Allwch chi glywed y gylfinir? Helpwch ni i ddod o hyd i ble maen nhw'n dal i fagu
Yn y blog hwn, mae'r ffermwr a phrif swyddog cadwraeth y gylfinir yn CNC, Bethan Beech, yn ein hatgoffa o'r gwaith sy'n digwydd y gwanwyn hwn i helpu'r gylfinir poblogaidd yng nghefn gwlad Cymru.
Beth yw'r arolwg?
Bydd Arolwg Rhydwyr Bridio Cymru yn cael ei gynnal rhwng 16 Mawrth a 18 Ebrill eleni a bydd yn canolbwyntio ar gylfinir, tra hefyd yn cofnodi cornchwiglod, gïachod, cwtiaid aur, pibyddion y mawn a phibyddion coesgoch sy'n magu.
Bydd syrfewyr yn ymweld â sgwariau 1km dethol ym mis Mawrth, gan dreulio hyd at awr ym mhob un. Os na ddarganfyddir gylfinir, bydd ail ymweliad yn cael ei gynnal i'r un lle ym mis Ebrill.
Bydd syrfewyr yn defnyddio mannau gwylio lle bo modd, yn osgoi tarfu ar dir neu dda byw, a dim ond adar hirgoes fyddant yn eu cofnodi.
Pam mae eich help yn bwysig
Mae'r arolwg a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn rhan o ymdrech ehangach i gefnogi ffermwyr Cymru i amddiffyn y bywyd gwyllt sy'n gwneud ein cefn gwlad yn unigryw - gan gydnabod y rôl y mae ffermwyr yn ei chwarae fel ceidwaid y tir.
Bydd yr arolwg yn:
- Sicrhau bod gweithgareddau plannu coed yn dilyn dull “y goeden gywir, y lle cywir”, heb amharu ar gynefin y gylfinir
- Gwella cywirdeb asesiadau sydd eisoes yn bodoli, yn hytrach nag adio gofynion newydd
- Cefnogi rheoli cynefinoedd yn y dyfodol drwy gynlluniau fel y Cynllun Ffermio Cynaliadwy
Ein nod yw arolygu hyd at 1,200 o sgwariau, a allai gynnwys 3,000–4,000 o ddaliadau ledled Cymru.
Beth allwch chi ei wneud
Os yw'ch tir wedi'i nodi yn ardal yr arolwg, byddwch wedi derbyn e-bost neu lythyr gan CNC ym mis Tachwedd neu fis Rhagfyr y llynedd yn gofyn am ganiatâd i gynnal yr arolwg.
Diolch i bawb sydd wedi ymateb. Byddwn yn parchu eich penderfyniad i ganiatáu neu beidio â chaniatáu i'ch tir gael ei gynnwys yn ardal yr arolwg.
Bydd syrfewyr hefyd yn defnyddio Hawliau Tramwy Cyhoeddus yng nghefn gwlad ehangach i gael mynediad i'r ardaloedd a ddewiswyd i'w harolygu.
Trwy roi eich caniatâd, rydych chi'n chwarae rhan hanfodol i wneud yn siŵr y gall galwad y gylfinir barhau i atseinio ar draws cefn gwlad Cymru am flynyddoedd i ddod.
Dysgwch fwy am gadwraeth gylfinir yng Nghymru.
Llun Gylfinir gan: Gary Jones/ Clwydian Range and Dee Valley National Landscape