Pum mlynedd ers llifogydd Chwefror 2020: Myfyrio ar y gorffennol, paratoi ar gyfer y dyfodol

Roedd Chwefror 2020 yn fis na fydd llawer yng Nghymru yn ei anghofio, byth. O fewn ychydig wythnosau, fe wnaeth dwy storm daro ein cymunedau, un ar ôl y llall, gan ddod â glaw hanesyddol o drwm a lefelau afonydd a oedd yn chwalu bob record, ynghyd a llifogydd eang, a dinistr i gartrefi, busnesau a seilwaith.  

Bum mlynedd yn ddiweddarach mae Jeremy Parr, Pennaeth Rheoli Perygl Llifogydd a Digwyddiadau CNC, yn myfyrio ar effaith y stormydd hyn – ac eraill ers hynny – ar ein cymunedau, y cynnydd rydym wedi’i wneud, a’r angen cynyddol i bawb addasu i ddyfodol lle mae tywydd eithafol yn dod yn beth arferol.

Dinistr Chwefror 2020 

Ym mis Chwefror 2020, gwelom effeithiau echrydus rhai o’r llifogydd mwyaf a welwyd yng Nghymru ers 1979. Yn dilyn gaeaf hir a gwlyb iawn, y mis Chwefror hwnnw oedd y Chwefror gwlypaf a gofnodwyd erioed. Cafodd rhai ardaloedd yng Nghymru hyd at bedair gwaith y cyfartaledd misol hirdymor o law. 

Cyrhaeddodd Storm Ciara gyntaf, gan ysgubo ar draws Cymru ar 8-9 Chwefror, gan ddod â glaw trwm a gwyntoedd cryfion. Gwelwyd yr effeithiau mwyaf yng ngogledd Cymru, yn enwedig yn nalgylchoedd afonydd Conwy, Elwy a Dyfrdwy Uchaf, wrth i lefelau’r afonydd godi, ac wrth i gartrefi a busnesau ddioddef llifogydd. 

Ychydig ddyddiau’n ddiweddarach, dilynodd Storm Dennis ar 15-16 Chwefror, gan ddod â glaw trymach fyth am gyfnod hirach ar draws cymoedd de Cymru a Bannau Brycheiniog - gyda rhai lleoliadau ar hyd afonydd fel Taf, Rhondda, Wysg, a Gwy yn cyrraedd eu lefelau uchaf ers dechrau cadw cofnodion. 

Pan oedd y storm ar ei hanterth, roedd 900 tunnell o ddŵr yr eiliad yn llifo i lawr afon Taf – digon i lenwi pwll nofio maint Olympaidd mewn dim ond 3 eiliad. Roedd 61 o rybuddion ‘Llifogydd: Byddwch yn Barod’, 89 o Rybuddion Llifogydd a dau Rybudd Llifogydd Difrifol yn weithredol. 

Effeithiwyd ar dros 3,000 o eiddo yng Nghymru gan lifogydd yn ystod y stormydd hyn. Amharwyd yn ddifrifol ar rwydweithiau trafnidiaeth, ac ychwanegwyd at y dinistr gan dirlithriadau. Gadawyd cartrefi a busnesau - cymunedau cyfan - dan ddŵr, ac effeithiwyd ar fywoliaeth pobl yn ofnadwy.  

Nid yr effeithiau uniongyrchol yn unig sy’n arwyddocaol - mae glanhau ac atgyweirio yn cymryd misoedd, blynyddoedd hyd yn oed, a gall yr effeithiau iechyd meddwl ar bobl fod yn wirioneddol anodd a hirhoedlog. Mae’r bobl a brofodd y dinistr hwnnw - a dinistr llifogydd dilynol - yn ein meddyliau... mae wir yn brofiad erchyll. 

Beth mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi’i wneud ers 2020 

Mae ein staff ymroddedig yn gweithio bob dydd i reoli'r risg o lifogydd o afonydd mawr a'r môr. Yn yr un modd, mae cydweithwyr mewn Awdurdodau Lleol yn gwneud eu gorau glas i reoli'r risgiau o ran cyrsiau dŵr a draeniau. Ni allwn atal y glaw gwaetha’r modd - ac mae’n rhaid inni weithio o fewn y cyllidebau sydd gennym - ond rydym yn gwneud ein gorau i helpu i leihau’r risgiau.   

Ataliodd ein hamddiffynfeydd 19,000 o eiddo rhag dioddef llifogydd ym mis Chwefror 2020 - ac mae’n bwysig ein bod yn parhau i ofalu am y gwerth 500 cilomedr o amddiffynfeydd sy’n lleihau’r perygl i dros 90,000 o eiddo yng Nghymru, fel bod y rhwydwaith hwnnw’n gwneud ei waith pan fo’i angen.   

Rydym wedi buddsoddi £105m dros y pum mlynedd diwethaf mewn gwaith cyfalaf ledled Cymru, mewn meysydd fel amddiffynfeydd a systemau canfod, rhagweld a rhybuddio.  

Rydym wedi cynhyrchu gwybodaeth newydd ar ble sydd mewn perygl ac wedi gwneud y wybodaeth honno’n haws mynd ati ar ein gwefan. Rydym hefyd wedi cryfhau ein gweithdrefnau a’n harferion, fel ein bod mor barod ag y gallwn fod i ymateb pan ragwelir llifogydd - ac rydym yn rhannu gwybodaeth allweddol, gwybodaeth sydd ei hangen ar bobl.  

Rydym yn rhan o rwydwaith o bartneriaid, gyda’r Awdurdodau Lleol a’r gwasanaethau brys, sy’n paratoi ac yn ymateb i lifogydd, gan ddefnyddio’r data gorau sydd ar gael gan sefydliadau fel y Swyddfa Dywydd ac o’n modelau llifogydd ein hunain. 

Y dyfodol: addasu i hinsawdd sy'n newid 

Mae'r heriau'n enfawr - rhaid cyfaddef hynny i ddechrau. Mae newid hinsawdd yn digwydd. Rydym yn cael tywydd eithafol - a mwyfwy difrifol - yn amlach. Rydym wedi gweld hyn eto yn ystod y misoedd diwethaf gydag effeithiau dinistriol Storm Bert, a effeithiodd ar lawer o'r un cymunedau â Storm Dennis yn 2020. Eto, rydym yn cydymdeimlo’n llwyr â’r bobl yr effeithiwyd arnynt. 

Byddwn wrth gwrs yn parhau i fuddsoddi mewn amddiffynfeydd i helpu i leihau'r effeithiau hyn - ond ni allwn ddibynnu ar adeiladu’n unig i ddatrys y broblem hon. Ni fyddwn byth yn gallu atal llifogydd yn llwyr ac mae’n bwysig ein bod ni, fel cenedl ac fel cymunedau, yn gwella o ran paratoi ar gyfer llifogydd a’u rheoli pan fyddant yn digwydd. 

Fe wnaethom gynnal adolygiad o lifogydd 2020 a chyhoeddi ein canfyddiadau ym mis Hydref y flwyddyn honno. Mae’r adroddiad ar gael yma: Cyfoeth Naturiol Cymru / adolygiad llifogydd Chwefror 2020: Storm Ciara a Dennis. Roedd llawer o argymhellion penodol rydym wedi’u cyflawni – ond rhaid cydnabod, hefyd, fod angen buddsoddiad a gwelliant parhaus ar lawer.   

Nododd yr adroddiad hefyd rai 'materion mawr' sydd yr un mor wir heddiw ag yr oeddent bryd hynny. Mae llifogydd yn digwydd am gymaint o resymau ac maent yn effeithio ar gynifer o agweddau ar fywyd - felly nid yw'n wir mai cyfrifoldeb un awdurdod yn unig yw rheoli'r broblem. Mae'n llawer mwy cymhleth na hynny. 

Mae angen inni feddwl yn fawr. Mae angen i ystod eang o sefydliadau sydd â chyfrifoldeb yn y maes ystyried sut rydym yn rheoli llawer iawn o ddŵr mewn dalgylchoedd, sut rydym yn gwneud lle i ddŵr, a sut i beidio gwaethygu’r broblem drwy, er enghraifft, roi datblygiadau tai newydd ar orlifdiroedd. 

Yn amlwg, mae tasgau i sefydliadau fel CNC ac Awdurdodau Lleol arwain arnynt - ond mae angen i eraill chwarae eu rhan hefyd. Mae angen i’r sector tai a datblygwyr, er enghraifft, adeiladu mewn ffordd sy’n golygu bod llifogydd a newid arfordirol yn achosi llai o niwed i bobl, cartrefi a busnesau er mwyn i bobl allu dychwelyd i’w bywydau arferol yn gynt. Mae angen i ddarparwyr seilwaith fel cwmnïau dŵr ac ynni ac awdurdodau trafnidiaeth gynllunio a buddsoddi mewn modd sy’n ystyried llifogydd er mwyn inni allu delio â nhw. 

Mae hefyd angen inni weithio’n well gyda thirfeddianwyr, gan eu cymell i ddarparu atebion seiliedig ar natur gydag ystod o fanteision i leihau’r perygl o lifogydd, ac edrych i fyny’r afon i wneud lle ar gyfer y dŵr mawr rydym yn ei weld yn ystod llifogydd. 

Ond mae yna gamau y gall cymunedau, busnesau a deiliaid tai eu cymryd eu hunain hefyd: 

  • Bod yn ymwybodol o’r risg o lifogydd yn eich ardal chi - Gwiriwch a yw eich cartref neu fusnes mewn ardal sy'n dueddol o ddioddef llifogydd trwy fynd i'n gwefan a nodi'ch cod post (rhowch ddolen). Y cam cyntaf yw bod yn ymwybodol o’r perygl – mae 1 o bob 7 eiddo yng Nghymru mewn perygl o lifogydd. 

  • Os ydych mewn perygl, a bod gwasanaeth rhybuddion llifogydd yn eich ardal (nid yw’r gwasanaeth ar gael ym mhobman, mae'n rhaid i ni flaenoriaethu’r cymunedau sydd fwyaf agored i risg), yna cofrestrwch i gael rhybuddion llifogydd am ddim ar ein gwefan. 

  • Os ydych chi eisiau siarad â rhywun am hyn, ffoniwch y Llinell Llifogydd (0345 9881188) 

  • Bod yn barod – Paratowch gynllun llifogydd er mwyn gwybod beth i'w wneud os caiff rhybudd ei gyhoeddi - yna gallwch gymryd camau i'ch amddiffyn chi’ch hun, eich teulu, a'ch eiddo. Mae llawer o wybodaeth ar ein gwefan am gynlluniau llifogydd, a chamau ymarferol y gallwch eu cymryd cyn, yn ystod, ac ar ôl llifogydd. 

  • Cydweithio – Dewch at eich gilydd i gynhyrchu Cynllun Llifogydd Cymunedol, a chefnogi’ch cymdogaeth. Beth am fod yn rhan o grwpiau llifogydd lleol a chefnogi mentrau i reoli perygl llifogydd eich ardal? 

  • Gweithredu o ran y newid yn yr hinsawdd – Bydd lleihau allyriadau a rheoli tir yn gynaliadwy yn help i leihau’r risgiau hirdymor o lifogydd. 

Mae gennym ni i gyd rôl i’w chwarae, ac mae llawer i’w wneud. Ond drwy gydweithio, gallwn greu Cymru gryfach, sy’n fwy parod ar gyfer heriau hinsawdd y dyfodol. 

I ddysgu sut i baratoi ar gyfer llifogydd, ewch i Cyfoeth Naturiol Cymru / Llifogydd

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru