Blog or gors - Arbenigwyr yn cwrdd yn Aberystwyth er mwyn creu etifedd parhaol i fawndiroedd
Bydd cynhadledd ryngwladol i archwilio’r manteision gwerthfawr y mae mawndiroedd yn eu darparu i bobl a’r amgylchedd naturiol yn digwydd yng Nghanolfan Gelfyddydau Aberystwyth 4-6 Hydref 2022.
Y 12fed gynhadledd Rhaglen Mawndiroedd IUCN UK (IUCN UKPP) fydd y cyfarfod mwyaf o arbenigwyr mawndiroedd mewn dros dair blynedd a bydd yn cynnwys 250 o wyddonwyr mawndir, cadwraethwyr, rheolwyr tir a gwneuthurwyr polisi o’r DU a thu hwnt.
Yma, mae Jake White o Brosiect Cyforgorsydd Cymru LIFE, yn dweud mwy wrthym am y gynhadledd a beth fydd y cynrychiolwyr yn ei wneud.
Mae’n bleser gennym fel prosiect gynnal cynhadledd yr IUCN yma yn Aberystwyth, ac rydym yn edrych ymlaen at rannu ein gwaith – ein cyflawniadau a’n heriau – gyda chymaint o arbenigwyr mawndiroedd.
Bydd prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE yn dod i ben ddiwedd mis Mawrth 2023 ar ôl dros bum mlynedd o waith i adfer cyforgorsydd ledled Cymru.
Hyd yn hyn, mae hyd at 80km o fynds mawn wedi eu gosod i gadw dŵr yn ôl ar y mawndiroedd - gan eu cadw nhw’n wlypach am amser hirach a helpu storio rhagor o garbon o’r atmosffer.
Yn ogystal â hyn, mae tua 92 hectar (bron i 227 cae pêl droed) o wair Molina trwchus wedi ei dorri, a fydd yn agor wyneb y gors ac yn caniatáu i fwsogl pwysig y sphagnum i sefydlu a ffynnu.
Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn rhai heriol iawn i’r prosiect ond rydym yn falch o rannu ein bod wedi rhagori ar ein targedau.
Bydd y gynhadledd yn rhoi cyfle i gynrychiolwyr ymweld â nifer o safleoedd ein prosiect yng Ngheredigion ac ymhellach, Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron, Cors Fochno (rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol Dyfi) a Chernydd Carmel ger Crosshands.
Bydd y rhaglen tair diwrnod yn cynnwys sgyrsiau, trafodaethau a theithiau maes sydd wedi eu cynllunio i archwilio sut y gellir creu etifedd parhaol o fawndiroedd iach ar draws y DU.
Fel rydym wedi trafod o’r blaen mae mawndiroedd mewn cyflwr da yn helpu ymladd yn erbyn newid hinsawdd, drwy wella ecosystemau, a gweithio gyda chynefinoedd a nodweddion naturiol er mwyn darparu amrywiaeth o fanteision i bobl a’r amgylchedd.
Mewn amodau iach mae mawndiroedd yn storio ac yn hidlo dŵr - gan leihau llifogydd i lawr yr afon a darparu dŵr yfed glan; maent yn sbwng carbon - yn amsugno carbon deuocsid o’r atmosffer. Maen nhw hefyd yn gartrefi ar gyfer planhigion a bywyd gwyllt prin a phwysig ac yn lleoedd gwych i fwynhau’r amgylchedd naturiol.
Gan fod cymaint o fawndiroedd y DU ar hyn o bryd mewn cyflwr llygredig, mae’r datrysiadau hyn sy’n seiliedig ar natur o dan fygythiad. Yr her nawr yw ail-adfer ein mawndiroedd a sicrhau eu llesiant yn y tymor hir.
Un o fanteision bod yn rhan o’r gynhadledd yw eich bod yn cael y cyfle i feithrin partneriaethau cydweithredol rhwng gwyddonwyr, cyrff anllywodraethol, busnesau, rheolwyr tir a’r Llywodraeth.
Mae’n lle gwych i ddarganfod beth mae gwledydd y DU (Cymru, Gogledd Iwerddon, Lloegr, a’r Alban) yn ei wneud i adfer mawndiroedd a dysgu am eu strategaethau penodol.
Mae Cymru a gweddill y DU yn gwneud gwaith gwych tuag at adfer mawndiroedd ac mae'r cynadleddau hyn yn ffordd wych o ddysgu mwy am yr ystod eang o bynciau.
Caiff y gynhadledd ei noddi gan Brosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru, a Cyfoeth Naturiol Cymru, a’i chynnal mewn partneriaeth â’r Rhaglen Weithredu Mawndiroedd Cenedlaethol a Pennine PeatLIFE.
Am ragor o wybodaeth am waith Rhaglen Mawndir IUCN UK ewch i: www.iucn-uk-peatlandprogramme.org
Bydd y gynhadledd yn rhannu diweddariadau byw yn ystod y tridiau dilynwch nhw ar Twitter @IUCNpeat #PeatConf22