ymweld â phrosiectau LIFE eraill ledled y DU ac yn rhyngwladol, ac yn dysgu oddi wrthynt.
Ym mis Medi, ymwelodd y tîm â phrosiect Marches Mosses LIFE – cyforgors fawn yr iseldir sydd o bwys rhyngwladol sy’n rhychwantu Cymru a Lloegr. Yn y blog yma, rydyn ni’n bwrw golwg ar yr hyn wnaethon ni ei ddarganfod a beth y gallwn ni ei ddysgu a’i ddefnyddio yn ein prosiectau ein hunain yng Nghymru.
Mae Marches Mosses yn cynnwys Gwarchodfa Natur Genedlaethol (GNG) corsydd Fenn’s, Whixall a Bettisfield a GNG Wem Moss yng Ngogledd Cymru a Swydd Amwythig. Gyda’i gilydd, maen nhw’n ffurfio’r drydedd gyforgors fawn fwyaf yn iseldir y DU. Mae’r fawnog, sy’n 2,500 erw o faint, yn rhychwantu’r ffin rhwng Cymru a Lloegr, gyda 75% o’r GNG yng Nghymru.
Beth mae’r prosiect yn ei wneud?
Ers 2016, mae Ymddiriedolaeth Natur Swydd Amwythig, Natural England a Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn gweithio i adfer 2,500 erw o’r Marches Mosses ac ymyl y mawn o’u cwmpas (neu ‘lagg’ yn Saesneg), gyda’r nod o’u hadfer yn ecosystemau iach unwaith eto.
O’r cychwyn cyntaf, uchelgais y prosiect oedd tynnu coed a phrysgwydd goresgynnol, cadw mwy o ddŵr glaw yng nghanol y Mosses ac ail-greu tir corsiog ar gaeau ymylol.
Pa heriau wynebodd y prosiect?
Wynebodd prosiect y Marches Mosses heriau tebyg iawn i’r rhai a brofwyd gan Brosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE ar ei safleoedd.
Mae’r hanes o dorri mawn ar y Marches Mosses a’r lefelau dŵr is oherwydd effaith ffosydd draenio wedi niweidio cynefin y gors.
Mae hyn wedi achosi i’r safle sychu, gan ganiatáu i brysgwydd goresgynnol fel gwellt y gweunydd (neu molinia) ymsefydlu a dominyddu’r safle.
Beth mae’r prosiect wedi’i gyflawni hyd yn hyn?
Mae staff prosiect y Marches Mosses wedi gweithio gyda chymorth gwirfoddolwyr i dynnu prysgwydd goresgynnol. Mae gan y Mosses broblem ddifrifol gyda gwellt y gweunydd, sy’n llethu rhywogaethau sy’n arbennig i gorsydd, gan eu rhwystro rhag tyfu.
Fel y gwyddom o’n prosiect ein hunain, mae coed a glaswellt yn dda yn y lle iawn, ond nid yng nghanol mawnog.
Er bod coed yn dal llawer o garbon, mae’r fawnog yn dal hyd yn oed mwy ac, o roi llonydd iddi, mae’n ei storio am filoedd o flynyddoedd. Wrth i’r gors fynd yn wlypach ac yn fwy asidig ar ôl ei hadfer, bydd y rhywogaethau o brysgwydd goresgynnol yn ei chael hi’n anoddach aildyfu.
Mae Prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE yn brwydro yn erbyn gwellt y gweunydd a phrysgwydd ar ei safleoedd yntau hefyd. Mae’r prosiect wedi prynu peiriant cynaeafu gwair arbennig ar gyfer gwlyptiroedd er mwyn torri gwellt y gweunydd, ac mae’r contractwr hefyd yn chwistrellu coesynnau ac yn torri prysgwydd (coed bach) ar y safleoedd.
Rheoli dŵr
Ceisiodd prosiect y Marches Mosses adfer rheolaeth o’r dŵr ar y safle, hefyd. I wneud hyn, mae’r tîm wedi dargyfeirio draeniau mawr mewn ffyrdd sy’n amddiffyn yr ardal gyfagos ac wedi blocio myrdd o ffosydd llai sy’n cris-croesi’r safle.
Mae ‘celloedd’ wedi’u creu gan ddefnyddio techneg o’r enw byndio (gweler y ddelwedd isod). Mae’r rhain yn cloddiau o fawn sy’n gweithredu fel argaeau i ddal a storio dŵr ar y fawnog.
Mae Prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE hefyd yn defnyddio byndiau i ddal mwy o ddŵr ar y fawnog. Dim ond 25cm yw eu huchder, ac maen nhw’n dilyn cyfuchliniau cromenni’r gyforgors. Drwy adfer y lefelau dŵr naturiol, bydd mwy o figwyn yn ymsefydlu a ffynnu.
Mae amodau gwlyb a chorsiog yn ddelfrydol ar gyfer migwyn, sef sylfaen unrhyw fawndir. Wrth i figwyn bydru’n araf dros filoedd o flynyddoedd, mae’n creu mawn.
Rydyn ni’n ddiolchgar i brosiect LIFE Marches Mosses am ein gwahodd i ymweld. Fe wnaeth y profiad fwrw golau ar sut mae’r ddau brosiect yn defnyddio dulliau tebyg i adfer y cynefinoedd pwysig ac unigryw hyn.
Ewch i dudalen Prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE am ragor o wybodaeth.