Dwyn cwmnïau dŵr i gyfrif: Gwella sut rydym yn mesur ac yn adrodd ar berfformiad cwmnïau dŵr

Fel rheoleiddiwr amgylcheddol Cymru, ein gwaith ni yw sicrhau bod cwmnïau dŵr yn cyflawni eu rhwymedigaethau amgylcheddol ac yn lleihau’r effaith mae eu gweithrediadau yn ei gael ar afonydd, llynnoedd a dyfroedd arfordirol Cymru.

Rydym yn gwneud hyn drwy ddefnyddio trwyddedau amgylcheddol, sy'n gosod amodau ar yr hyn y caniateir ei ollwng yn ôl i'r amgylchedd.  Mae data gollyngiadau a cholledion yn cael ei fonitro gan ein timau yn Cyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau bod cwmnïau dŵr yn cydymffurfio ag amodau eu trwydded amgylcheddol.

Bob blwyddyn, rydym yn cyhoeddi Adroddiad Asesu Perfformiad Amgylcheddol blynyddol ar gyfer pob un o'r ddau gwmni dŵr sy'n gweithredu yng Nghymru – Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy. Mae hyn yn mesur perfformiad y cwmnïau yn erbyn saith metrig sydd wedi'u safoni yng Nghymru a Lloegr, ac yn darparu sgôr sêr ar gyfer y cwmnïau gweithredu mwyaf. Felly mae Dŵr Cymru yn cael sgôr sêr gennym ni, ond nid yw hyn yn cael ei wneud i Hafren Dyfrdwy gan bod eu hardal weithredu yn fychan.

Dylai'r adroddiad perfformiad blynyddol ar gyfer 2024 gael ei gyhoeddi yn fuan. Cyhoeddwyd adroddiad dros dro ar ddigwyddiad llygredd ym mis Gorffennaf.

O 2026 ymlaen, rydym yn gwneud rhai newidiadau pwysig i’r ffordd yr ydym yn adrodd ar berfformiad amgylcheddol cwmnïau dŵr. Mae'r newidiadau hyn wedi'u cynllunio i wneud ein hadroddiadau'n gliriach, er mwyn rhoi darlun cyffredinol gwell o effaith cwmnïau dŵr ar yr amgylchedd a chryfhau ein hymateb rheoleiddiol.

Beth sy'n newid – a pham?

Bydd un o'r newidiadau mwyaf nodedig yn effeithio ar sut mae digwyddiadau llygredd a achosir gan asedau cwmnïau dŵr yn cael eu cofnodi.

Ers 2011, rydym wedi olrhain nifer y digwyddiadau a adroddwyd gan gwmnïau dŵr fel rhan o'r asesiad blynyddol, sy'n cael eu categoreiddio rhwng lefel un (digwyddiad uchel neu arwyddocaol) a lefel pedwar (lefel isel).

Hyd yma, mae cwmnïau dŵr wedi gallu diystyru gollyngiadau sydd wedi'u categoreiddio ar y lefel isaf, lle nad oes unrhyw anfantais i ansawdd dŵr fel 'hawliadau dim effaith'.  Mae newidiadau i ganllawiau cwmnïau dŵr wedi dileu'r 'hawliadau dim effaith' hyn ac o ganlyniad bydd pob digwyddiad bellach yn cael ei gofnodi, waeth pa mor ddifrifol ydyw neu waeth beth fo'r effaith ar yr amgylchedd.

Bydd yn rhaid i gwmnïau dŵr hefyd gynnwys gollyngiadau 'diwrnod sych' yn eu data digwyddiadau, ar gyfer digwyddiadau lle mae gorlifoedd storm wedi gollwng y tu allan i amodau storm. Fel mae eu henw'n awgrymu, dylai gorlifoedd storm weithredu dim ond pan fydd y rhwydwaith carthffosiaeth yn cael ei orlethu yn dilyn glaw trwm. Ym mis Hydref 2023, fe wnaethom gyflwyno canllawiau llymach i gwmnïau dŵr ynglŷn â’r amodau pan fo’n briodol i orlifoedd storm ollwng.

Bydd hyn yn rhoi gwell eglurder i ni fel rheoleiddiwr, ac i gymunedau, ynglŷn â maint gollyngiadau diawdurdod i'n hamgylchedd dŵr. Bydd digwyddiadau’n parhau i gael eu categoreiddio yn ôl eu difrifoldeb, gan ganiatáu inni ymateb yn briodol a thargedu ein camau rheoleiddio yn y meysydd cywir.

Mae newidiadau eraill i'w cyflwyno yn cynnwys:

  • Tynhau'r trothwyon ar gyfer hunan-adrodd digwyddiadau.
  • Cyflwyno metrig newydd ar gyfer cydymffurfiaeth trwyddedau gollwng gydag amodau disgrifiadol, sy'n berthnasol i weithfeydd trin dŵr gwastraff a gweithfeydd trin dŵr gydag amodau trwyddedau gollwng sy'n gosod terfynau ansawdd rhifol ar gyfer gollwng a monitro dŵr gwastraff wedi'i drin.
  • Mae cyflwyno metrig newydd ar gyfer gweithrediad monitro hyd digwyddiad gorlif storm yn adrodd ar ganran y monitorau sy'n adrodd data actifadu gorlif storm dibynadwy gyda gweithrediad sy’n fwy na neu’n hafal i 90% yn ystod y cyfnod adrodd blynyddol.
  • Newid o sgorau sêr i sgorau rhifol, cyflwyno sgôr o 5 a metrigau llymach

Gweler y fethodoleg a'r rhestr lawn o newidiadau ar wefan you.gov. 

Beth mae hyn yn ei olygu yn ymarferol

Wrth i ni ddechrau cyflwyno'r newidiadau hyn, rydym yn disgwyl y bydd nifer y digwyddiadau a gofnodwyd yn ein hadroddiad blynyddol yn codi'n sylweddol, ac yn ystyried y gollyngiadau blaenorol a ddiystyrwyd. Efallai y bydd hyn yn edrych yn frawychus i ddechrau, ond nid yw'n cyfateb i gynnydd gwirioneddol mewn digwyddiadau, mae'n adlewyrchu'r newid yn y meini prawf adrodd yn unig.

Er mwyn olrhain perfformiad a gwelliannau yn erbyn y metrig hwn yn gywir, bydd angen i ni sefydlu llinell sylfaen newydd, felly ni fydd y metrig cyfanswm digwyddiadau yn cyfrif tuag at sgôr sêr gyffredinol yr Asesiad Perfformiad Amgylcheddol tan 2028.

Fodd bynnag, bydd nifer y digwyddiadau llygredd sylweddol yn parhau i gael eu mesur a'u gweithredu yn unol â'n polisi gorfodi a sancsiynau. Mae gennym ystod o offer gorfodi ar gael ac rydym wrthi'n cynnal sawl ymchwiliad ffurfiol, gan gynnwys erlyniadau posibl sy’n ymwneud â digwyddiadau a materion cydymffurfio â thrwyddedau.

Cyflwyno tîm cydymffurfio newydd Cymru

Rydym wedi gweld dirywiad enfawr ym mherfformiad Dŵr Cymru ers 2020, a rhaid iddynt wneud newidiadau brys a sylfaenol i'w gweithrediadau i leihau eu heffaith ar yr amgylchedd.

Ers 2021, rydym wedi israddio’r cwmni o gwmni pedair seren (sy’n arwain y diwydiant) i gwmni dwy seren (angen gwella).

O ganlyniad, rydym yn cyflwyno tîm cydymffurfio newydd a bydd ei waith yn cynnwys monitro gollyngiadau cwmnïau dŵr yn agos, a chymryd camau i wella perfformiad gwael.

Rydym yn parhau i ddefnyddio'r holl offer gorfodi sydd ar gael i ni er mwyn sbarduno gwelliannau, ond nid yw'r cwmni wedi gallu gwrthdroi tueddiadau tuag i lawr yn eu perfformiad.

Ym mis Mawrth, fe wnaethom erlyn Dŵr Cymru yn llwyddiannus mewn perthynas â chyhuddiadau yn ymwneud â dros 800 achos o dorri ei drwydded amgylcheddol, yn gysylltiedig â'i gyfrifoldebau hunanfonitro. 

Ym mis Mai, roedd y cwmni yn y llys eto a chafodd ddirwy o £150,000 am gyfres o ddigwyddiadau llygredd carthffosiaeth ailadroddus ar Wastadeddau Gwent sydd dan warchodaeth uchel, a digwyddiad ar wahân ar lednant afon Llwyd. 

Cynlluniau uchelgeisiol i amddiffyn dŵr Cymru

Dros y pum mlynedd nesaf, byddwn yn monitro'r cwmnïau dŵr yn agos wrth iddynt gyflawni rhaglen fuddsoddi uchelgeisiol a fydd o fudd i bobl a natur yng Nghymru.

Gwnaethom wthio’n galed am hyn drwy gydol proses Adolygiad Prisiau Ofwat er mwyn cael lefelau record o fuddsoddiad yn yr amgylchedd.

Byddwn yn monitro’r cwmnïau dŵr yn agos wrth iddynt gyflawni’r rhaglen hon, gan sicrhau eu bod yn cyflawni’r gwelliannau sydd eu hangen i gywiro’r gollyngiadau y gwyddom sy’n achosi’r niwed mwyaf i’r amgylchedd.

Gan fod rheoleiddio economaidd y diwydiant dŵr ar fin cael ei ddatganoli i Gymru yn dilyn adolygiad o'r sector gan Syr John Cunliffe, byddwn yn cydweithio'n agos â Llywodraeth Cymru wrth iddynt gyflawni'r argymhellion ar gyfer Cymru.

Fel sefydliad, rydym eisoes yn archwilio sut y gall yr argymhellion gryfhau ein cyfundrefn reoleiddio bresennol, ac edrychwn ymlaen at ymateb Llywodraeth Cymru ac at gydweithio i sicrhau bod amgylchedd dŵr Cymru yn cael ei ddiogelu a'i wella er budd natur a phobl.